Plannu, tocio a chwynnu cyn ailagor Gerddi Bodnant
- Cyhoeddwyd
Mae un o erddi enwocaf gogledd Cymru yn gobeithio ailagor fis nesaf.
Ers y cyfnod clo, mae'r gwaith o gynnal a chadw Gerddi Bodnant yn Sir Conwy wedi bod yn her aruthrol i dîm bach o bedwar, o'i gymharu â thros 30 o staff arferol.
Ond yr wythnos yma, mae'r garddwyr yn dod yn ôl fesul dipyn, er mwyn paratoi ar gyfer ailagor y giatiau ar 6 Gorffennaf.
Wrth gerdded o gwmpas y gerddi, byddai ymwelydd cyffredin yn dal yn meddwl fod y lle'n edrych yn fendigedig, ond i lygaid craff y staff mae yna lawer o waith i'w wneud.
Mae chwyn wedi cael rhwydd hynt i dyfu lle na ddylen nhw, llwyni angen eu tocio, a chynlluniau ar gyfer llecynnau yma ac acw wedi cael eu rhoi o'r neilltu gan fod y garddwyr a'r gwirfoddolwyr arferol wedi gorfod cadw draw.
Mae rhai o'r cynlluniau i ddatblygu'r gerddi hefyd wedi eu rhoi o'r neilltu am y tro, fel yr eglurodd Gwenno Parry o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y corff sy'n gyfrifol am y safle.
"Ar y teras yn fa'ma roedd ganddom ni drefniadau i adnewyddu'r rhan yma i gyd, ond yn amlwg 'efo pob dim sy'n mynd ymlaen mae hwnna ar hold," meddai.
"Gobeithio mewn amser y cawn ni ei wneud o i gyd yn lliwgar."
Gan gyfeirio at ardal Y Glyn, dywedodd fod ambell ddatblygiad mwy calonogol, er yn anfwriadol.
"Fel arfer fysa hwn yn wair gwyrdd, perffaith," meddai. "Ond 'dan ni 'di gada'l o dyfu ar gyfer bywyd gwyllt ac mae o'n edrych yn reit neis - a 'dan ni 'di gweld nifer o fywyd gwyllt yn mwynhau o."
Er nad oes yna ddyddiad pendant wedi ei bennu eto ar gyfer ailagor, dywed Ms Parry bod cynlluniau yn eu lle.
"Mi fydd system archebu tocynnau 'mlaen llaw yma ac mae ganddom ni arwyddion i 'neud yn siŵr bod na ddigon o distance rhwng pobl.
"'Dan ni hefyd wedi strimio'r gwair yn fwy nag arfer ger y llwybrau cul er mwyn ei gwneud hi'n haws i bobl basio ei gilydd yn ddiogel."
Lawr y lôn yng Nghyffordd Llandudno, mae un o ymwelwyr selog y gerddi yn byw - y beirniad blodau, Alan Evans.
"Mae Bodnant yn bwysig iawn," meddai. "Mae o yn le eiconig yn yr ardal yma. Mae 'na blanhigion sydd wedi tyfu yno ers blynyddoedd ac mae'r coronafeirws wedi cael effaith fawr ar sut mae gofalu amdanyn nhw."
Dywedodd y bydd cyfyngiadau'r misoedd diwethaf yn cael effaith hirdymor, nid yn unig ar safleoedd adnabyddus fel Gerddi Bodnant ond ar y diwydiant garddio drwyddi draw.
"Mae'r sioeau bach cefn gwlad wedi eu gohirio i gyd eleni. Dydy stondinau blodau a llysiau ddim yn bod.
"Mae'r sioeau mawr fel yr RHS hefyd wedi eu gohirio ac mae'n debyg na fydd eu sioeau yng Nghaerdydd a Chatsworth yn cael eu cynnal flwyddyn nesa chwaith."
Ar lefel bersonol hefyd mae'r cyfyngiadau'n golygu nad ydy Mr Jones yn gallu agor ei ardd ei hun i'r cyhoedd eleni, er mwyn codi arian dros achosion da.
"Mae ambell i ardd fechan yn agor trwy docyn, ond yn sicr mi fydd yr elusennau ar eu colled oherwydd nad ydy hi'n bosib i ni i gyd arddangos ein gerddi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2014