'Mynydd o gefnogaeth' i ailgodi tŷ wedi ffrwydrad Blaendulais
- Cyhoeddwyd

Mae cymuned yng Nghwm Dulais wedi addo ceisio ailgodi tai gafodd eu dinistrio mewn ffrwydrad "trwy garedigrwydd".
Cafodd Jess Williams, 31, a'i meibion dwyflwydd a phump oed, eu hanafu yn y ffrwydrad ym Mlaendulais, Castell-nedd Port Talbot ar 24 Mehefin.
Dywedodd ffrind agos i'r teulu wrth BBC Cymru bod Ms Williams yn parhau i dderbyn triniaeth yn uned gofal dwys Ysbyty Treforys, tra bod y bechgyn yn gwella gyda'r teulu.
Mae tŷ Ms Williams wedi ei ddinistrio a tai dau gymydog wedi eu difrodi yn sylweddol.

Cafodd 14 o dai eu gwagio dros dro yn sgil y ffrwydrad
Dywedodd Heddlu De Cymru mai'r rheswm mwyaf tebygol am y ffrwydrad oedd cyfarpar nwy LPG oedd yn heneiddio ac amgylchiadau amgylcheddol.
Hyd yn hyn mae dros £25,000 wedi ei gasglu i helpu'r teuluoedd sydd wedi eu heffeithio, ac mae'r Cynghorydd Stephen Hunt wedi sefydlu ymddiriedolaeth i ddosbarthu'r arian.
Yn ôl Emyr Wyn Francis, sy'n un o bedwar ymddiriedolwr, mae'r ymateb wedi bod yn "arbennig iawn".
"Wrth gwrs mae un teulu wedi cael amser gwael iawn, ond mae teuluoedd eraill wedi cael difrod i'w cartrefi a difrod i'w ceir, ac felly o ni'n teimlo bod hi'n bwysig bod ni'n dosrannu arian i helpu pob elfen o'r stryd."

Dywedodd Emyr Wyn Francis bod ymateb yr ardal wedi ei wneud yn "browd iawn"
Cymaint yw'r ymateb bod y gymuned wedi penderfynu ceisio ailgodi'r tŷ a thrwsio'r tai sydd wedi eu heffeithio gan ddefnyddio adeiladwyr sy'n cynnig cwblhau'r gwaith yn rhad ac am ddim, a defnyddio'r arian sydd wedi ei gasglu i brynu deunyddiau.
"O'r tri tŷ, dim ond un ohonyn nhw oedd gydag yswiriant yn anffodus, ond beth sy'n anhygoel a beth sy'n neud fi'n browd iawn o fyw ym Mlaendulais yw bod y gymuned wedi dod at ei gilydd o bob maes, boed yn adeiladwr, neu'n drydanwr neu'n blymiwr, ac wedi rhoi eu hamser i adeiladu'r tŷ a 'dy ni'n gobeithio bydd y tai yn cael eu hailgodi trwy garedigrwydd."

Mae Huw Davies wedi bod yn gweithio am ddim i glirio safle'r ffrwydrad
Dros yr wythnos diwethaf mae Huw Davies wedi bod yn clirio safle'r ffrwydrad i sicrhau bod yr ardal yn ddiogel cyn i unrhyw waith arall ddechrau. Mae wedi bod yn gweithio am ddim.
"Pan glywais fod y ffrwydrad wedi digwydd, cysylltais â'r cynghorydd oherwydd ein bod yn fusnes teuluol o Gwm Dulais, rydym yn weithwyr proffesiynol yn y maes dymchwel, felly roeddwn i'n teimlo mai fi a'n tîm fyddai'r bobl orau i wneud y gwaith."
Cefnogaeth dros Gymru
Dywedodd Mr Davies ei fod ef a'i dîm wedi derbyn "mynyddoedd o gefnogaeth" gan y gymuned leol wrth iddyn nhw glirio cartref Ms Williams, yn ogystal â dymchwel dwy ran o dair o'r ddau eiddo arall i'w gwneud yn ddiogel.
Wrth fynd drwy'r safle, mae Mr Davies a'i dîm wedi darganfod pethau fel watshys, dyddiaduron a lluniau.
"Dylai jobyn fel hon gymryd dau neu dri diwrnod, ond mae wedi cymryd wythnos i ni oherwydd ni wedi mynd trwy popeth yn ofalus a chadw bron pob llun ni'n dod o hyd iddo, pob eiddo personol, popeth yr oeddwn ni'n gallu ei wneud."
Yn ôl Emyr Wyn Francis, mae cynigion i helpu wedi dod o bob cwr o'r wlad.
"Mae pobl leol wedi bod yn arbennig, ond yn ogystal â'r bobl leol yna mae pobl o dros Gymru wedi bod yn cysylltu yn fodlon rhoi deunydd neu llafur i helpu gyda'r ailadeiladu, ac mae hynny'n anhygoel, i feddwl bod modd adeiladu tŷ trwy garedigrwydd pobl leol."

Mae Brian Morris yn ffrind agos i deulu Jess Williams, ac mae'n disgwyl iddi fod yn yr ysbyty am gyfnod eto
Bydd yr ymddiriedolaeth yn mynd ati nawr i sicrhau bod modd ailadeiladu'r tŷ.
"Cam nesaf y prosiect yw canfod datblygiad y safle," meddai'r cynghorydd sy'n arwain yr ymgais, Stephen Hunt.
"Mae rhaid mynd trwy'r system gynllunio ac mae rhaid mynd trwy reolaeth adeiladu, felly bydd gennym syrfewyr a pheirianwyr strwythurol i roi cynlluniau at ei gilydd fel y gellir ailadeiladu'r tai heb yswiriant i'r safonau a'r ansawdd uchel yr ydym yn disgwyl.
"Rwyf wedi cael sicrwydd bod bron pawb sydd eu hangen arnom i gyflawni'r gwaith hwn yn barod i fynd."
'Arwyddion yn dda' i Jess

Yn ôl Brian Morris, sy'n ffrind agos i deulu Jess Williams, mae'r ymateb wedi bod yn "anhygoel".
"Maen nhw methu credu beth sy'n digwydd... mae pobl o bell ac agos wedi rhoi rhoddion a chynigion ar gyfer eu gwasanaethau.
"Mae ysbryd y pentref a'r gymuned wedi bod yn aruthrol i fod yn onest."
Yn ôl Mr Morris, bydd rhaid i Ms Williams dreulio dipyn o amser yn yr ysbyty gan fod ei chyflwr mor ddifrifol.
"Mae'r arwyddion yn dda, dydyn ni ddim allan o'r coed eto, ond mae pethau'n gwella. Mae hi'n mynd i fod i mewn am dipyn o amser."
Ychwanegodd mai "dim ond diolch allwn ni ddweud i'r achubwyr, oni bai am eu meddwl cyflym a'u dewrder... allwn ni ddim dweud diolch digon wrthyn nhw".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2020