Llyfr y Flwyddyn: 'Yr Horwth' a 'Babel' yn fuddugol

  • Cyhoeddwyd
Ifan Morgan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ifan Morgan Jones

Mae dau yn rhagor o enillwyr categoriau Llyfr y Flwyddyn 2020 wedi cael eu cyhoeddi yn ystod Gŵyl AmGen.

Elidir Jones sy'n cipio'r categori Plant a Phobl Ifanc eleni, gyda'i nofel 'Yr Horwth' ac Ifan Morgan Jones sy'n cipio'r categori Ffuglen, gyda 'Babel'.

Mae'r ddau yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un a thlws wedi ei ddylunio a'i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Mae Elidir Jones ac Ifan Morgan Jones hefyd yn gymwys am Wobr Barn y Bobl Golwg360 a Phrif Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020.

Daeth y cyhoeddiad nos Iau mai Caryl Bryn ac Alan Llwyd a ddaeth i'r brig yn y categorïau barddoniaeth a ffeithiol greadigol.

Ffynhonnell y llun, Delyth Badder
Disgrifiad o’r llun,

Elidir Jones

Y nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc ydy 'Y Horwth' gan Elidir Jones.

Fe ydy enillydd cyntaf y categori Plant a Phobl Ifanc wrth iddo gael ei gyflwyno eleni am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth.

O Fangor yn wreiddiol mae Elidir bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn awdur, sgriptiwr ac ymchwilydd i gyfresi teledu megis 'Arfordir Cymru' a 'Cynefin'.

Mae e hefyd yn chwarae'r gitâr fas i'r band Plant Duw.

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y llyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn Gymraeg eleni

Nofel ddirgelwch yw 'Babel', wedi ei lleoli mewn tref ddiwydiannol yn ail hanner y 19eg ganrif.

Mae Ifan Morgan Jones yn ddarlithydd mewn Newyddiaduraeth yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, Prifysgol Bangor.

Enillodd ei nofel Igam Ogam Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2008.

Fe hefyd sy'n gyfrifol am wefan newyddion annibynnol nation.cymru.

Bydd enillwyr y ddau gategori olaf yn cael eu cyhoeddi ar Radio Cymru rhwng 12:30-13:00 ddydd Sadwrn 1 Awst.