Plaid Cymru yn addo dileu tlodi plant a phobl hŷn

  • Cyhoeddwyd
Plant
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Plaid Cymru bod "200,000 o blant yn parhau i fyw mewn tlodi yng Nghymru"

Mae Plaid Cymru yn dweud y byddan nhw'n cael gwared ar dlodi ymhlith yr hynaf a'r ieuengaf yng Nghymru, wrth iddyn nhw osod eu stôl ar gyfer etholiad Senedd Cymru y flwyddyn nesa'.

Dywedodd yr arweinydd Adam Price y byddai ei blaid yn cyflwyno gofal plant am ddim i'r tlotaf, yn cyflwyno tâl wythnosol o £35 i gefnogi plant, a chreu gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol.

Byddai'r cynlluniau, meddai, yn caniatáu i rieni ddychwelyd i'r gwaith, yn creu "hyd at 3,000 o swyddi newydd" ac yn "hwb i incwm miloedd o gartrefi."

Mae disgwyl i Etholiad Senedd Cymru, y cyntaf ers i Mr Price gymryd yr awenau yn 2018, gael ei gynnal ar 6 Mai 2021.

Un prawf etholiadol sydd wedi bod i Mr Price ers dod yn arweinydd, sef Etholiad Cyffredinol y DU ym mis Rhagfyr y llynedd.

Fe lwyddodd y blaid gadw eu pedair sedd yn yr etholiad hwnnw a chodi cyfran eu pleidlais mewn tair o'r seddi hynny.

Ond mewn etholiad gafodd ei alw dan gysgod Brexit, fe ddisgynnodd cyfran eu pleidlais ar draws Cymru gyfan o 0.5%.

'Cenedl gyfartal'

Y flwyddyn nesaf fe fydd y blaid yn wynebu etholiad i Senedd Cymru, dan gysgod arall: pandemig Covid-19.

Yn yr etholiad diwethaf i Fae Caerdydd yn 2016 fe enillodd Plaid Cymru 12 sedd tra'n cael eu harwain gan Leanne Wood.

Fe ddisgynnodd y nifer hwnnw i 10 yn ddiweddarach wedi i gyn-arweinydd arall, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, adael y blaid a throi'n aelod annibynnol yna ymuno a'r Llywodraeth Lafur fel dirprwy weinidog annibynnol, cyn i aelod arall, Neil McEvoy, gael ei atal o'r blaid.

Yn sgîl hynny, fe ddiflannodd statws Plaid Cymru fel gwrthblaid fwyaf y Senedd, gan ddisgyn tu ôl i'r Ceidwadwyr.

Wrth gyflwyno'i weledigaeth ar gyfer etholiad fis Mai, dywedodd Mr Price mai "cenhadaeth" y blaid mewn Llywodraeth fyddai creu "cenedl gyfartal lle mae pawb yn gydradd."

Tlodi yn 'felltith ar ein cymunedau'

Ymhlith y cynigion mae:

  • Taliad Plentyn o £35 yr wythnos i'r teuluoedd tlotaf;

  • Gofal Plant am Ddim, fyddai'n cynnig addysg a gofal i bawb o 12 mis oed;

  • Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol, yn darparu gofal iechyd a chymdeithasol am ddim a rhoi tâl ac amodau cyfartal i weithwyr iechyd a gofal.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Price ei fod "eisiau i'm mab dyfu i fyny mewn gwlad lle mae tlodi yn atgof pell"

Yn ôl Mr Price y nod fyddai cynnig "cyfleoedd i'r ieuenctid ac urddas i'r rhai yn eu henaint."

"Ar ôl 20 mlynedd o lywodraeth dan arweiniad Llafur, mae 200,000 o blant yn parhau i fyw mewn tlodi yng Nghymru," meddai.

"Mae hynny'n felltith ar ein cymunedau ac yn rhywbeth rwy'n benderfynol o'i newid gyda thaliad plant o £35 yr wythnos wedi'i dargedu at deuluoedd sy'n gorfod penderfynu rhwng cynhesu'r cartref a bwydo'r plant.

"Byddai cynnig gofal plant Plaid Cymru yn rhoi hwb i incwm miloedd o gartrefi, gan ganiatáu i rieni sydd ddim yn gweithio ddychwelyd i'r gweithle a chreu hyd at 3,000 o swyddi newydd."

'Tlodi yn atgof pell'

Ychwanegodd: "Yn yr un modd, bydd y Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn gwneud Cymru yn 'genedl ofalgar' - gan brisio ein staff gofal â chyflogau sy'n debyg i'r GIG a gwneud gofal cymdeithasol, yn rhad ac am ddim wrth eu darparu.

"Rydw i eisiau arwain llywodraeth ar gyfer pob cenhedlaeth - llywodraeth sy'n cyflawni newid radical, nid er mwyn newid ond er mwyn y miloedd o deuluoedd sydd angen gweld y dyfodol hwnnw.

"Rydw i eisiau i'm mab dyfu i fyny mewn gwlad lle mae tlodi yn atgof pell diolch i'r gred nad oes her rhy fawr i'w goresgyn.

"Etholiad Senedd 2021 yw'r amser ar gyfer newid, a dim ond trwy roi ar waith yr hyn y mae'r Llywodraeth bresennol wedi methu ei gyflawni y gallwn weld newid go iawn."