Gwyn Hughes Jones: Colli rhieni tra'n canu mewn opera 'anlwcus'
- Cyhoeddwyd
O fewn y byd opera, mae La Forca del Destino yn adnabyddus am ddod ag anlwc i'r perfformwyr.
Fe gafodd y cynhyrchiad cyntaf un ei ohirio am naw mis wedi i'r soprano gael ei tharo'n ddifrifol wael, bu farw'r bariton Leonard Warren ar lwyfan y Met yn Efrog Newydd yn 1960 yn ystod perfformiad ohoni ac roedd Luciano Pavarotti yn gwrthod ei pherfformio rhag iddo gael anlwc.
Yn 2015 fe dderbyniodd Gwyn Hughes Jones ran yn yr opera a chael mwy na'i siâr o newyddion drwg. Bu farw ei fam a'i dad o fewn wythnosau i'w gilydd, ond llwyddodd i fwrw ymlaen â'r opera fel teyrnged iddyn nhw am ei gefnogi ar hyd y blynyddoedd.
Roedd mam y tenor o Fôn wedi bod yn wael gyda chanser ers blynyddoedd pan gafodd ei mab y rhan yn opera Verdi yn 2015.
Roedd hi'n gwaelu pan aeth Gwyn i'w gweld hi cyn dechrau ymarfer gyda'r English National Opera yn Llundain fis Medi.
"Y geiriau dwytha' dd'wedodd Mam wrtha'i oedd - 'ti'n gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd dros y dyddiau nesa' 'ma, ti'n mynd i dy waith wythnos nesa', ac wyt ti'n mynd ymlaen i 'neud beth wyt ti fod i 'neud'. Ac wrth gwrs roedd rhaid mynd i Lundain a chario mlaen," meddai Gwyn Hughes Jones ar raglen Miwsig fy Mywyd ar S4C.
O fewn dyddiau, roedd wedi marw - ac yn unol â'i dymuniad, fe gariodd Gwyn ymlaen gan ddechrau'r ymarferion 10 diwrnod yn ddiweddarach.
Noson agoriadol
Ddeufis wedyn, fe gafodd ergyd arall - a hynny ar noson agoriadol yr opera.
"Doedd fy nhad ddim yn dda chwaith," meddai. "Welis i'n nhad yn Ysbyty Gwynedd y penwythnos cyn i mi wneud y noson agoriadol. Doedd o ddim yn dda, ond doedd o ddim mewn peryg' yn lle oedd o.
"Ar ôl y ddwy act gyntaf dyma mrawd i'n ffonio fi a dweud 'mae o [fy nhad] 'di mynd'.
"Ti'm yn gwybod beth i ddweud wrth gwrs - do's 'na'm byd fedri di neud, dim ond eistedd yn trio dod i dermau."
Gan fod y perfformiad wedi dechrau roedd yn teimlo bod yn rhaid iddo barhau - ond i wneud pethau'n hyd yn oed anoddach roedd y gân oedd angen iddo ei chanu nesaf yn un emosiynol iawn.
"Ti'n sylweddoli mewn pum munud dwi fod i fynd ar y llwyfan nôl allan i berfformio darn mae fy nghymeriad yn canu am berson mae o wedi colli. Mae o'n meddwl bod hi wedi marw ac yn y nefoedd fel angel."
Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw, eglurodd sut oedd wedi gallu perfformio mor fuan ar ôl y fath newyddion:
"Roedd o'n uffernol - dyna'r unig air alla i ddefnyddio i ddisgrifio'r profiad.
"Mae'n syndod faint o gryfder sydd ganddo ni. Mae pob rhan o'r grefft ti wedi dysgu yn dod at ei gilydd i fedru cadw popeth efo'i gilydd, a'r unig beth oeddwn i'n gallu gwneud oedd canolbwyntio ar be' oeddwn i'n gwneud ar y pryd, cario ymlaen tan ddiwedd yr olygfa, ac yna ymlaen i'r olygfa nesa' ac yn y blaen tan cyrraedd y diwedd."
A'r hyn roddodd gryfder iddo gyrraedd diwedd y perfformiad oedd yr union hyn oedd wedi ei golli - ei rieni.
"Roedden nhw wedi bod cymaint o ran o fy ngyrfa a 'ngwaith, a cymaint o gefn i mi - felly roedd cario ymlaen i berfformio yn rhyw fath o deyrnged iddyn nhw.
"Hefyd roedd Dad yn ddyn o egwyddor, roedd yn arfer gweithio yn Yr Wylfa, ac yn gweithio efo peirianyddion fel rhan o dîm, ac roedd pob aelod yn cyfrif ac yn ddibynnol ar bawb arall. Doeddwn i ddim gwahanol, roedd y cantorion eraill a'r staff technegol a phawb yn rhan o dîm a phawb yn dibynnu ar ei gilydd."
Ffilmio'r rhaglen Miwsig fy Mywyd i S4C, sy'n gyfuniad o berfformiadau a chyfweliad am ei fywyd gyda'r cyflwynydd Tudur Owen, oedd y peth olaf i'r canwr wneud cyn i'r argyfwng Covid-19 effeithio ar bopeth.
Fis Chwefror roedd newydd ddechrau paratoi ar gyfer cynhyrchiad yn Norwy pan gaewyd theatrau yno wrth i'r clwy ledu. Mae'r gwaith oedd ganddo weddill y flwyddyn erbyn hyn wedi dod i stop hefyd - yn cynnwys perfformiadau yn yr Unol Daleithiau a Phrydain.
Pryderon Covid-19
Mae'n gyfnod anodd i artistiaid, meddai, gyda rhai cwmnïau cynhyrchu yn cynnig taliadau tra bod eraill yn gwrthod talu'r un geiniog er yr holl waith paratoi.
"Tydi'r Llywodraeth ddim yn helpu pawb chwaith," meddai wrth Cymru Fyw. "Mae pobl yn dweud ein bod ni yn hwn efo'n gilydd, ond tydan ni ddim yn yr un gwch, er ein bod ni yn yr un storm.
"Mae wedi dod i'r amlwg dros yr wythnosau bod diwylliant a'r celfyddydau yn gwneud ein bywydau yn well, mae cymaint o bobl wedi bod yn gwrando ar gerddoriaeth neu ddarllen llyfrau i'w helpu yn ystod y cyfnod - sydd ella'n golygu bod pobl ddim yn gorfod mynd i'r doctor i gael pilsen y diwrnod wedyn."
Mae o'n ceisio defnyddio'r cyfnod yma i gyflawni rhai o'r pethau sy'n cael eu hesgeuluso wrth fynd o un cynhyrchiad i'r llall - fel gorffwys y llais ac ymarfer rhai elfennau o'r grefft sydd wedi eu hamddifadu drwy'r flwyddyn.
Ac mae Covid-19 yn dod â phryder ychwanegol iddo, oherwydd fe all un o effeithiau hirdymor y clefyd amharu ar ei allu i ganu:
"Fydden i'n gallu dal Covid a dod drosto, ond fe all adael yr ysgyfaint mewn cyflwr gwael, a chleisio'r ysgyfaint. Yn amlwg mae'r ysgyfaint mor bwysig i gantorion, felly mae'n frawychus ofnadwy."
Miwsig Fy Mywyd, nos Sadwrn 27 Mehefin am 20.00 ar S4C.
Hefyd o ddiddordeb: