Noson gyffrous i glybiau Cymru yn y Bencampwriaeth
- Cyhoeddwyd
Gobeithio fod gan bawb gyfrifiannell yn barod ar gyfer heno!
Gydag un gêm o'r tymor yn weddill mae hi'n frwydr rhwng Nottingham Forest, Caerdydd ac Abertawe am y ddau safle olaf yng ngemau ail-gyfle'r Bencampwriaeth.
Mae Forest, sy'n bumed, yn gyfartal ar bwyntiau gyda Chaerdydd, sy'n chweched, tra bod Abertawe dri phwynt y tu ôl iddyn nhw yn seithfed.
Ond mae gwahaniaeth goliau Forest yn +11, Caerdydd yn +7 ac Abertawe yn +6. Mae'n ymddangos fod y ddau glwb o Gymru yn brwydro am y safle olaf yn y gemau ail-gyfle, ond mae unrhyw beth yn bosib!
Dim ond gêm gyfartal sydd ei angen ar Forest yn erbyn Stoke.
Mae tynged Caerdydd hefyd yn eu dwylo eu hunain. Dim ond gêm gyfartal sydd ei angen ar Yr Adar Gleision yn erbyn Hull.
Pe tai Caerdydd yn cael dewis eu gwrthwynebwyr, dwi'n eithaf siŵr y base nhw'n dewis Hull.
Maen nhw wedi colli pum gêm yn olynol, gan gynnwys colli o 8-0 yn erbyn Wigan ychydig dros wythnos yn ôl. Yn wir dim ond unwaith maen nhw wedi ennill yn eu 20 gêm ddiwetha'.
Mae pethau ychydig mwy cymhleth o safbwynt Abertawe. Mae'n rhaid iddyn nhw ennill oddi cartref yn Reading, a gobeithio wedyn y bydd Caerdydd neu Forest yn colli.
Ond mae gwahaniaeth goliau Forest bump yn well, felly mae angen i'r Elyrch gau'r bwlch yna (byddai buddugoliaeth o 3-0 i Abertawe a Forest yn colli 2-0 yn ddigon).
Y rheolwyr
Mae rheolwr Caerdydd, Neil Harris yn hyderus y bydd yr Adar Gleision yn cael y canlyniad maen nhw ei angen yn erbyn Hull.
"Mae ganddo ni ychydig bach o fomentwm a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at nos Fercher achos dwi'n mwynhau gwylio fy nhîm yn chwarae ar y funud," meddai Harris.
"Mi oedd y perfformiad yn erbyn Middlesbrough ddydd Sadwrn yn un gwych."
O ran Abertawe, mae eu rheolwr nhw Steve Cooper yn dweud fod angen i'w chwaraewyr anghofio am bopeth arall fydd yn digwydd ar y noson a chanolbwyntio ar gael buddugoliaeth yn erbyn Reading.
"Mae'n rhaid i ni ennill ein gêm ni, a rhaid i ni beidio â chymryd yn ganiataol y byddwn ni yn cael y tri phwynt," rhybuddiodd Cooper.
"Mi fyddwn ni fel tîm hyfforddi yn cadw golwg ar y gemau eraill, felly os bydd angen mwy o goliau arnom ni wrth i'r gêm fynd yn ei blaen, yna fe rown ni wybod i'r chwaraewyr."
Mae hi'n argoeli i fod yn noson hynod o gyffrous!
Bydd Chwaraeon Radio Cymru yn rhoi sylw i gemau Caerdydd, Abertawe a Nottingham Forest. Y rhaglen ymlaen rhwng 19:00-22:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2020