System unffordd Abertawe yn troi'n ddwyffordd
- Cyhoeddwyd
Mae gyrwyr yn Abertawe yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw y penwythnos hwn wrth i strwythur unffordd ddadleuol yng nghanol y ddinas gael ei newid.
O 09:00 ddydd Sul bydd nifer o ffyrdd prysur, gan gynnwys Ffordd y Brenin, yn newid o fod yn system unffordd i system ddwyffordd.
Mae Cyngor Abertawe wedi darparu mapiau, a bydd swyddogion traffig yn gweithio i helpu gyrwyr a cherddwyr ddod i'r arfer â'r drefn newydd.
Bydd y newid i system ddwyffordd - sy'n digwydd dros nos, nos Sadwrn - yn cymryd lle ar Ffordd y Brenin, Stryd y Berllan, Stryd Christina, Stryd Mansel, Stryd De La Beche, Ffordd Alexandra a Ffordd Belle Vue.
Oedi i'r datblygiad
Mae'r ailddatblygiad £12m ehangach wedi wynebu oedi mawr, yn bennaf wedi i'r cwmni adeiladu oedd yn gyfrifol am y gwaith, Dawnus, fynd i ddwylo'r gweinyddwyr gyda'r gwaith ar ei hanner.
Cafodd y newid i system ddwyffordd oedi eto ym mis Mawrth ar ôl i'r cyfnod clo orfodi gweithwyr i atal eu gwaith am yr eildro.
Yn ôl y cyngor bydd y newid yn galluogi teithiau mwy uniongyrchol ar draws y ddinas ac yn helpu i leihau traffig ar Ffordd y Brenin ei hun.
"Dyma ffordd hanesyddol yn Abertawe. Doeddwn ni methu gadael y lle fel oedd hi, roedd y system yn lladd canol y ddinas," meddai Rob Stewart, arweinydd Cyngor Abertawe.
"Roedd angen i ni ddod 'nôl â llif synhwyrol o draffig i Abertawe, ond mae e hefyd wedi rhoi cyfle i ni ddod â channoedd o goed yn ôl i ganol y ddinas hefyd."
'Pwysig iawn i'w gael yn iawn'
Mae Mr Stewart yn mynnu na fydd newidiadau pellach i lif y traffig yn y ddinas.
"Fydda i ddim yn palu'r lle unwaith eto yn sicr," meddai.
"Roedd yn bwysig iawn i ni gael hwn yn iawn achos mae pobl yn gallu amcangyfrif yn rhy isel yr effaith y mae ardal braf yng nghanol y ddinas yn ei gael ar ddenu busnesau."
Mae siop Tŷ Tawe ar Stryd Christina wedi gorfod dioddef gyda chryn dipyn o waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf wrth i wyneb y ffordd a'r pafin gael eu hailosod.
"Mae e wedi bod yn swnllyd iawn," meddai Jackie Griffith, sydd wedi gwirfoddoli yn y siop am ddegawdau.
"Mae llawer o lwch wedi bod yn dod mewn i'r siop lyfrau, felly dyw e ddim yn dda... ond 'na fe - diolch byth o'r diwedd mae e wedi gorffen."
'Peth da o'n safbwynt ni'
Yn ôl Ms Griffith bydd hi'n "rhyfedd" cael gyrru'r ddwy ffordd ar hyd Ffordd y Brenin a Stryd Christina, ond i nifer o bobl yn y ddinas bydd hi fel mynd 'nôl i'r arfer.
"Dyna fel oedd e flynyddoedd yn ôl," meddai Ms Griffith.
"Rwy'n credu bydd e'n beth da o'n safbwynt ni achos bydd lôn ychwanegol o draffig yn mynd heibio'r adeilad a gweld bod ni yma.
"O beth rwy' wedi gweld hyd yn hyn mae'n edrych yn eithaf deniadol felly gobeithio bydd e'n gweithio."
Mwy o fannau cyhoeddus
Mae Ffordd y Brenin wedi dioddef ergydion dros y ddegawd ddiwethaf, gyda bywyd nos yn gadael yr ardal a nifer o siopau ynghau.
Bwriad Cyngor Abertawe oedd "trawsnewid" yr ardal drwy greu "amgylchedd mwy deniadol i fyw ynddo, i weithio ynddo ac i ymweld ag ef".
Bydd y lle ychwanegol fydd ar gael o ganlyniad i leihau'r ffordd yn golygu mwy o le cyhoeddus.
Bydd hyn yn ei dro yn arwain at well llwybrau cerdded a beicio, rhagor o fannau gwyrdd a "pharc poced" newydd ar Gylchffordd y Brenin, yn ôl y cyngor.
Yn ôl Alun Thomas, rheolwr prosiect yr ailddatblygiad, fe fydd llif y traffig dipyn yn well o ddydd Sul ymlaen.
"Yn enwedig ar Ffordd y Brenin achos mae tua 60% o'r traffig sydd ar y ffordd ar y foment eisiau mynd lan i'r Uplands tuag at Sgeti, a bydd y traffig yna yn gallu mynd lan trwy Mansel Street a Walters Road a lan - fel 'na bydd dim rhaid iddyn nhw fod ar Ffordd y Brenin, felly bydd traffig yn cwympo tipyn gobeithio o ddydd Llun ymlaen," meddai.
"Rwy'n gobeithio bydd e tipyn yn well achos mae mwy o le i gerddwyr a beicwyr, mae mwy o le i bobl eistedd. O'dd e'n llawn concrit a nawr mae e lot yn wyrddach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2015