Cynghorydd o Fôn yn ennill apêl dyfarniad cynllunio

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys y cyngor yn LlangefniFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Pencadlys Cyngor Ynys Môn yn Llangefni

Mae cynghorydd sydd ar bwyllgor cynllunio Cyngor Ynys Môn wedi cael mwy o amser i glirio safle yr oedd wedi ei drawsnewid i fod yn safle sêl cist car heb ganiatâd cynllunio.

Honnwyd bod y Cynghorydd Eric Wyn Jones wedi caniatáu'r gwaith o ddatblygu'r safle ar gae y mae'n berchen arno ar gyrion Llanfairpwllgwyngyll.

Fe achosodd hyn ymchwiliad gan Gyngor Ynys Môn a arweiniodd at hysbysiad gorfodi yn erbyn y Cynghorydd Jones.

Cafodd orchymyn i droi'r tir yn ôl i'w gyflwr gwreiddiol gan gynnwys cael gwared ar lifoleuadau a thoiledau oedd wedi'u storio yno.

Apêl am amser ychwanegol

Ond, ar ôl cael tri mis i gydymffurfio â'r gorchymyn, penderfynodd yr Arolygaeth Gynllunio fod apêl y Cynghorydd Jones yn un dilys, ar ôl iddo ofyn am fwy o amser i glirio'r safle.

Daeth yr Arolygiaeth Gynllunio i'r casgliad fod chwe mis yn amser mwy priodol i glirio'r safle. Roedd y cynghorydd wedi gofyn am naw mis o gyfnod.

Wedi'i ethol yn 2017 ar gyfer ward Bro Rhosyr, rhestrodd y Cynghorydd Jones, aelod o grŵp Annibynnwyr Môn, berchnogaeth y cae ar ei gofrestr fuddiannau a chafodd ei enwi hefyd fel yr apelydd.

Adroddiad

Daeth adroddiad yr Arolygaeth Gynllunio i'r casgliad bod coronafeirws yn un ffactor ymysg nifer allai effeithio ar pa mor sydyn fyddai'r gwaith clirio yn cael ei gwblhau, gan na fyddai mor hawdd dod o gyd i gontractwyr.

"Yn yr achos hwn, rhaid i mi gydbwyso rheswm y cyngor dros gyhoeddi'r rhybudd er budd y cyhoedd yn erbyn y baich a roddir ar yr apelydd," meddai'r adroddiad.

"Gan roi sylw arbennig i'r sefyllfa, oherwydd coronafeirws a'r ansicrwydd cysylltiedig o ran cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, rwy'n fodlon y dylid ymestyn y cyfnod cydymffurfio.

"Rwy'n ystyried y byddai cyfnod estynedig o chwe mis i ganiatáu i'r gwaith gael ei wneud yn taro'r cydbwysedd priodol", meddai'r Arolygydd Declan Beggan yn ei adroddiad.

Mae disgwyl i'r Cynghorydd Jones gwblhau'r gwaith erbyn 22 Rhagfyr, 2020.