'Dim synnwyr ariannol' ailagor tafarndai eto

  • Cyhoeddwyd
DiodFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i fesurau pellhau cymdeithasol gael effaith sylweddol ar y diwydiant bwyd a diod

Mae nifer sylweddol o dafarnau'n mynd i aros ar gau, ar ôl i Lywodraeth Cymru ganiatáu iddynt ailagor.

Yn ôl rhai o berchnogion busnes Aberystwyth, does "dim synnwyr ariannol" mewn ailagor.

Mae o leiaf tair o dafarnau'r ardal wedi dweud eu bod yn cau yn gyfan gwbl.

Fe ddaw wrth i berchnogion ddweud bod gwneud elw ac ymbellhau'n gymdeithasol yn amhosib.

'Gwaeth twll'

Yn berchennog ar y Conrah, yn Ffosrhydgaled ger Aberystwyth, mae Geraint Hughes wedi penderfynu peidio ailagor eleni.

Bu'n rhaid iddo wneud penderfyniad anodd a chael gwared ar 26 o staff.

"Dwi ddim yn teimlo bo hi werth y risg i ni ailagor. Un peth pwysig ydy'r risg i iechyd lleol, ond dyw hi ddim yn gwneud synnwyr ariannol i ni agor chwaith.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae perchennog tafarn Yr Hen Lew Du yn Aberystwyth yn "betrusgar" am ail-agor

"Mae 60% o'n hincwm blynyddol ni yn dod gan briodasau, ac mae'r cyfan wedi diflannu eleni. Byddai'n costio mwy i fi ailagor na aros ar gau.

"Dyw'r yswiriant ddim yn fodlon talu allan am coronafeirws chwaith, felly gall y busnes fod mewn gwaeth twll os bydde ni'n ailagor a chael achosion yma.

"Dwi ddim yn teimlo'n gyfforddus ynglŷn â chael gwared ar staff, ond dwi ddim yn gyfforddus ailagor chwaith."

Drysau'n cau

Dydy'r Conrah ddim yn achos unigol o fusnes yn penderfynu aros ar gau.

Mewn datganiad ar eu tudalen Facebook, mae Tafarn Y Gors yn Aberystwyth yn dweud: "Yn y cyfnod anodd hwn, er i ni ymdrechu mor galed i geisio dal ati yn Nhafarn Y Gors, rydym ni wedi penderfynu rhoi'r gorau iddi.

"Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi dros y tri mis diwethaf trwy'r gwasanaeth pryd ar glyd.

"Diolch hefyd am y gefnogaeth y cawsom ni cyn i'r Covid-19 ofnadwy yma ein taro ni."

Mae tafarn Y Fountain Inn, yn Nhrefechan, hefyd wedi penderfynu cau'n llwyr.

Yn ôl arolwg Cymdeithas Gwrw a Thafarndai Prydain [BBPA] byddai 40% o dafarndai'r wlad yn mynd i'r wal petai'r cyfnod clo yn para tan fis Medi.

Yn ôl y BBPA, mae'r diwydiant cwrw a thafarndai yn cyflogi 42,000 o bobl yng Nghymru ac mae werth £950m i'r economi.

Dim dyddiad pendant

Mae cymaint â thri pherchennog tafarn arall wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn ansicr ynglŷn ag agor, hyd yn oed wedi i'r cyfyngiad gael ei godi.

Does dim dyddiad pendant wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â phryd bydd modd i'r tafarnau agor.

Mae disgwyl i dafarnau yn Lloegr, Iwerddon a'r Alban agor dros y penwythnos.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tafarn ar gau yn ystod y cyfnod clo

Un arall sy'n "betrusgar" ynglŷn ag ailagor yw Sara Beechey o'r Hen Lew Du.

"Dwi ddim yn meddwl y byddwn ni'n agor yn syth, ac mae gyd yn dibynnu ar pryd a sut byddwn ni'n cael agor.

"Maen anodd gweld sut mae cadw pellter cymdeithasol mewn tafarn fel un ni."