Seintiau yn mynd â Chymdeithas Bêl-Droed Cymru i gyfraith

  • Cyhoeddwyd
Cei Conna yn erbyn Y Seintiau NewyddFfynhonnell y llun, NCM Media
Disgrifiad o’r llun,

Cei Conna (yn y coch) oedd ar frig Uwch Gynghrair Cymru pan ddaeth y tymor i ben

Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yn wynebu gwrandawiad Uchel Lys yn dilyn eu penderfyniad i ddod â thymor Uwchgynghrair Cymru i ben.

Mae'r Seintiau Newydd yn cymryd camau cyfreithiol wedi i Gei Conna gael eu coroni'n bencampwyr ym mis Mai.

Roedd y Gymdeithas wedi gorfod dod â Chynghreiriau Cymru i ben oherwydd pandemig coronafeirws.

Dyfarnwyd y teitl i Cei Conna, oedd ar frig yr Uwch Gynghrair pan gafodd y tymor ei atal ym mis Mawrth, drwy ddefnyddio system o bwyntiau am bob gêm a enillwyd.

Ond yn ôl perchennog y Seintiau, Mike Harris, nid yw'r system honno yn cadw at "deilyngdod chwaraeon".

Mae Mr Harris wedi dweud yn flaenorol ei fod yn ffafrio penderfynu safleoedd terfynol ar ddiwedd rhan gyntaf y tymor ym mis Ionawr pan ranodd y gynghrair yn ddau.

Ar y sail hynny y Seintiau fyddai'n bencampwyr gan mai nhw oedd ar frig y tabl.

Mae Adran Chwaraeon BBC Cymru wedi cael ar ddeall y bydd camau cyfreithiol y Seintiau yn symud i wrandawiad arlein o'r Uchel Lys ar 8 Gorffennaf.

Nid oedd y Gymdeithas Bêl-Droed yn fodlon gwneud unrhyw sylw tan y byddai'r mater yn dod i ben.