'Fi yn y tŷ 24/7': Erfyn am newid trefn gofal Cymru
- Cyhoeddwyd
"Gadewch i fi allu byw."
Dyna gri dyn 33 oed o Bontypridd sy'n erfyn ar y gweinidog iechyd i ddilyn trefn Lloegr a'r Alban a chyflwyno cyllidebau iechyd personol.
Mae Rhys Bowler yn byw gyda chyflwr Duchenne - cyflwr sy'n gwanhau cyhyrau'r corff.
Nid yw'n gallu anadlu heb gymorth peiriant, ac mae'n methu symud ei goesau na'i freichiau, sy'n golygu ei fod yn defnyddio cadair olwyn.
"Fi'n defnyddio ventilator drwy'r amser. Fi ddim yn gallu symud breichiau fi na coesau fi. Fi'n symud cadair [olwyn] fi gyda fingers fi. A basically fi angen help 24/7."
Ond nid yw Rhys yn cael y cymorth mae'n teimlo mae ei angen.
Petai'n byw yn Lloegr neu'r Alban, mae'n dweud y byddai hawl ganddo i wneud cais am gyllideb iechyd personol - arian fyddai'n dod gan y Gwasanaeth Iechyd yn uniongyrchol i gael dewis gofalwyr addas.
Ond ar hyn o bryd yng Nghymru, dyw hynny ddim ar gael.
Mae gan Rhys ddewis - derbyn arian drwy wasanaethau cymdeithasol, sy'n ei alluogi i gyflogi gofalwyr am 104 awr mewn wythnos.
Neu fe all gael gofal 24 awr gan y GIG - ond byddai hynny'n golygu colli unrhyw reolaeth am bwy sy'n gofalu amdano.
"Maen nhw'n helpu fi gyda popeth - showers, codi fi yn y bore, mynd a fi i'r tŷ bach, bwydo fi. Popeth basically."
"Mae'n rhaid i fi splito'r arian fi'n derbyn ar hyn o bryd. Mae hynny'n golygu fi ar ben fy hun am bump awr falle.
"Y broblem gyda hwnna yw, er enghraifft os yw batteries yn mynd ar y ventilator… I'm dead. Fi ddim yn gallu anadlu fel arall.
"Split shifts sydd 'na ar y foment. Fi ddim gallu dewis pryd fi'n mynd allan, felly does dim socialiso. Fi yn y tŷ 24/7."
'Yr unig berson o'dd yn deall'
Mae Rhys eisiau newid i'r drefn yng Nghymru: "Fi moyn rhyddid 24 awr a bod nhw'n rhoi'r arian i fi. Mae'r arian ar gael yn barod ond maen nhw'n talu agencies.
"Mae ar gael yn Yr Alban a Lloegr ond dyw e ddim ar gael yng Nghymru am ryw rheswm.
"Fi just eisiau cael y rhyddid i fyw fel pawb arall. Just byw bywyd fi y ffordd fi moyn e. Bydd e'n newid bywyd fi completely."
Dair blynedd yn ôl, fe gollodd Rhys ei frawd, Geraint, oedd hefyd â'r cyflwr. Pan gafodd y brodyr eu profi, cafodd y teulu wybod bod y ddau yn debygol o farw yn ifanc.
"Roedd colli Geraint mor anodd. O'dd e'r unig berson o'dd yn deall beth fi'n mynd drwyddo.
"Mae bywyd yn really fyr. Fi moyn byw fy mywyd i am fe. I'r ddau ohonon ni.
"Galle hwnna fod yn fath o legacy fi - i ddweud wrth bobl fel fi, s'dim rhaid i chi boeni rhagor. You can live like everyone else."
'Fi angen rhyddid'
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n adolygu sut mae gofalu am y rheiny â chyflyrau iechyd cymhleth ar hyn o bryd.
Maen nhw'n dweud eu bod yn gobeithio darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol integredig er mwyn rhoi dewis i'r rheiny sydd am gael rheolaeth dros eu gofal.
Ymysg yr opsiynau mae defnyddio ymddiriedolaethau defnyddwyr annibynnol, sy'n debyg i'r cyllidebau iechyd personol yn Lloegr.
Mae Rhys yn galw ar i'r llywodraeth weithredu nawr. Mae dros 400 wedi arwyddo deiseb mae wedi ei sefydlu yn galw am gyflwyno cyllidebau iechyd personol.
Mae ganddo neges glir i'r gweinidog iechyd: "Paid cadw pobl yn aros.
"Falle bod lockdown wedi rhoi persbectif i bobl o beth mae fel i fod yn stuck yn y tŷ. I ddim gallu mynd mas i fyw dy fywyd.
"Fi angen rhyddid. Os ti'n rhoi rhyddid, ti'n newid bywyd fi completely. Ti'n rhoi rhyddid i fi fod yn hapus basically. Let me live my life."
Efallai o ddiddordeb:
"Os ydych yn ddigon breintiedig i gael beth rydych eisiau, gafaelwch ynddo gyda'ch dwy law a pheidio gadael fynd.
"Gwerthfawrogwch a gwnewch y mwyaf ohono. Oherwydd pan fyddwch yn ei golli, fydd bywyd ddim yr un peth.
"Os cymerwch chi un peth o fy nyddiadur, peidiwch â byw i ddifaru hynny. Dim ond un cynnig rydyn ni'n ei gael ar fywyd. Gwnewch y gorau ohono."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2020