Marwolaethau: Cyhuddo Network Rail o 'fethiannau difrifol'

  • Cyhoeddwyd
Gareth Delbridge a Michael LewisFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Delbridge (chwith) a Michael Lewis yn gwisgo offer i amddiffyn eu clyw ar y pryd

Mae teulu gweithiwr rheilffordd fu farw ar ôl cael ei daro gan drên union flwyddyn yn ôl â phryder bod "methiannau difrifol" o fewn y sefydliad oedd yn ei gyflogi.

Cafodd Gareth Delbridge, 64, a Michael 'Spike' Lewis, 58, eu lladd gan drên ger Margam ym Mhort Talbot ar 3 Gorffennaf 2019.

Dywedodd mab yng nghyfraith Mr Delbridge, Adrian Grant ei bod yn "annerbyniol" fod adroddiad terfynol ymchwiliad Network Rail yn "rhoi'r bai ar yr unigolion".

Ychwanegodd ei fod yn credu bod y ffordd o weithio o fewn y sefydliad "ddim yn addas i'w bwrpas".

Fe wnaeth Network Rail sefydlu tasglu gwerth £70m er mwyn gwella trefniadau diogelwch ar gyfer gweithwyr rheilffordd mewn ymateb i'r digwyddiad.

Neb yn gwylio am drenau

Fe wnaeth ymchwiliad Network Rail ganfod bod Mr Delbridge a Mr Lewis wedi bod yn defnyddio offer oedd ag injan betrol, ac felly'n gwisgo offer dros eu clustiau i amddiffyn eu clyw.

Roedd hynny'n golygu na wnaeth y ddau glywed y trên, oedd yn teithio o Abertawe i Lundain.

Dywedodd yr adroddiad bod chwe aelod o staff yn gweithio ar y rheilffordd ar y pryd yn gweithio mewn grwpiau o dri, ond nad oedd unrhyw un yn gwylio am drenau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adrian Grant ei bod yn "annerbyniol" fod yr adroddiad yn rhoi'r bai ar unigolion

Dywedodd Mr Grant, o Borthcawl: "Roedd rhain yn ddynion profiadol iawn aeth i'r gwaith y diwrnod hwnnw a ni ddaethon nhw adref.

"Os gall hyn ddigwydd i'r dynion yma mae'n amlwg i mi fod methiannau difrifol iawn o fewn y sefydliad.

"Mae'n annerbyniol i sefydliad gyhoeddi adroddiad terfynol ymchwiliad yn rhoi'r bai ar y bobl oedd yn gweithio ar y trac."

'Hen ffasiwn'

Roedd yr adroddiad yn feirniadol o'r tîm rheoli yn safle Network Rail ym Mhort Talbot, gan ddweud bod "arferion gweithio wedi normaleiddio ymddygiad" oedd yn mynd yn erbyn canllawiau'r cwmni.

"Yr hyn ry'n ni eisiau ydy i Network Rail wneud y rheilffordd yn fwy diogel i'r gweithwyr sy'n rhoi eu bywydau mewn perygl," meddai Mr Grant.

"Dyw'r arferion gwaith presennol ddim yn addas i'w pwrpas.

"Mae'r ffordd o weithio yno yn hen ffasiwn - mae dynion â fflagiau a chwibanau yn wynebu trenau sy'n teithio 120mya."

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad angheuol rhwng gorsafoedd Y Pîl a Phen-y-bont

Dywedodd adroddiad Network Rail bod y person oedd i fod yn gwylio am drenau wedi bod yn helpu gyda'r gwaith o drwsio'r rheilffordd, yn groes i'r canllawiau.

Ychwanegodd bod y timau i fod yn gweithio tua 20 llath i ffwrdd o'i gilydd, ond eu bod 150 llath ar wahân mewn gwirionedd.

Dywedodd Mr Grant bod "dim gwersi'n cael eu dysgu" wrth roi'r bai ar unigolion.

"Yr hyn sydd angen ei ddysgu ydy beth wnaeth arwain at y marwolaethau a gobeithio unwaith y byddwn ni'n gwybod hynny ac mae pawb yn derbyn hynny y gallwn ni sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto," meddai.

'Nid canfod bai oedd y nod'

Dywedodd Network Rail bod nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y digwyddiad, gan gynnwys "sut roedd staff wedi'u hyfforddi, sut roedden nhw'n cael eu goruchwylio a'r ffordd roedd gwaith yn cael ei gynllunio a'i ddosbarthu".

Ychwanegodd mewn datganiad mai "nid canfod bai oedd nod yr adroddiad".

"Diogelwch ein gweithwyr yw ein blaenoriaeth, ac mae perfformiad diogelwch Network Rail yn parhau ymysg y gorau o unrhyw gwmni rheilffordd yn Ewrop," meddai'r datganiad.

"Ond mae'r digwyddiad trasig y llynedd yn ein hatgoffa bod angen rhagor o welliannau."

Ychwanegodd bod y cwmni wedi newid ei ffordd o weithio ers y digwyddiad, gan gynnwys lleihau'r achlysuron ble does gan weithwyr neb yn gwylio am drenau.