Hen ddarn £1: 122m heb eu dychwelyd i'r Bathdy Brenhinol
- Cyhoeddwyd
Mae tua 122 miliwn o hen ddarnau £1 ddim wedi cael eu dychwelyd i'r Bathdy Brenhinol, er nad oes modd eu defnyddio ers mis Hydref 2017.
Dychwelwyd oddeutu 1.58 biliwn, heb gynnwys o leiaf 1.5 miliwn oedd yn ffug.
Ond dywed y Bathdy "na ellid gwahaniaethu yn hawdd rhwng darnau arian go iawn a rhai ffug, a dyna pam y cyflwynwyd darn arian newydd".
Cafodd y darn crwn ei ddisodli gan y fersiwn 12-ochr ym mis Hydref 2017 i helpu i fynd i'r afael â ffugio.
Cafodd 23 miliwn o hen ddarnau £1 eu dychwelyd i'r Bathdy Brenhinol dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigyrau a gafwyd gan BBC Cymru.
Ond mae hynny'n dal i adael 122 miliwn yn weddill - er nad yw pobl wedi gallu eu gwario mewn siopau ers mis Hydref 2017.
Dywedodd llefarydd ar ran y Bathdy Brenhinol fod eu "cofnodion mewnol yn dangos ers 2017 bod tua 1.45 miliwn o ddarnau ffug wedi'u dychwelyd, er bod hwn yn amcangyfrif rhy isel o dipyn.
"Ni ellid gwahaniaethu yn hawdd rhwng yr hen ddarn arian £1 go iawn a rhai ffug, a dyna pam y cyflwynwyd darn arian newydd."
Roedd tua 1.7 biliwn hen ddarn £1 mewn cylchrediad pan gyflwynwyd y darn £1 newydd ar 28 Mawrth 2017.
Yn ôl y Bathdy, sydd wedi'i leoli yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, gall yr hen ddarn £1 barhau i gael ei gyflwyno i gyfrif cwsmer yn y rhan fwyaf o fanciau'r stryd fawr.
Mae tua 138 o filiynau o'r hen ddarnau £1 wedi'u toddi i helpu i greu rhai o'r rhai newydd yn y Bathdy Brenhinol.
Disgrifiwyd y darn arian newydd fel yr "arian mwyaf diogel yn y byd", gyda chyfres o fanylion gwrth-ffugio, gan gynnwys deunydd y tu mewn y gellir ei ganfod pan gaiff ei sganio'n electronig gan beiriannau.
Ehangodd y Bathdy Brenhinol ei arlwy y llynedd trwy droi at wneud gemwaith.
Gwnaethpwyd mwy na hanner yr holl daliadau yn y Deyrnas Unedig y llynedd gyda cherdyn - gan baratoi'r wlad yn "anfwriadol" ar gyfer cyfnod y coronafeirws, medd banciau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd8 Awst 2018
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2018