Pryder am effaith siediau ieir ar amgylchedd Powys

  • Cyhoeddwyd
Ieir

Mae ymgyrchwyr yn y canolbarth yn ddweud na ddylai unrhyw geisiadau cynllunio am siediau ieir newydd gael eu cymeradwyo ym Mhowys nes bod effaith y siediau presennol ar yr amgylchedd yn gliriach.

Mae Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW) yn amcangyfrif bod cyfanswm o bron i 10 miliwn o ieir ar dros 200 o ffermydd yn y sir.

Mae'r elusen yn poeni am effaith ffosffadau ac amonia sy'n deillio o'r siediau, ar ecoleg a bioamrywiaeth.

Rheoleiddio

Ond mae undeb sy'n cynrychioli ffermwyr yn dweud fod yn rhaid i'w haelodau weithredu eu hunedau dofednod i safonau amgylcheddol uchel a'u bod yn cael eu rheoleiddio a'u harchwilio'n rheolaidd.

Ychwanegodd yr undeb bod arallgyfeirio i gynhyrchu cyw iâr neu wyau wedi galluogi llawer o ffermwyr i roi eu busnesau ar dir mwy sefydlog.

Mae'r YDCW yn poeni am effaith unedau dofednod mawr - rhai dros gan metr o hyd - ar dirwedd Powys. Dywed yr elusen hefyd y gall amonia, a allyrrir o'r unedau, niweidio planhigion, ac y gall ffosffadau mewn tail ieir lygru afonydd.

Dywedodd Carys Matthews, rheolwr gweithredoedd YDCW: "Da ni'n dweud wrth yr awdurdodau nad ydyn nhw wedi casglu digon o dystiolaeth wyddonol am yr effaith ar yr amgylchedd. Mae na ddigon o gwestiynau difrifol am gyflwr ein hafonydd a bioamrywiaeth i gael moratoriwm nes ein bod ni'n gallu asesu'r effaith yn iawn."

Ceisiadau cynllunio

Yn ôl yr elusen, ers 2015 mae 139 o geisiadau am siediau ieir wedi'u cymeradwyo ym Mhowys, ar gyfer cyfanswm o 4.5 miliwn o adar. Dim ond un cais gafodd ei wrthod yn ôl yr YDCW.

Mae'r elusen yn arbennig o bryderus ynglŷn a chyflwr afonydd ym Mhowys, a sut maen nhw'n cael eu heffeithio os bydd ffosffadau o faw ieir yn llifo oddi ar y tir i nentydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Christine Hugh-Jones ymysg y rhai sydd yn pryderu am yr effaith ar yr afonydd lleol

Dywedodd Dr Christine Hugh-Jones, ysgrifennydd cangen Brycheiniog a Sir Faesyfed yr YDCW: "Rwy'n poeni y bydd yr afonydd yn marw, ac mae hynny'n golygu'r gadwyn ecolegol gyfan. Yn amlwg, mae'r pysgotwyr yn poeni fwyaf am y pysgod, ond mae pysgod yn ddangosydd da - mae angen dŵr glân arnyn nhw ac maen nhw ar ben y gadwyn fwyd felly beth sy'n digwydd oddi tano os yw'r pysgod i gyd yn marw?"

Mae Gwyn Price yn ffermwr defaid a gwartheg yn Sir Faesyfed - mae ganddo siediau dofednod ar gyfer 24,000 o ieir hefyd, sy'n dodwy wyau maes sy'n cael eu gwerthu yn bennaf yn archfarchnadoedd Waitrose.

Dywedodd Mr Price bod ffermwyr yn cael eu monitro'n agos i sicrhau eu bod yn cwrdd â safonau amgylcheddol - "Pan ewch chi am ganiatâd cynllunio ar gyfer sied ieir mae yna lawer o reolau. Rhaid i'r siediau fod ymhell i ffwrdd o nentydd ac yn y blaen, ac mae'n rhaid bod yn ofalus iawn wrth wasgaru tail a lle mae'n cael ei roi. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei wneud i sicrhau bod y ffosffad o'r siediau dan reolaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Gwyn Price ger un o'i siediau ieir ar ei fferm yn Sir Faesyfed

Dywedodd Aled Jones, dirprwy lywydd undeb NFU Cymru: "Mae ffermwyr wastad yn gorfod edrych ar farchnadoedd newydd a heb os nac oni bai mae'r ffermwyr yma sydd wedi arallgyfeirio yn gweld cyfle iddyn nhw a'u teuluoedd - mae hyn yn cadw pobl yng nghefn gwlad.

"A rhaid i ni gofio bod llawer iawn o'n cig gwyn ac wyau ni yn dod mewn o wledydd eraill. Byddai'n gymaint gwell os gallwn ni gynhyrchu hwnnw gartref yn ein gwlad ein hunain.

"Mae'n fy nharo i bod patrwm wedi bod yn sefydlu ei hun fel bod ffermwyr yn cael y bai am bopeth. Mae'r safonau da ni'n gorfod cydymffurfio gyda nhw yn y wlad yma gyda'r uchaf yn y byd, heb os nac oni bai. Mae'r archfarchnadoedd yn mynnu hynny, mae'r corff rheoleiddio yn mynnu hynny hefyd."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Rhaid i bob uned dofednod ar gyfer mwy na 40,000 o adar gael trwydded amgylcheddol gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac yna cawn nhw eu rheoleiddio.

Mewn datganiad dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru - "Byddwn ni ond yn caniatáu trwydded os ydym yn credu na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi. Bydd unrhyw drwydded a roddwn yn cynnwys amodau i amddiffyn iechyd pobl a'r amgylchedd.

"Rydym yn monitro ansawdd dŵr yn rheolaidd mewn afonydd ledled Cymru, mae hyn yn cynnwys mesur lefel maetholion. Rydym yn rheoleiddio ystod o weithgareddau lle mae potensial i lygredd ddigwydd i ddŵr, tir ac aer."

Trwyddedau

Does dim angen trwydded amgylcheddol ar unedau sydd â llai na 40,000 o ieir ac maen nhw'n cael eu rheoli fel rhan o broses gynllunio'r awdurdod lleol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: "Mae'r cyngor yn gwbl ymwybodol o'i ddyletswydd statudol i warchod a gwella bioamrywiaeth, ac mae hyn yn cynnwys y nifer o gynefinoedd pwysig a geir yn y sir fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afon Gwy."

Ond mae'n ymddangos yn anhebygol y bydd 'na foratoriwm, wedi i'r sir egluro drwy lefarydd bod "gan y Cyngor ddyletswydd statudol i benderfynu ar geisiadau cynllunio. Felly ni all osod moratoriwm ar unrhyw fath o gais cynllunio oherwydd byddai gwneud hynny yn gwrthdaro â'r ddyletswydd statudol hon."