Tu ôl i'r llenni: Gari Williams y dyn teulu
- Cyhoeddwyd
"Gari oedd o i Gymru, Emyr i rai - ond Dad oedd o i fi."
Mae hi'n 30 mlynedd ers i'r amryddawn Emyr Pierce 'Gari' Williams farw'n sydyn. Mae'n cael ei gofio fel digrifwr, canwr, actor a chyflwynydd a gyflawnodd gymaint yn ei 44 o flynyddoedd.
Bu gwacter ar ei ôl ym myd adloniant Cymru ac wrth gwrs roedd y golled yn llawer mwy i'w deulu.
Dim ond yn ei thridegau oedd Hafwen, ei wraig, ar y pryd a Nia'r ferch yn 13 mlwydd oed. Nid oedd Guto y mab ond yn ddwyflwydd oed.
Bu Cymru Fyw'n siarad â Nia a Guto i holi sut mae bywyd wedi bod i'r teulu ers ei golli dri degawd yn ôl.
Nia
Mae hi'n anhygoel meddwl fod Dad wedi ein gadael yn 44 oed, yn agos iawn i'r un oed a fi rŵan. Yn sicr llawer rhy ifanc i farw, ond bois bach, mae 'na gymaint o barch tuag ato.
Dwi'n cofio Dad yn cwyno fod ganddo gur pen ofnadwy a gwaethygu wnaeth o, yn anffodus, ac roeddan ni wedi ei golli o fewn dyddia. Bu farw o haemorrhage ar yr ymennydd.
Pan fuodd Dad farw roeddan ni fel teulu yn byw yn West End Bae Colwyn, lawr y ffordd o'r Sŵ Fynyddig. Dwi'n cofio'r noson fel tae'n ddoe pan ddaeth Mam adre' o Ysbyty Walton, Lerpwl nos Fercher, Gorffennaf 18, 1990 ac yn dweud fod Dad wedi mynd ac na fysa fo byth yn dod adre' drwy'r drws eto.
Yn 13 oed wrth gwrs mi roedd yn gyfnod anodd iawn ac ro'n i just methu credu a dweud y gwir. Roedd hi'n anodd i Mam yn enwedig efo merch 13 oed a babi dyflwydd oed. Ond mae babi bach yn golygu fod rhaid i fywyd fynd yn ei flaen. A dyna ddigwyddodd.
Roedd Mam yn andros o ddewr a diolch iddi am ei chefnogaeth i fi a Guto. Wrth gwrs mae diolch hefyd i Nain, Catherine Mary (mam fy mam) fuodd yn anhygoel, teulu a ffrindia. Doedd 'na ddim dydd na nos nad oedd rhywun yn galw draw i gefnogi a hel atgofion. A dyna'r 'di'r peth pwysicaf.
Yr hanes tu ôl i'r enw llwyfan
Emyr (Pierce Williams) oedd enw perfformio Dad tan iddo drio am ei gerdyn actio Equity a ffeindio allan fod 'na Emyr Williams arall yn aelod, felly rhaid oedd meddwl am enw arall!
A dyma eni 'Gari' Williams. Ella wir bod yr enw wedi dod o 'Gari Tryfan', cymeriad poblogaidd ar y radio ar y pryd oedd Dad yn ei hoffi. Buodd Yncl Elwyn farw'n adros o sydyn hefyd, nôl yn 2003. Mi oedd yntau yn lyfli o foi hefyd.
Hoff bethau
Roedd o wrth i' fodd efo gadgets. Mi fynnodd un tro ein bod yn prynu microwave - a mi gaswon ni un hefyd - un anferth! A dweud y gwir, does 'na ddim llawer ers i Mam orfod cael un newydd yn ei le!
Roedd Dad hefyd yn hoff iawn o goginio, cinio dydd Sul yn enwedig - heblaw am y grefi. Mam fyddai'n gneud hwnnw ar ôl Ysgol Sul. A hefyd y Wok - roedd o wrth i fodd efo hwnnw gan ei fod o'n medru gwneud bwyd Chinese sef un o'i ffefrynna'.
Roedd o wastad â ffedog amdano, a chael teulu a ffrindia draw oedd y peth gora ganddo. Diddanwr oedd o o flaen a thu ôl i'r camera yn bendant. Roedd y teulu yn bwysig iawn iddo. Roedd ceir a watches hefyd yn diddori Dad. Efallai mai dyna pam fod gen i 150 o geir bach Matchbox yn tyfu fyny!!
Wrth gwrs gan mod i'n 13 mlwydd oed pan gollon ni Dad, dwi'n cofio mwy na Guto, ond i fi dwi'n ei gofio fel person meddylgar, caredig, cariadus, a gadget mad!
Roedd Dad yn ofnadwy o brysur wastad, ac yn treulio lot o amser i ffwrdd, yn yr 80au cynnar lawr yn Gaerdydd lot fawr yn ffilmio cymeriad Edgar Sutton ar Pobol y Cwm. Wedyn wrth gwrs y pantos.
