McEnroe, Becker a'r Cymro yn y canol

  • Cyhoeddwyd
johnFfynhonnell y llun, john parry

Mae mis Gorffennaf fel arfer yn adeg pwysig i gefnogwyr tenis, gyda phencampwriaeth Wimbledon yn cael ei chynnal yn ne orllewin Llundain am bythefnos.

Ond eleni yn sgil pandemig COVID-19 fe benderfynwyd canslo'r gystadleuaeth.

Rhywun a oedd wedi gweithio yn Wimbledon am bron i 40 mlynedd yw John Parry, yn wreiddiol o ardal Wrecsam, ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Roedd John yn umpire yn Wimbledon, gan gadw rheolaeth ar rai o enwau mwyaf hanes tenis yn ei gyfnod yno - McEnroe, Graf, Agassi, Navratilova, Becker a'r chwiorydd Williams i enwi ond rhai. Ond mae ei gysylltiad gyda'r gamp yn mynd nôl i'w blentyndod.

Pencampwr Cymru

"Ges i fy ngeni ym Mhen-y-ffordd ger Wrecsam, a fy nhad oedd yn rhedeg clwb tenis y pentre', felly oeddwn i wastad am chwarae tenis - roedd y clwb jest dros wal yr ardd!" meddai.

"Nes i ddechrau chwarae mewn twrnameintiau a ges i rhywfath o nawdd gan Slazenger. Ddos i lawr i Benarth ac enillais Bencampwriaeth Iau Cymru ddwywaith, dan 16 a dan 18, a chynrychioli Cymru yn Junior Wimbledon ddwywaith."

Aeth John i Loughborough i wneud gradd mewn chwaraeon, gan gynrychioli'r Brifysgol a gogledd Cymru mewn tenis.

Ffynhonnell y llun, john parry
Disgrifiad o’r llun,

John yn ystod ei ddyddiau'n chwarae tenis

"Ymunais â'r RAF, lle roeddwn yn swyddog addysg gorffol ac yn chwarae lot o denis. Tua'r amser yna fe aeth y gêm yn broffesiynol, felly roedd chwaraewyr yn cael tâl yn hytrach na jest ennill tlysau. Oherwydd hyn wrth gwrs roedden nhw eisiau safon uwch o swyddogion i reoli'r gemau."

Dechrau fel 'umpire'

"Ar y pryd roedd y swyddogion yn amatur, gyda'r safon yn ofnadwy i fod onest. Doedd 'na ddim hyfforddiant na ymarfer na profion llygaid, ac roedd y swyddogion yn Wimbledon yn cael yfed - roedd parti cocktails yr umpires amser cinio ar y diwrnod cyntaf ac yna ar y cwrt am ddau y p'nawn!"

Yn tenis mae yna bobl sy'n rhedeg y llinell, gan wneud yn siŵr bod y bêl yn glanio o fewn y llinellau cywir, umpires sy'n goruwchwilio'r hyn sy'n digwydd ar y cwrt, a dyfarnwyr sydd yn goruwchwilio gwaith yr holl umpires - mae gan bob pencampwriaeth ei ddyfarnwr.

"Ges i gynnig cael fy nhalu i fod yn umpire tra yn yr RAF, ond dwedais bod gennai ddim diddordeb - roeddwn yn mwynhau chwarae tenis dros yr Awyrlu ond doeddwn i ddim am fod yn swyddog tenis. Cafodd y grŵp o swyddogion yma o'r RAF gytundeb i weithio mewn dau dwrnament mawr yn Llundain - Clwb Queens a Pencampwriaeth Benson & Hedges yn Wembley. Yn y diwedd wnes i ddweud 'ok ddoi yna i helpu chi gan wneud y llinell', ond erbyn diwedd yr wythnos o'n i'n umpire ar John McEnroe!...a dyna oedd dechreuad fy ngyrfa fel umpire.

"Roedd y swyddogion tenis o'r RAF yn dechrau cael y cynigion mawr, gan ein bod ni wedi dod â safonau gyda ni i'r proffesiwn - yr ymarfer, y profion llygaid, dim yfed ayyb, ac felly wnaethant uno gyda'r hen grŵp - y rhai a oedd yn gwneud Wimbledon yn draddodiadol."

