Dim gemau yn y Stadiwm Principality yn 2020 wrth i ysbyty barhau
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips wedi cadarnhau na fydd gemau rhyngwladol yn cael eu cynnal yn Stadiwm Principality eto eleni.
Cafodd yr ysbyty maes, Ysbyty Calon y Ddraig, ei sefydlu yn y Stadiwm ym mis Ebrill mewn ymateb i'r argyfwng coronafeirws.
Mae'r Undeb yn disgwyl arwyddo cytundeb newydd er mwyn i'r Stadiwm barhau fel ysbyty maes rhag ofn y bydd ail don o'r pandemig.
"Ni fyddwn ni'n chwarae unrhyw gemau cartref yn Stadiwm Principality," meddai Phillips.
Mae URC yn trafod gyda Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gadw'r ysbyty mewn lle tan yr hydref.
Mae disgwyl y byddai'r stadiwm yn barod i gynnal rygbi unwaith eto erbyn y Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf.
"Da ni eto i gwblhau cytundeb ar yr estyniad, oherwydd y tro hwn mae pethau yn fwy cymhleth ac mae na nifer o amgylchiadau sydd angen eu hystyried," ychwanegodd Phillips.
"Ry' ni'n gobeithio arwyddo'r cytundeb yn fuan."
Amlinellodd Phillips am y trafodaethau ynglyn â ble y bydd gemau'r hydref yn cael eu cynnal gyda meysydd yn Llundain yn ogystal a meysydd rhanbarthol dan ystyriaeth.
Mae union leoliad y gemau yn ddibynnol ar os bydd torfeydd yn cael mynychu gemau neu beidio.
"Os gall gemau cael eu cynnal gyda thorfeydd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd yna mae'n debyg y byddan nhw yn Llundain, ac eto ry' ni'n ysytyried nifer o opsiynau," meddai.
Bydd Cymru yn wynebu'r Alban yn y Chwe Gwlad ar 31 Hydref wedi i'r gêm wreiddiol ym mis Mawrth gael ei gohirio oherwydd yr argyfwng.
Mae disgwyl y bydd y gêm honno yn mynd yn ei blaen ond bydd gemau yn erbyn De Affrica, Seland Newydd, Fiji ac Awstralia ddim yn cael eu cynnal.
Yn hytrach mae'n debyg y bydd twrnament wyth tîm, yn cynnwys gwledydd y Chwe Gwlad a dau dim o blith Fiji, Siapan neu Georgia.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020