Wastad yn galw bob dydd, ar y ffôn tŷ wrth gwrs, bryd hynny. Dwi'n cofio'n iawn Dad yn cael ffôn symudol i'r car. Wel, ffôn symudol oedd yr un maint a bricsan! Ond mi roedd yn gadget newydd ac yn ffordd o gysylltu efo ni wrth gwrs.
Atgofion byw
Er mai dim ond dyflwydd oed oedd o pan gollon ni Dad, da ni 'di cadw atgofion Emyr, Gari, Dad, yn fyw iawn yn enwedig i Guto - lluniau, atgofion, VHS pan fuodd yn gweithio i'r teledu, ac mae ail-ddangos rhaglenni Dad wrth gwrs hefyd yn help i ni fel teulu.
Ar y funud mae Jabas, cyfres o'r 1980au yn cael ei hail ddangos dwi'n meddwl. Hwn oedd total claim to fame fi ar y pryd - bod fy nhad i hefyd yn dad i Jabas!. Fues i'n mynd efo fo ddigon aml ar ddyddia ffilmio i ardal Pwllheli efo cassette Kylie Minogue yn blastio yn y car, dwi'm yn meddwl fod Dad yn meindio, roedd o reit prowd medru mynd â fi efo fo. Dwi'n cofio mynd i ffilmio Siarabang efo fo hefyd, ac un tro dwi'n cofio gorfod gwisgo fel Superted. Wrth fy modd!
Wrth gwrs, Gari y digrifwr, yr actor oedd o ar y sgrin ac yn y theatrau. Pan ges i fy ngeni dydd cynta'r flwyddyn yn 1977, roedd Dad yn perfformio yn mhanto Theatr Cenedlaethol Cymru.
Ond y dyn ar y sgrîn deledu, y digrifwr, y gŵr caredig oedd y dyn oedd adre hefyd. Doedd 'na ddim person hollol wahanol o flaen camera i fi.
Lot fawr o'r amser fuodd Dad yn siarad am ei deulu yn ei stand-yp ac yn rhannu profiadau bob dydd efo'i gynulleidfa, ac roedd o wrth i fodd efo'i gynulleidfa. Ffrindia oeddan nhw dweud y gwir, a dwi ddim yn meddwl fod 'na neb wedi bod debyg iddo ers hynny. Roedd o'n ddigrifwr cariadus, a dyna oedd o adre.
Y diddanwr
Yn sicr os fasa Dad efo ni heddiw, mi fasa fo'n dal i ddiddanu mewn rhyw ffordd. Dyna oedd yn dod yn naturiol iddo, doedd o ddim yn gorfod paratoi rhyw lawer dwi'm yn meddwl. Dwi'n cofio fasa fo weithia yn cael ei alw i wneud noson stand-yp elusen munud olaf. Wrth gwrs 'doedd Dad byth yn dweud 'na'.
A dyna fo, dim paratoi, ar y llwyfan â fo! Mae 'na stori o flynyddoedd yn ôl pan oedd Dad yn blentyn ysgol yn Llanrwst a fuodd o'n diddanu'r plant amser cinio - roedd o yn y gwaed yn sicr. Ac mae Aaron Emyr, fy mab 10 oed, rŵan yn fy atgoffa fi ohono. Rhyfedd ydi teulu.
Guto
Mae gan Guto, mab Gari sy'n 11 mlynedd yn iau na Nia, ac sy' dal i fyw ym Mae Colwyn, atgofion gwahanol am ei dad.
Does gennai ddim llawer o atgofion am fy mod mor ifanc pan farwodd Dad. Ond mae gallu gwylio ei waith ym myd comedi a pherfformio ac hefyd clywed straeon dros y blynyddoedd wedi cael effaith mawr arna i ac wedi bod yn anrheg mawr i fi yn bersonol i allu nabod pwy oedd o fel person a faint o effaith roedd o wedi gael ar gymaint o bobl.
Mae gwylio tapiau a hen raglenni yn anodd weithia ond i ni mae o hefyd yn ffordd o hel atgofion, ac yn 'i gadw fo efo ni hefyd mewn ffordd.
Hyd heddiw mae gwrando ar Gân y Boi Sgowt yn anodd iawn i ni fel teulu - anodd ond neis hefyd.
Roedd 'Steddfod Llanrwst llynedd hefyd yn gyfnod eitha' anodd ond o ni'n eithriadol o prowd o Dad - fasa fo wedi bod mor hapus ar Faes yr steddfod honno'n enwedig, bro ei febyd - a mi fasa fo'n nabod pawb!
Mae'n anghygoel meddwl, ar ôl 30 mlyneddd, fod gan Dad, Emyr, Gari dal lond pabell o gynulleidfa yn chwerthin a chymeradwyo. Ac mae hynny'n gredit iddo fel person, ddidanwr, gŵr, mab a thad ofnadwy o sbesial.
Hefyd o ddiddordeb