Newyddion 'cwbl drychinebus' i weithwyr Airbus

  • Cyhoeddwyd
BrychdynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Airbus yn cyflogi mwy na 6,000 o bobl ar ei safle ym Mrychdyn, Sir y Fflint

Mae cynllun i dorri 1,700 o swyddi gan gwmni Airbus wedi cael ei ddisgrifio fel "cwbl drychinebus" gan weinidog yr economi.

Dywedodd Ken Skates y bydd nifer anferth o weithwyr yn bryderus dros ben am y cyhoeddiad.

Mae disgwyl i'r colledion yn y DU ddigwydd ym Mrychdyn, Sir y Fflint a Filton ger Bryste.

Dywedodd y cwmni nos Fawrth eu bod yn bwriadu colli 15,000 o swyddi drwy Ewrop wrth geisio delio gydag effaith yr argyfwng coronafeirws.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Dywedodd Peter Hughes, ysgrifennydd rhanbarthol undeb Unite yng Nghymru: "Byddai colli'r swyddi yma yn Airbus yn cael effaith ddinstriol ar y sector awyrofod yng Nghymru ac ar economi Cymru yn ehangach.

"Mae Unite wedi bod yn galw ar lywodraeth y DU ers misoedd am gynllun i gefnogi'r sector... mae'r gefnogaeth yma wedi dod gan Ffrainc a'r Almaen. A fydd llywodraeth y DU nawr yn gwneud yr hyn sydd angen i warchod swyddi yn y DU?

"Ry'n ni'n galw ar Airbus i gamu nôl rhag gweithredu'r cynllun yma. Rhaid gwneud popeth i drafod gyda'r llywodraeth i weld os oes modd rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol tan i'r argyfwng yma ein gadael.

"Ni fydd Unite yn derbyn unrhyw gynnig sy'n cynnwys diswyddiadau gorfodol i'n haelodau."

Mae'r cwmni'n disgwyl diswyddo:

  • 1,700 o weithwyr yn y DU

  • 5,000 o weithwyr yn Ffrainc

  • 5,100 o weithwyr yn yr Almaen

  • 900 o weithwyr yn Sbaen

  • 1,300 o weithwyr yn safleoedd eraill y cwmni ar draws y byd.

Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd prif weithredwr Airbus, Guillaime Faury: "Mae Airbus yn wynebu'r argyfwng mwyaf difrifol yn hanes y diwydiant.

"Mae'r mesurau yr ydym wedi eu cymryd hyd yn hyn wedi ein galluogi i amsugno sioc gychwynnol y pandemig byd-eang hwn."

Ychwanegodd y cwmni y bydd mwy o fanylion am y diswyddiadau yn ddiweddarach yn yr wythnos yn dilyn trafodaeth gyda'r undebau.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: "Mae'r newyddion yma'n gwbl drychinebus.

"Fe fydd nifer enfawr o weithwyr yn Airbus yn eithriadol bryderus o glywed y newyddion yma - mae fy meddyliau i gyda hwy a'u teuluoedd.

"Fel Llywodraeth Cymru, byddwn yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r cwmni, ei weithlu, yr undebau a'r cymunedau sydd wedi'u heffeithio gan hyn - a byddaf yn datgan ymateb Llywodraeth  Cymru mewn mwy o fanylder heddiw. 

"Mae'r sector mewn argyfwng a rhaid i Lywodraeth y DU weithredu'n gyflym ac yn bendant nawr er mwyn achub y diwydiant a'i gadwyn gyflenwi. Rydyn ni wedi gweld arwyddion o hyn ers wythnosau a rhaid wrth gamau ar fyrder ar lefel y DU er mwyn atal yr argyfwng hwn rhag gwaethygu fwy fyth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae bob swydd gydag Airbus yn cefnogi tair swydd arall, medd un Aelod Senedd

Rhybuddiodd AS Plaid Cymru, Llyr Gruffydd y gallai dau draean o'r 1,700 o swyddi gael eu colli ym Mrychdyn - rhyw 1,100 o swyddi yng Nghymru.

Ychwanegodd bod bob un o swyddi Airbus yn cefnogi tair arall yn lleol.

"Ry'n ni'n sôn am 25,000 o bobl sy'n ddibynnol ar Airbus ym Mrychdyn am eu gwaith," meddai.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart: "Rwyf wedi siarad gydag Airbus yr wythnos hon a byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda'r cwmni, yr undebau a Llywodraeth Cymru i wneud popeth y gallwn ni i gefnogi'r gweithwyr a'r rhai sy'n cael eu heffeithio yn y gadwyn gyflenwi ehangach."