Gwrth-Semitiaeth: Galw i wahardd aelod Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Plaid CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Plaid Cymru eu bod yn ymchwilio i'r achos ond yn gwrthwynebu unrhyw fath o anffafriaeth

Mae'r corff sy'n cynrychioli cymuned Iddewig y DU wedi galw ar Blaid Cymru i ddiarddel aelod y maen nhw'n eu cyhuddo o hybu gwrth-Semitiaeth.

Yn ôl Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain mae angen i arweinydd y blaid, Adam Price, ddangos ei fod "o ddifrif ynghylch gwrth-Semitiaeth" trwy wahardd Sahar Al-Faifi yn barhaol.

Mae hynny wedi i Ms Al-Faifi ail-drydar neges ar Twitter, sydd bellach wedi'i dileu, yn cysylltu plismona treisgar yn America gydag Israel.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru mewn datganiad fod y blaid "yn ymchwilio" i'r achos.

Ychwanega'r datganiad: "Mae'r blaid yn ymroi i herio anffafriaeth o bob math."

Gwaharddiad blaenorol

Cafodd Ms Al-Faifi ei gwahardd o Blaid Cymru yn Nhachwedd 2019, wedi i negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ddod i'r amlwg, a oedd, yn ôl ei chyfaddefiad ei hun, yn croesi llinell ac yn wrth-Semitig.

Dywedodd Ms Al-Faifi ar y pryd: "Wnes i ddileu'r tweets dros bum mlynedd yn ôl ac ymddiheuro i fudiadau Iddewig ac eraill.

"Rwyf hefyd wedi cael hyfforddiant gwrth-Semitiaeth, yn ffurfiol trwy'r Bwrdd Dirprwyon ac yn anffurfiol gyda chydweithwyr Iddewig i sicrhau nad ydw i byth yn ailadrodd yr un camgymeriadau."

Fe gafodd ailymuno â Phlaid Cymru ym mis Chwefror wedi i banel o fewn y blaid ddod i'r casgliad "nad oedd angen gosod sancsiynau" yn ei herbyn.

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Dirprwyon Iddewig Prydain
Disgrifiad o’r llun,

Manylion yr alwad ar wefan Bwrdd Dirprwyon Iddewig Prydain

Yn dilyn marwolaeth George Floyd yn America wrth i'r heddlu ei arestio, fe gyhoeddodd Ms Al-Faifi neges Twitter ddechrau Mehefin.

Roedd hwnnw'n dweud: "Os rydych yn pendroni ble wnaeth y plismyn Americanaidd yma hyfforddi, edrychwch ddim pellach nag Israel."

Mewn e-bost at Adam Price, dywedodd y Bwrdd Dirprwyon eu bod yn credu fod Ms Al-Faifi wedi gweld codi'r gwaharddiad "fel arwydd bod carte blanche ganddi i barhau i hybu'r fath ddamcaniaethau cynllwynio".

'Gormod o ail gyfleoedd'

Dywedodd Uwch Is-Lywydd y Bwrdd Dirprwyon, Sheila Gewolb: "Mae'r ymgais i feio Israel am sefyllfaoedd ofnadwy mewn gwleidydd eraill yn cael ei ystyried yn wrth-Semitaidd gan lawer o fewn y gymuned Iddewig.

"Rydym yn erfyn arnoch, fel arweinydd Plaid Cymru, i ddangos eich bod o ddifrif ynghylch gwrth-Semitiaeth a Ms Al-Faifi yn benodol trwy ei gwahardd yn barhaol o'ch plaid.

"Mae hi wedi cael gormod o ail gyfleoedd eisoes ac mae'n glir nad wnaiff hi newid.

"Trwy ganiatáu iddi osgoi cosb eto, byddai Plaid Cymru'n danfon neges negatif iawn i gymuned Iddewig y DU."

Disgrifiad o’r llun,

Mae un o ymgeiswyr y blaid yng Nghaerdydd yn etholiad 2021 hefyd yn galw ar Adam Price i weithredu

Ar Twitter yr wythnos ddiwethaf dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Canol Caerdydd yn etholiadau Senedd Cymru yn 2021, William Rees: "Ar ôl mynegi pryderon mewnol ynghylch Sahar Al-Faifi y llynedd, byddaf yn gwneud eto yfory wedi rhagor o negeseuon.

"Mae'r saga yma wedi rhygnu ymlaen am rhy hir o lawer, ac rwy'n gobeithio y bydd Adam Price a'n Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol yn dangos arweiniad ynghylch y mater yma."

Ymateb Sahar Al-Faifi

Dywedodd Ms Al-Faifi wrth BBC Cymru: "Roedd fy neges Twitter ar 1 Mehefin 2020 ar sail adroddiad Amnesty Unol Daleithiau America yn 2016 gyda'r teitl: 'Ble mae llawer o adrannau heddlu yn hyfforddi? Yn Israel.'

"Fe wnaeth Amnesty gywiriad, bedair blynedd wedi'r adroddiad, ar 25 Mehefin 2020, yn datgan fod gwladwriaeth Israeli yn *un* o'r gwledydd ble wnaeth plismyn Americanaidd hyfforddi. Wedi hynny, cafodd fy neges ei dileu.

"Dylid nodi fod beirniadu polisïau unrhyw wladwriaeth neu wlad, boed yn America, y DU, Saudi Arabia neu wladwriaeth Israel yn hanfodol i warchod democratiaeth a hawliau dynol ar draws y byd."

Ychwanegodd: "Rwy'n deall ofnau'r gymuned Iddewig a hoffwn roi sicrwydd iddyn nhw fy mod yn sefyll yn gadarn gyda nhw yn erbyn gwrth-Semitiaeth, oherwydd rwy'n ymroi i weithio gyda nhw dros Gymru fwy teg, croesawgar a chynhwysol i bawb."