Cyhoeddi enillwyr dau gategori Llyfr y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Caryl BrynFfynhonnell y llun, Caryl Bryn
Disgrifiad o’r llun,

Hwn ydy'r llais, tybad? yw cyfrol gyntaf Caryl Bryn

Hwn ydy'r llais, tybad? gan Caryl Bryn sydd wedi cipio'r catergori barddoniaeth eleni yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.

Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones gan Alan Llwyd oedd yn fuddugol yn y categori ffeithiol greadigol.

Mae'r ddau enillydd yn derbyn gwobr o £1,000 yr un a thlws wedi ei ddylunio a'i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Gwnaed y cyhoeddiad am 19:30 nos Iau ar BBC Radio Cymru fel rhan o Ŵyl AmGen BBC Radio Cymru, Radio Cymru 2 a BBC Cymru Fyw.

Mae'r ddau hefyd yn gymwys am wobr Barn y Bobl Golwg360 a phrif enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020, a gaiff eu cyhoeddi ar Radio Cymru ar ddydd Sadwrn, 1 Awst rhwng 12:30 a 13:00.

Dyma gyfrol gyntaf Caryl Bryn. Mae'n gyfrol sydd yn ymdrin yn grefftus â galar, serch ac ieuenctid.

Daw Caryl Bryn yn wreiddiol o Borth Amlwch ym Môn, ac mae'n byw yng Nghaernarfon.

Mae hi'n gyfrannydd cyson i gylchgronau Y Stamp, Barddas a Barn.

Cyhoeddwyd 'Hwn ydy'r llais, tybad?' dan faner Cyhoeddiadau'r Stamp.

Ffynhonnell y llun, Caryl Bryn
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Caryl Bryn datŵ o deitl ei chyfrol ar ei braich!

Roedd 2019 yn nodi 70 o flynyddoedd ers marwolaeth y bardd, y llenor a'r ysgolhaig T. Gwynn Jones.

Mae'r gyfrol Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones (Cyhoeddiadau Barddas) yn gofiant cynhwysfawr i'r Prifardd hwnnw.

Disgrifiad o’r llun,

Alan Llwyd

Trafodir ei fagwraeth a'i deulu, ei weithiau creadigol o bob math, ei addysg a'r holl ddylanwadau arno.

Rhoddir cryn sylw i'w nofelau rhyddiaith sy'n esgor ar nifer o syniadau newydd oedd gan T. Gwynn Jones am gymdeithas a gwleidyddiaeth y cyfnod.

Ceir hefyd drafodaeth estynedig ar ei farddoniaeth wrth i'r awdur olrhain datblygiad manwl iawn o T. Gwynn Jones fel bardd.

Mae Alan Llwyd yn gofiannydd profiadol ac ymysg ei lyfrau diweddar mae wedi ysgrifennu cofiannau dadlennol i rai o'n beirdd a'n llenorion pwysicaf: Kate: Cofiant Kate Roberts 1891-1985 (Y Lolfa, 2011), Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884-1956 (Gwasg Gomer, 2013), Waldo: Cofiant Waldo Williams 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), Gwenallt: Cofiant D. Gwenallt Jones 1899-1968 (Y Lolfa, 2016).

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gystadleuaeth flynyddol yn cael ei threfnu gan Llenyddiaeth Cymru

Caiff y gwobrau eu beirniadu gan banel annibynnol a benodir yn flynyddol.

Yn beirniadu'r llyfrau Cymraeg eleni mae'r newyddiadurwraig a chyn-olygydd BBC Radio Cymru a Cymru Fyw Betsan Powys; y cartwnydd, awdur a chyflwynydd Siôn Tomos Owen; y Prifardd a Phennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Emyr Lewis; a'r gantores-gyfansoddwraig, Casi Wyn.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei threfnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn ddigwyddiad hanfodol bwysig yng nghalendr diwylliannol Cymru. R Braf yw gweld bardd sy'n cyhoeddi am y tro cyntaf, ac awdur sydd eisoes wedi cyrraedd rhestrau byrion ac wedi ennill gwobrau'r gorffennol, yn ennill y categoriau hyn eleni. "

Caiff enillwyr y categori Plant a Phobl Ifanc a'r categori Ffuglen eu cyhoeddi ar BBC Radio Cymru ddydd Gwener 31 Gorffennaf rhwng 12.30 - 1.00 pm, gydag enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 a'r Prif Enillydd yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn 1 Awst rhwng 12:30-13:00.

Cyhoeddir yr holl enillwyr Saesneg ar BBC Radio Wales nos Wener, 31 Gorffennaf rhwng 18:00-19:00.