Cyn-wraig i ad-dalu £1 am dwyllo cyn-fewnwr o £1m
- Cyhoeddwyd
Bydd cyn-wraig Gareth Cooper, a fu'n fewnwr i Gymru a'r Llewod, ond yn gorfod ad-dalu £1, er iddi ei dwyllo o dros £1m a'i adael yn fethdalwr.
Roedd Mr Cooper, 41, wedi sefydlu busnesau cludiant a champfeydd er mwyn i'w wraig ar y pryd, Debra Leyshon, eu rhedeg.
Ond fe wnaeth Leyshon, 41, gymryd benthyciadau a morgeisi ychwanegol ar y cartref teuluol a phedwar eiddo arall yn enw'i gŵr, gan roi'r argraff iddo yntau fod y busnesau'n "ffynnu".
Cafodd Leyshon ddedfryd o ddwy flynedd o garchar wedi ei ohirio ar ôl pledio'n euog i 13 o gyhuddiadau o dwyll.
Cafodd ei phartner busnes, Simon Thomas, 47, a dyn arall, Mark Lee ddedfrydau o garchar wedi'u gohirio hefyd ar ôl cyfaddef i dwyllo Mr Cooper.
Mewn gwrandawiad dan y Ddeddf Elw Troseddol ddydd Gwener, clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Leyshon, o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi cael £371,271 trwy dwyll. £161,081 oedd y swm yn achos Thomas, sydd o'r Bont-faen.
Ond fe wnaeth y Barnwr David Wynn Morgan orchymyn i'r ddau ad-dalu £1 yn unig o fewn 28 diwrnod.
Dywedodd Roger Griffiths ar ran yr erlyniad: "Mae Leyshon a Thomas ill dau yn fethdalwyr, ac mae ymddiriedolwr methdaliad y delio â'u hasedau.
"O ganlyniad, gall Y Goron ond adennill swm bach iawn oherwydd eu statws."
Roedd yr erlyniad wedi penderfynu peidio ceisio cael ad-daliad yn achos Lee, sy'n 43 oed ac o Gaerwysg.
Mewn datganiad wedi i'r diffynyddion gael eu dedfrydu fis Rhagfyr diwethaf, fe dalodd Mr Cooper deyrnged i'w rieni am fenthyg arian iddo o'u cronfeydd pensiwn "ar adeg pan ddylien nhw wedi bod yn cynllunio ar gyfer ymddeol".
Ychwanegodd ei fod wedi cael ei dwyllo "gan y person roeddwn yn ymddiried ynddi fwyaf - fy ngwraig a mam fy mhlant. Dydw i ddim yn meddwl y byddaf fyth yr un peth eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2019