Darllediad radio cyntaf o bencadlys newydd BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Daniel Glyn oedd y llais cyntaf i'w glywed o'r stiwdio newydd
Cafodd y rhaglen radio gyntaf ei darlledu o bencadlys newydd BBC Cymru fore Sadwrn.
Fe aeth BBC Radio Cymru 2 ar yr awyr yn fyw o'r Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd am 07:00.
Ac am 11:00 fe ddarlledodd BBC Radio Cymru ei rhaglen gyntaf o'r adeilad newydd.
Roedd Radio Cymru cyn heddiw wedi bod yn darlledu o safle'r BBC yn Llandaf ers ei dyfodiad yn 1977.
Llais y cyflwynydd Daniel Glyn oedd y cyntaf i'w glywed o'r stiwdio newydd ar Radio Cymru 2.
Roedd yn cael cwmni dau arall sef cyflwynydd Radio Cymru 2 a BBC Radio 1, Huw Stephens, a Caryl Parry Jones.
Ar Radio Cymru, Y Sioe Sadwrn oedd y rhaglen gyntaf i fynd ar yr awyr o'r adeilad newydd, gyda Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips yn cyflwyno.
'Newidiadau mawr'
Dywedodd Rhuanedd Richards, golygydd Radio Cymru, ei bod yn "falch iawn fod ein gwasanaethau Cymraeg bellach yn medru manteisio ar y dechnoleg ddarlledu orau wrth i ni barhau i weithio tuag at gyrraedd cynulleidfaoedd newydd".
"Cryfder mawr Radio Cymru a Radio Cymru 2 wrth gwrs yw ein bod ni'n darlledu o ganolfannau ar draws Cymru gyfan, ac mae ein hymrwymiad i hynny yn parhau."

Hywel Gwynfryn oedd cyflwynydd rhaglen gyntaf Radio Cymru, Helo Bobol! yn 1977
Roedd un o gyflwynwyr cyntaf erioed Radio Cymru yn 1977, Hywel Gwynfryn hefyd yn y Sgwâr Canolog ar gyfer y sioe fyw gyntaf o'r Sgwâr Canolog.
Bydd yn cyflwyno ei sioe o'r stiwdio newydd ddydd Sul.
"Ers i ddrysau Llandaf agor ym 1967, fe fu newidiadau mawr, chwyldro technolegol yn wir, ac mae'r adeilad newydd yn y Sgwâr Canolog yn brawf o hynny," meddai.
"Ond mae'r nod yn parhau yn ddigyfnewid - ceisio diddori'n cynulleidfa yn y modd mwyaf creadigol.
"Fe ddylai hynny, fel y sgwâr, fod yn ganolog i'n bwriad."
Bydd BBC Radio Wales yn dechrau darlledu o'r Sgwâr Canolog yn fuan.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2018