Ateb y Galw: Yr actor Richard Elis
- Cyhoeddwyd

Yr actor Richard Elis sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Dan Thomas.
Mae Richard, yn wreiddiol o Landybie ger Rhydaman ond yn byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig, yr actores Tonya Smith a'u dwy ferch. Mae'n adnabyddus am actio yn y theatr, ar deledu a ffilm yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys 35 Diwrnod, Gwaith/Cartref, Tourist Trap ac Eastenders.
Mae gan y teulu gyfres o'r enw #LockDad! ar YouTube, yn rhoi golwg ysgafn ar y problemau yn ystod y clo mawr.

Beth ydi dy atgof cyntaf?
Eistedd ar feic modur Dad. Wel, i fod yn onest, yr atgof ydy cael stranc masif pan wnaeth Dad droi yr injan i ffwrdd.
Bydden i'n aros i Dad reidio'r beic i fyny at y garej tu cefn i'r tŷ a wedyn bydde fe yn gadel i fi eistedd ar y beic gyda fe a gwthio fi ar y beic i'r garej. Wedyn y stranc fwya wrtha i pob tro oedd y beic yn cael ei ddiffodd!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Wendy James o Transvision Vamp a Barbara Windsor!

Mae'n rhaid bod Richard Elis wrth ei fodd i gael chwarae rhan Huw Edwards yn Eastenders o 1996 i 1999 - ochr yn ochr â Barbara Windsor (Peggy Mitchell)
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mae nifer fawr o rhain gyda fi - ond un sy' wedi sefyll gyda fi oedd gweud "I love you" i sound engineer yn Llundain. Fi dal ddim cweit yn gwbod beth o'n i'n trio gweud, falle cyfuniad o Thank You a Lovely, ond "I love you" ddaeth mâs yn glir.
Stopodd e ac edrych arna i gan ateb "but we've only just met." Awr anghyfforddus iawn yng nghwmni ein gilydd wedyn yn lleisio rhyw advert neu gilydd!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Bore 'ma. Fi'n llefain yn aml, ma' nifer fawr o bethau yn gallu dechrau fi bant. Adverts, caneuon... mae rhestr fawr. Bore 'ma roedd gweld fy merched i yn dal dwylo wedi 'neud fi lefen. Mor syml â 'ny!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n casau pobol yn bwyta o gwmpas fi - fy arfer gwael fi yw gweud wrthon nhw i fod yn dawel. Unrhywun, yn unrhyw le, ar unrhyw bryd!

Mae gan Richard atgofion melys o'i blentyndod yng Nghastell Carreg Cennen yn Sir Gâr
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Castell Carreg Cennen - ges i fy magu bron yng nghysgod y castell yma. Atgofion hyfryd o blentyndod.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Eto mae nifer fawr o'r rhain, ond un o'r rhai mwya' gwyllt oedd ar ôl gig Stereophonics yn Abertawe. Fi, fy ngwraig, fy ffrindiau gorau a yffarn o barti oedd wedi para tridie!
Ar un pwynt, ro'n i a chriw o bobol o'n i byth wedi cwrdd o'r blaen yn chware golff ar ben to warehouse gwag yn rhywle!

Roedd Richard (yn y blaen ar y dde) yn chwarae rhan yr athro Wyn Rowlands yn Gwaith/Cartref ar S4C
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cariadus, emosiynol, direidus.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Fy hoff ffilm - The Big Lebowski! Quotes di-ri a dwi'n chwerthin ar rhywbeth gwahanol bob tro fi'n gwylio fe.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Dad - jyst er mwyn cael un noson arall yn ei gwmni.

O archif Ateb y Galw:

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
O'n i'n arfer gweithio fel life guard yn y pwll nofio lleol yn Ysgol Tre Gib yn Llandeilo pan o'n i'n tyfu fyny.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Eistedd yn fy hoff le yn y byd gyda fy hoff bobol - ar y soffa yn tŷ ni gyda fy ngwraig a fy merched.

Beth yw dy hoff gân?
Ar y foment - Charlie Worsham, Young To See.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Risotto madarch, Byrger Spicy Uncle Pedro a Dirty fries gyda Root Beer i yfed o'r Grazing Shed, ac i bwdin Lemon Meringue Pie!
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Eric Morecombe i weld sut mae'n teimlo i fod yn genius.
Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?
Tonya Smith