‘Credu ym mhŵer pobl’: Y cynnydd mewn seremonïau di-grefydd

  • Cyhoeddwyd

Mae Mair Garland, sy'n wreiddiol o Lantrisant ond bellach yn byw yn Llundain, newydd gymhwyso i gynnal seremonïau dyneiddiol ('humanist') enwi plant.

Yn ôl Mair, mae yna gynnydd yn nifer y bobl sy'n dewis cynnal seremoni heb grefydd yn hytrach na bedyddio'r plentyn.

Ond beth yn union yw seremoni ddyneiddiol? Cafodd Cymru Fyw sgwrs â Mair i wybod mwy:

Ffynhonnell y llun, Mair Garland

Beth yw dyneiddiaeth?

Mae dyneiddiaeth yn rhywbeth dwi wedi bod yn dysgu amdano mwy yn ddiweddar, wrth gymhwyso. Fel egwyddor, mae'n fudiad sydd ddim yn grefyddol, ond ddim chwaith yn wrth-grefyddol.

Mae dyneiddwyr yn credu ym mhŵer pobl. Glywais i rywun yn siarad am angladdau dyneiddiol, a rhywun yn gofyn "os nad yw rhywun yn troi at ffydd pan maen nhw'n galaru, at beth maen nhw'n troi?", a'r ateb oedd "chi'n troi at bobl eraill". Dyna'r prif ffynhonnell o gysur a chyngor o ddydd-i-ddydd.

Mae llawer o bobl sydd heb ffydd yn ddyneiddwyr, ond ddim yn sylweddoli. Ges i'n fagu yn mynd i'r capel, felly dwi'n teimlo'n gartrefol mewn capel! Ond o'n i'n gwybod yn eitha' ifanc mod i ddim yn credu - dim mewn ffordd negyddol, ond dyw'r ffydd ddim 'na.

Dwi'n parchu pobl sydd â ffydd ac yn ymroddedig i hynny. Mae dyneiddiaeth yn ffitio â'n egwyddorion i - bod mwy o bwysigrwydd i wyddoniaeth, rhesymeg ac ymchwil, na chrefydd - ond do'n i erioed wedi cael enw arno fe. Mae'n neis i ffeindio grŵp arall o bobl sydd yn teimlo'r un ffordd.

Pam wnaethoch chi benderfynu cymhwyso i weinyddu seremonïau enwi, a beth oedd y broses hyfforddi?

Dwi wastad wedi licio siarad yn gyhoeddus, ac o'n i wedi darllen cerdd mewn priodas ffrind ychydig o flynyddoedd yn ôl, a daeth ffrind lan ata i wedyn a gofyn os o'n i erioed wedi meddwl gwneud fy seremonïau fy hun. O'n i ddim wedi wir meddwl o'r blaen, a 'nes i bach o ymchwil.

Yn fy hyfforddiant gyda Humanists UK, dolen allanol, o'n i'n dysgu'r elfennau gwahanol sy'n gallu cael eu cynnwys mewn seremoni enwi. O'dd rhaid sgrifennu seremonïau addas wedi eu seilio ar sefyllfaoedd a theuluoedd gwahanol.

Er enghraifft, yn seremoni enwi Macy, gan fod ei mam-gu yn Hindŵ, 'nes i feddwl 'swn i'n gwneud cyfarchiad Hindŵaidd a chymharu'r seremonïau, er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei chynnwys. Mae'r ferch wedi cael ei henwi ar ôl y gantores Macy Gray, felly mae'n neis gallu egluro ystyr yr enw.

O'dd y ddwy seremoni o'n i wedi eu sgrifennu yn edrych yn gwbl wahanol achos bod y teuluoedd a'r plant yn wahanol. Doedd e ddim yn fater o copy and paste.

Be' dwi'n licio amdano fe yw dwi'n gallu gweithio mewn ffordd mwy creadigol, drwy ddod o hyd i gerddi neu ganeuon ar gyfer seremoni, a'i bersonoleiddio i'r teulu.

Ffynhonnell y llun, Mary Doggett, ETT Photography
Disgrifiad o’r llun,

Enghraifft o seremoni enwi dyneiddiol sy'n aml yn llawn lliw ac yn cynnwys elfennau sy'n bersonol i'r teulu

Felly beth sydd yn digwydd mewn gwasanaeth enwi plant dyneiddiol, a sut mae hyn yn wahanol i fedydd?

Mae pob seremoni'n edrych yn wahanol, yn dibynnu ar y teulu a'r plentyn maen nhw'n ei ddathlu, ond mae yna lawer o elfennau fyddai'n gyfarwydd i bobl.

Mae modd i rieni ddewis oedolion sy'n cefnogi'r plentyn drwy gydol eu bywyd. Yn Saesneg ry'n ni'n eu galw nhw yn Guideparents, yn hytrach na Godparents - 'sai wedi ffeindio'r pun iawn yn Gymraeg 'to!

