Brwydr gyfreithiol y Seintiau Newydd yn erbyn CBDC yn methu

  • Cyhoeddwyd
Cei Connah yn erbyn Y Seintiau NewyddFfynhonnell y llun, NCM Media
Disgrifiad o’r llun,

Cei Connah (yn y coch) oedd ar frig Uwch Gynghrair Cymru pan ddaeth y tymor i ben

Mae'r Seintiau Newydd wedi bod yn aflwyddiannus yn eu hachos yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn yr Uchel Lys.

Fe aeth y Seintiau â'r Gymdeithas i gyfraith wedi i Gei Connah gael eu cyhoeddi fel enillwyr Uwch Gynghrair Cymru ar ôl i'r tymor gael ei gwtogi oherwydd Covid-19.

Cafodd y tabl terfynol ei benderfynu ar sail system o bwyntiau am bob gêm gafodd eu hennill, a Chei Connah oedd ar y brig pan gafodd y tymor ei atal.

Fe wnaeth y Gymdeithas Bêl-droed groesawu'r penderfyniad, gan ychwanegu ei fod wedi "ymddwyn yn briodol... i amddiffyn diddordebau pêl-droed yng Nghymru."

'Siomedig'

Wedi'r penderfyniad gan Mr Ustus Marcus Smith ddydd Llun, dywedodd perchennog y Seintiau Newydd, Mike Harris ei fod yn "siomedig" ond nad oedd yn difaru mynd i gyfraith.

Ychwanegodd bod y clwb yn ystyried apelio yn erbyn y penderfyniad.

Eleni oedd y tro cyntaf erioed i Gei Connah ennill yr Uwch Gynghrair, wedi i'r Seintiau ei hennill am yr wyth mlynedd ddiwethaf.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru mewn datganiad bod y penderfyniad i ddod â'r tymor i ben "ddim yn seiliedig ar ddiddordebau unrhyw glwb, ond er budd y gymuned bêl-droed yn ehangach."