Carcharu dyn dros ddynladdiad yn Aberaman

  • Cyhoeddwyd
Luke WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Luke Williams yn Ysbyty'r Tywysog Charles, Merthyr Tudful

Mae dyn 52 oed wedi cael dedfryd o naw mlynedd o garchar am achosi marwolaeth dyn 26 oed ar ôl ymosod arno ar stryd yn Rhondda Cynon Taf.

Bu farw Luke Williams o'i anafiadau yn yr ysbyty ar 19 Rhagfyr - dridiau wedi'r ymosodiad yn Commerce Place, Aberaman.

Cafodd Andrew John Davies, sy'n 52 oed ac o Aberaman, ei ddedfrydu ddydd Gwener wedi i Lys y Goron Merthyr Tudful dderbyn ple o ddynladdiad mewn gwrandawiad ddechrau'r mis.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe blediodd Andrew Davies yn euog i ddynladdiad ar ôl gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth

Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Butt, o Heddlu De Cymru: "Roedd yn ddigwyddiad brawychus a gafodd ei weld gan aelodau'r cyhoedd, gan adael pobl leol yn ofnus wedi'r hyn ddigwyddodd.

"Bydd Andrew Davies nawr yn treulio cyfnod maith dan glo am yr hyn a wnaeth y diwrnod hwnnw gan gymryd bywyd gwerthfawr oddi ar deulu.

"Rwy'n gobeithio y bydd dedfryd heddiw'n dod â rhyw gysur i deulu Luke, sydd wedi'u llorio gan y digwyddiad trasig yma, ac rwy'n gobeithio y bydd modd iddyn nhw nawr ailgydio yn eu bywydau."