Galw am gefnogaeth i godi treth ar dwristiaid
- Cyhoeddwyd

Yr olygfa o gopa mynydd uchaf Cymru, Yr Wyddfa
Mae'n bosib y bydd rhaid talu i ymweld â chopa'r Wyddfa yn y dyfodol, fel rhan o ymgais i leihau effaith twristiaeth ar y gogledd orllewin.
Bydd cais i gynghorwyr Gwynedd gefnogi codi "tal addas" ar bobl sy'n mynd i ben yr Wyddfa, ar droed neu ar y tren, gyda'r elw'n cael ei fuddsoddi mewn cymunedau sy'n cynnal y diwydiant twristiaeth.
Mae tua 475,000 o bobl yn ymweld a'r copa bob blwyddyn, ac yn ôl y Cynghorydd Glyn Daniels, Blaenau Ffestiniog, byddai codi cyn lleied a £1 y pen yn dod â swm chwe ffigwr i'r coffrau.
Dywedodd y Cyng. Daniels y gallai'r arian gael ei rannu rhwng y cyngor ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Bydd y cynnig yn cael ei drafod gan y cyngor llawn ym mis Hydref.

Ceir wedi parcio ar ochr y ffordd ym Mhen y Pass, Llanberis yn ddiweddar
"Nid yn unig y byddai hyn yn codi arian i'r cyngor a'r parc, ond gallai hefyd gyfrannu tuag at adeiladu meysydd parcio newydd, fyddai'n lleihau'r nifer o geir sy'n parcio'n anghyfreithlon ar y ffyrdd," meddai'r Cynghorydd Daniels.
"Rhaid cofio bod sawl gwlad arall yn gweithredu'r math yma o bolisi, y Swisdir, Canada a Seland Newydd i enwi dim ond rhai.
"Pan mae degau o filoedd o ymwelwyr yn heidio i'n ardaloedd hardd, oni ddylen ni allu cael ychydig o fudd ariannol allan ohono?
"Dydan ni ddim yn galw am aur, ond rydan ni'n haeddu mwy na briwsion."
Mae cynnal a chadw llwybrau cerdded yn Eryri eisoes yn costio £250,000 y flwyddyn, ac mae ymwelwyr yn gallu gwneud cyfraniadau gwirfoddol tuag at gynnal a chadw.
Mater i Lywodraeth Cymru fyddai codi treth gyffredinol ar dwristiaeth, ond dywedodd llefarydd mai mater i Gyngor Gwynedd a'r parc cenedlaethol fyddai tâl lleol ar gyfer pobl sy'n mynd i gopa'r Wyddfa.

Mae sbwriel wedi bod yn broblem ar gopa'r Wyddfa yn ddiweddar
Fel rhan o ymgynghoriad ar drethi gan Lywodraeth Cymru yn 2018, dywedodd Cyngor Gwynedd ei fod, mewn egwyddor, yn cefnogi treth ar dwristiaid oedd yn aros dros nos yn y sir.
Mae nifer o ddinasoedd ar draws Ewrop yn codi'r math yma o dreth, ac roedd Cyngor Gwynedd o'r farn y gallai weithio'n dda yn y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, deilydd portffolio economaidd Cyngor Gwynedd, fod twristiaeth yn un o brif sectorau economaidd y sir ac yn gyflogwr pwysig ond roedd y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn rhoi "pwysau sylweddol ar yr isadeiledd lleol."
Gofynnwyd am sylw gan Barc Cenedlaethol Eryri, awdurdodau lleol eraill, a Llywodraeth Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2020