Cwestiynu meini prawf Albwm Cymraeg y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae cerddor blaenllaw wedi galw am gyflwyno newidiadau i'r ffordd mae trefnwyr cystadleuaeth Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn llunio'u rhestr fer.
Yn ôl Gai Toms, mae angen ystyried elfennau fel gwaith celf a chysyniad yn ogystal â sain yr albwm wrth lunio rhestr fer.
Mae Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn wobr sy'n cael ei rhoi i'r albwm gorau a gyhoeddwyd yn y Gymraeg yn ystod y flwyddyn.
Nid yw'r albwm 'Orig' gan Gai Toms a'r Banditos wedi ei gynnwys ar y rhestr fer eleni.
Trefnwyr y gystadleuaeth yw Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ond nid yw'r brifwyl yn rhan o unrhyw benderfyniad a allai ddylanwadu ar y drafodaeth a'r penderfyniad.
Dywedodd yr Eisteddfod fod y gystadleuaeth yn dilyn yr un drefn â gwobrau fel y Mercury Prize ac eraill.
Cafodd y wobr ei chyflwyno am y tro cyntaf yn 2014, a dyma'r chweched tro iddi ddigwydd.
'Barnu carbonara ar y sbageti yn unig?'
"Mae albwm yn cynnwys tair elfen, ac mae angen eu hystyried yn gyfartal," meddai Gai Toms.
"Y caneuon, y geiriau a'r cysyniad (concept); y sain a'r cynhyrchiad (o fewn cyd-destun y caneuon); y pecyn celf (o fewn cyd-destun y caneuon)."
Mae Gai Toms yn galw am banel i ystyried bob elfen yn unigol, gan ei fod yn bryderus mai dim ond sain yr albwm sy'n cael ei ystyried.
"Os ydi'r albwm yn cael ei ffrydio'n ddigidol yn unig, mae'r panel yn methu allan ar elfennau hanfodol o brofi albwm," meddai.
"I mi, fel rhywun sy'n hoff o concept, geiriau, stori... a gafodd y concept chwarae teg?!
"Artistiaid dyla' osod canllawiau i'r albwm yma, dim rhywun mewn swyddfa yng Nghaerdydd."
Ychwanegodd: "Os ydi'r Eisteddfod wedi caniatáu i'r panel wrando drwy ffrydio yn unig (heb glawr/celf yn eu dwylo) ydi hynny'n gyfartal i food critic yn barnu carbonara ar y sbageti yn unig?"
Wrth ymateb i sylwadau Gai Toms ar Twitter, mae'r canwr Bryn Fôn wedi ychwanegu: "Os wyt ti'n cynhyrchu rwbath sydd yn boblogaidd, yn denu cynulleidfa, yn gwerthu reit dda, yna rwyt yn siŵr o bechu'r intelligentsia cerddorol cŵl Cymraeg, a nhw sy'n rhedeg y sioe!"
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
'Y canllawiau heb newid'
"Roedd Gai Toms yn feirniad yn 2015 ac mae wedi cyrraedd y rhestr fer ddwywaith… nid yw'r canllawiau wedi newid ers hynny," meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.
"Roedd bron i 40 albwm yn gymwys ar gyfer y wobr eleni, ac fe ddewisodd panel annibynnol o feirniaid, sy'n cynrychioli genres cerddorol amrywiol ac sy'n arbenigwyr yn eu meysydd, restr fer o 11.
"Rydym yn teimlo bod y sylwadau diweddar ar Trydar yn tynnu oddi ar lwyddiant y rheini sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, ac rydym yn awyddus i hyn ddod i ben fel bod pobl yn cael cyfle i fwynhau gwrando ar y gerddoriaeth sydd wedi dod i'r brig."
Gydag Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion wedi'i gohirio am eleni, mae'r trefnwyr yn cydweithio gyda Gŵyl AmGen BBC Radio Cymru, a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Sadwrn 1 Awst, yn ystod yr ŵyl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2019