Gall y rhieni a'u ffrindiau wneud addewidion i'r plant a meddwl pa egwyddorion, diddordebau a thraddodiadau maen nhw mo'yn pasio 'mlaen.

Yn lle marcio croes ar y pen, ti'n gallu gwneud pethau fel ysgrifennu negeseuon i'r plentyn mewn llyfr, goleuo cannwyll, neu mae chwythu swigod yn boblogaidd iawn.

Fel arfer, bydd y gweinydd yn cwrdd â'r teulu rhyw ddwywaith, i ddod i 'nabod nhw gyntaf, ac yn cynllunio'r seremoni ar sail hynny, ac yn ei wneud yn bersonol; os yw rhywun yn ffan o dîm pêl-droed Lerpwl, beth am ganu You'll Never Walk Alone?! Mae pob math o bethau allwch chi ei wneud i ddathlu.

Wrth gwrs, nid yw'r seremonïau cael eu cynnal mewn capel - gallan nhw gael eu cynnal unrhywle; yn aml yng nghartref y plentyn, neu mewn parc.

Ond o ran cynnwys elfennau crefyddol yn y gwasanaeth, mae bendant yn rhywbeth all gael ei drafod.

Dwi'n meddwl am gân fel Calon Lân, er enghraifft - 'dyw pobl ddim yn ystyried hi'n emyn o reidrwydd, mae hi jest yn rhan o'n traddodiad. Ac os fydde rhywun yn dweud fod eu hen Anti Marian mo'yn darllen rhywbeth o'r Beibl, falle fydden i'n caniatáu iddyn nhw wneud hynny. Ond 'sen i ddim yn arwain gweddi; i fi, dyna lle ma'r llinell.

Oes yna fwy o alw am wasanaethau o'r math yma yn ddiweddar?

Mae seremonïau enwi dyneiddiol yn dod yn fwy poblogaidd bob blwyddyn, wrth i bobl ddysgu eu bod nhw'n bodoli. Yn ôl Humanist UK, mae 700 seremoni enwi dyneiddiol yn digwydd ym Mhrydain bob blwyddyn. Mae'n neis cael dewis sydd ddim i'w wneud â chrefydd i gael dathlu.

Mae pob math o deuluoedd yn dewis cael seremoni enwi; pobl sydd wedi mabwysiadu plant, neu lys-blant a theuluoedd newydd sy'n dod at ei gilydd. Mae hefyd modd cynnal seremoni ail-enwi ar gyfer oedolion sy'n newid eu henwau, fel pobl trawsrywiol, fel bod eu henwau yn ffitio eu hunaniaeth yn well, neu ar ôl i rywun briodi neu ysgaru, neu newid enw am reswm arall, ac mo'yn dathlu hynny.

Ffynhonnell y llun, Humanists UK
Disgrifiad o’r llun,

Gall seremonïau enwi gael eu cynnal yn unrhywle - mae cael seremoni yn yr awyr agored yn boblogaidd iawn

Mae'r galw am angladdau a phriodasau dyneiddiol yn cynyddu hefyd, er bod priodasau dyneiddiol ddim yn gyfreithlon yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd. Ond mae achos llys yn mynd ymlaen i'w cyfreithloni, fel bod yna ddim rhaid cael seremoni sifil hefyd.

Mae 'na gymuned Gymraeg frwd iawn yn Llundain, a dwi'n cynnig opsiwn Cymraeg neu ddwyieithog i'r teuluoedd yna. Mae 'na gysylltiad eitha' agos wastad wedi bod rhwng y Gymraeg a Christnogaeth, ond heddiw mae mwy o bobl yn sylweddoli fod ddim y ffydd yna 'da nhw, ac mae hynny'n ddewis dilys.

Beth sydd wedi bod yn digwydd i wasanaethau yn ddiweddar yn sgil coronafeirws?

Dydi seremonïau ddim yn gallu cael eu cynnal fel arfer ar hyn o bryd, wrth gwrs. Gan fod angladdau yn gorfod digwydd o fewn rhyw wythnos neu 10 diwrnod, mae lot ohonyn nhw wedi symud ar Zoom. Ac o ran priodasau, os yw pobl wedi gorfod newid eu dyddiad, mae nifer wedi cymryd y cyfle i ddathlu ar-lein ar y diwrnod, a chael rhyw fath o seremoni fach gyda'u ffrindiau yn gwylio.

Ond gyda seremonïau enwi, mae pobl wedi bod yn tueddu i aros i'w cynnal. Ar ôl hyn i gyd, bydd cael gwasanaeth yn esgus da i gael y teulu nôl at ei gilydd eto.

Hefyd o ddiddordeb: