Heddlu: 'Peidiwch rhuthro i dafarndai dros y ffin'
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n annog y cyhoedd yng Nghymru i gadw at y neges i aros yn lleol dros y penwythnos wrth i dafarndai ddechrau ailagor dros y ffin.
Daw yn dilyn pryderon y bydd rhai yn teithio ar drên neu yn eu ceir i drefi a dinasoedd yn Lloegr i yfed mewn tafarn am y tro cyntaf mewn dros dri mis.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford nad yw eisiau gweld y gwaith da sydd wedi'i wneud yn rheoli coronafeirws yng Nghymru yn cael ei ddadwneud.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi pwysleisio hefyd bod y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithio hanfodol yn unig.
Yng Nghymru ni fydd tafarndai yn ailagor nes 13 Gorffennaf, a hynny tu allan yn unig.
Yr heddlu'n parhau ar batrôl
Dywedodd Heddlu Gwent y byddai'n trafod gyda chymunedau er mwyn pwysleisio'r neges i "aros yn ddiogel, aros yn lleol".
"Mae ardal ein llu ni ar y ffin wrth un o'r prif lwybrau rhwng Cymru a Lloegr," meddai llefarydd.
"Rydyn ni eisiau atgoffa ein cymunedau bod gwahaniaethau rhwng y canllawiau yng Nghymru a Lloegr, a dyw'r newidiadau i'r canllawiau yng Nghymru ddim wedi dod i rym eto."
Mae rhai cefnogwyr pêl-droed wedi bod yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i awgrymu teithio i dafarndai ym Mryste, ble bydd Caerdydd yn herio Bristol City brynhawn Sadwrn.
Dywedodd Heddlu Gwent y byddan nhw'n parhau ar batrôl trwy'r penwythnos cyn i'r cyfyngiadau ar deithio gael eu diddymu ddydd Llun.
Rhybuddiodd y llu bod pobl fydd yn cael eu dal yn anwybyddu'r rheolau yn cael eu cosbi.
'Peidiwch yfed a gyrru'
Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys atgoffa'r cyhoedd nad oes hawl teithio mewn grwpiau neu gyda phobl sydd ddim yn rhannu tŷ â chi.
"Mae'n hollbwysig bod unrhyw un sy'n bwriadu yfed alcohol i ffwrdd o'u cartref yn sicrhau eu bod yn iawn i yrru cyn gwneud hynny, neu'n trefnu ffordd arall o deithio," meddai llefarydd.
"Mae yfed a gyrru'n gallu arwain at ganlyniadau trasig, ac ar ôl tri mis o'r wlad yn dod at ei gilydd er mwyn y GIG ry'n ni'n gobeithio y bydd pawb yn parhau i ymddwyn yn gyfrifol ac yn aros yn ddiogel y penwythnos hwn."
Fe wnaeth Mr Drakeford adleisio negeseuon yr heddlu ddydd Gwener, gan alw ar y cyhoedd i aros yn lleol am un penwythnos yn rhagor.
"Ble bynnag ydych chi yng Nghymru, dyw'r penwythnos yma ddim yn rheswm nac yn esgus i ddadwneud yr hyn ry'n ni wedi gweithio mor galed i'w gyflawni - plîs parhewch i wneud y pethau hynny sy'n helpu i gadw Cymru'n ddiogel," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2020