Ffynhonnell y llun, john
Disgrifiad o’r llun,

Yn y blynyddoedd diweddar mae John wedi bod yn swyddog yn Wimbledon fel Beirniad Llinell

Llais Wimbledon

Am ddwy flynedd John oedd 'llais Wimbledon', yn rheoli'r dorf, dweud be oedd yn dod nesaf, lleisio'r seremonïau gwobrwyo, dweud beth oedd rhagolygon y tywydd - ac os oedd hi'n bwrw, ceisio diddanu'r dorf. Roedd John yn dyfarnu ar y lefel uchaf yn Wimbledon o 1981 i 1996, ac yna'n gweithio ar y llinellau o 1996 i 2019.

Fel arfer mae umpire yn cael cyfle i wneud un neu ddwy ffeinal yn Wimbledon, un dynion ac un merched. Ond roedd gan John gymaint o enw yn y gamp fel y gwnaeth wyth rownd derfynol yno, y nifer mwyaf i unrhyw umpire, ac fe wnaeth sawl un arall yn dyfarnu'r linell.

"Wnes i ffeinal y dwblau cymysg yn 1984 - maen nhw o hyd yn dechrau efo chi fanna, cyn y dwblau merched, dwblau dynion ac yna y rhai unigol.

"Wnes i ffeinal y merched yn 1987 rhwng Steffi Graf a Martina Navratilova. Ac yn 1989 fe wnes i yr hyn sy'n cael ei ystyried fel pinacl gyrfa Umpire, sef ffeinal y dynion yn Wimbledon, rhwng Boris Becker a Stefan Edberg.

"Dwi wedi bod yn Umpire ar John McEnroe mwy na neb arall - mae'n debyg mai fo mae pawb yn fy holi i amdano amlaf!"

Ffynhonnell y llun, Chris Cole
Disgrifiad o’r llun,

Martina Navratilova yn ffeinal Wimbledon 1987 yn erbyn Steffi Graf, lle roedd John yn eistedd yn y gadair

"Dros y blynyddoedd dwi wedi dod i 'nabod rhai o'r chwaraewyr yn dda. Yn 2003 roedd Martina Navratilova gyda Leander Paes, gŵr o India, yn ffeinal y parau cymysg. Roedd hi angen ennill y flwyddyn honno er mwyn bod y person â nifer mwyaf o Grand Slams erioed, yn ddyn neud ddynes (fe enillodd hi) - honna oedd fy ffeinal olaf fel umpire yn Wimbledon."

'Y gorau imi weld'

Mae John wedi bod yn umpire ar holl enwau mawr tennis dros y bedair degawd ddiwethaf, gan gynnwys Connors, Becker, Sampras, Graf, Navratilova, a'r chwiorydd Williams, Venus a Serena, ac mae wedi dod i 'nabod llawer ohonynt yn dda.

Ond gan iddo ymddeol o fod yn umpire yn 2006 ni chafodd y cyfle i ddyfarnu dros Roger Federer.

"Mi fyswn i'n dweud mai Federer yw'r chwaraewr gorau i mi erioed ei weld yn chwarae, gan ei fod yn gwneud i bopeth edrych mor hawdd. Mae ganddo bopeth."

Ffynhonnell y llun, Simon M Bruty
Disgrifiad o’r llun,

Roger Federer, sy'n cael ei ystyried gan lawer fel y chwaraewr tenis gorau erioed

Gêm mwyaf cofiadwy

"Y gêm mwya' imi fel umpire oedd y ffeinal rhwng Becker ac Edberg yn 1989, ond dwi'n meddwl mai'r gêm mwya' arbennig i mi a wnes i ei mwynhau fwyaf oedd y rownd gyn-derfynol yn 1992 rhwng Andre Agassi a Boris Becker. Roeddwn yn umpire ar Agassi yn ffeinal y twrnament cyntaf iddo ennill erioed, yn Efrog Newydd pan oedd yn 17, felly ro'n i'n ei 'nabod o'n weddol.

"Roedd y gêm yn erbyn Becker ar Centre Court ac roedd yn gêm wych gyda lot o hwyl - aeth Agassi ymlaen i ennill Wimbledon y flwyddyn honno. Roedd gan Agassi a Becker ddigrifiwch ac roedden nhw'n hoffi cael lot o hwyl.

"Enillodd Agassi y set gynta, a dwi'n meddwl mai 3-3 oedd hi yn yr ail set. Pan oedd Agassi'n 'servio' wnaeth Becker jest stopio, cerddodd fyny ata i gan wenu, a dwedodd bod gormod o sŵn yn dod o Cwrt Rhif 1 drws nesa'.

Ffynhonnell y llun, John Parry
Disgrifiad o’r llun,

John yn y gadair, gyda Boris Becker a Andre Agassi yn cael seibiant

"Esboniais mod i methu gwneud dim am y peth, ond dwedodd dylwn i fynd i'r cwrt drws nesa i roi stop ar y sŵn. Yna daeth Agassi draw a chytuno gyda Boris. Dechreuodd y ddau gerdded oddi ar y cwrt mewn protest law yn llaw, ond wrth gwrs tynnu coes oedden nhw - roedd hynna'n foment unigryw ar Centre Court."

"Roedd Ilie Năstase, y gŵr o Rwmania, yn un arall a oedd yn hoffi diddanu'r dorf, a Goran Ivanišević- ond doedd pob chwaraewr ddim fel 'na, os feddyliwch am John McEnroe er enghraifft."

John McEnroe

"Roedd 'na botensial am ffrae enfawr 30-40 mlynedd yn ôl, ond mae pethau yn wahanol heddiw gyda côd ymddygiad yn golygu bod chwaraewyr yn bihafio'n well.

"Y ffrae enfawr gyntaf i mi gael oedd gyda John McEnroe pan oedd o'n chwarae Jimmy Connors mewn ffeinal yn 1981 - doedden nhw ddim yn ffrindiau agos i ddweud y lleia! Roedd honna'n un o'r gemau gyda'r ymddygiad gwaetha' sydd erioed 'di bod. Roedd 'na atmosffer hyll iawn yno. Roedd Connors o hyd yn annwyl, ond roedd ganddo'r gallu i fynd dan groen ei wrthwynebydd - ac roedd McEnroe wrth gwrs yn greadur ymfflamychol iawn!

"Mae 'na rhai chwaraewyr pêl-droed neu rygbi sy'n mynd drwy eu gyrfa gyfan yn bihafio'n wych, dim cerdyn melyn na dim. Ond eto mae rhai fel John McEnroe. Dwi ddim yn meddwl mai sioe oedd o gyda McEnore, mi roedd o fel yna mewn gwirionedd.

Ffynhonnell y llun, Mirrorpix
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd y chwaraewr tanllyd, John McEnroe Wimbledon ar dair achlysur; 1981, 1983 a 1984

"Roeddwn hefyd yn umpire ar Björn Borg pan enillodd y Benson & Hedges yn 1980, ac hefyd ar Borg a McEnroe yn Wimbledon - roedden nhw'n ffrindiau mawr. Ges i wahoddiad i fynd i Budapest rhyw bum mlynedd yn ôl i weld nhw'n chwarae yn erbyn ei gilydd.

"Yn ystod y dyddiau pan oedd McEnroe ar ei fwya' tanllyd, bydda fo byth yn dadlau efo Borg, oherwydd ei fod yn ei barchu mwy nag unrhyw chwaraewr arall. O'n i'n umpire ar McEnore bedair gwaith mewn pedwar diwrnod ar y trip 'na i Hwngari - ac roedd y gêm olaf yn erbyn Borg. O'n i'n gwybod y byddai hwnnw'n brofiad braf achos bysa 'na ddim dadlau - ac felly y buodd hi."

Ffynhonnell y llun, john parry

Colli tenis?

"Mi fyswn i yn ei golli o, ond doedd 'na ddim Wimbledon eleni, ond mi fydda i'n teimlo fo flwyddyn nesaf! Roedd yn rhan enfawr o mywyd i am bron i 40 mlynedd."

Mae John wedi ei anfarwoli ym myd tenis wedi i reol gael ei henwi ar ei ôl, 'the Parry rule'. Mae'r rheol yn dweud bod rhaid i'r chwaraewyr newid ochr tra'n chwarae y trydydd, pumed, saithfed a nawfed gêm ym mhob set.

Hefyd o ddiddordeb: