Dyddiadur Rhys: Hunan-ynysu gydag anabledd

  • Cyhoeddwyd
Rhys BowlerFfynhonnell y llun, Rhys Bowler

Mae Rhys Bowler yn 32 oed ac yn byw ym mhentref Penrhiw-ceibr, Rhondda Cynon Taf. Mae'n byw gyda Dystroffi'r Cyhyrau; cyflwr sy'n achosi i'r cyhyrau yn y coesau a'r breichiau, o gwmpas y galon a'r ysgyfaint i wanhau dros amser gan arwain at fethu symud, a chwtogi oes person yn y pen draw.

Yn ystod y cyfnod o hunan-ynysu, mae wedi bod yn cyhoeddi dyddiadur am ei brofiadau er mwyn codi arian at elusen sy'n gweithio i ymladd y cyflwr.

Mae Rhys yn teipio'r dyddiadur gyda'i wddw. Dyma addasiad o'r dyddiadur hwnnw, sy'n rhoi portread gonest a thrawiadol o'i fywyd.

Diwrnod 1

Dyma'r diwrnod cyntaf, ond dwi'n barod bron a dringo'r waliau!

Fe wnes i siopa ddoe, ac mae pawb i weld wedi dod dros eu fetish papur tŷ bach a symud ymlaen at fwyd! Am ryw reswm mae selsig Richmond mor brin ag unicorn.

Gan fy mod i wedi diflasu a pob un ohonom mewn sefyllfa rhyfedd, dwi am orfod cadw llygad ar fy iechyd meddwl. Fy ngobaith yw cadw pawb yn bositif yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys fy hun, gan ein bod yn yr un cwch.

Felly dyma fi, mewn caets fel llew! Ond os dwi'n rhedeg allan fwyd fe alla i wastad bwyta un o fy staff gofal! Maen nhw'n edrych yn flasus yn barod...

Diwrnod 3

Dwi'n barod yn crefu am ryddid! Mae'n rhyfedd sut mae'r meddwl yn gweithio, yn dyw hi? Fe wnes i hyn am ddeng mlynedd o'r blaen, a wnaeth hynny ddim fy mhoeni.

Ond y funud mae rhywun yn dweud wrtha i aros mewn, dwi eisiau mynd allan! Ond mae pawb fel hyn, a rhaid gwrando er mwyn dod â'r llanast 'ma i ben!

Diwrnod 4

Heddiw dwi wedi bod yn cynllunio er mwyn symud ymlaen yn feddyliol.

A wyddoch chi beth sy'n impressive? Dwi'n teipio hyn gyda fy mhen ac un llygad am fod y llall wedi dyfrio, a rwy'n disgwyl i ofalwr ddod i'w sychu!

Dyw bywyd ddim yn hawdd i neb, ond dyw ddim i fod felly. Dim ond y ffordd anodd sydd yna. Ond does dim rhaid ei ddilyn ar ein pen ein hunain - fe wnawn ni hyn gyda'n gilydd.

Drwy fod yn bositif, does dim byd yn amhosib a bydd newid yn ein uno, fel nad ydyn ni fyth ar ein pen ein hunain.

Ffynhonnell y llun, Duan Evans
Disgrifiad o’r llun,

Rhys yn ifanc yng ngwersyll Llangrannog, gyda'i athro Duan Evans

Diwrnod 6

I berson gydag anabledd, mae bod yn hunan-gynhaliol werth ei bwysau mewn aur. Mae'n fwy gwerthfawr na'r aer dwi'n ei anadlu.

Fy annibyniaeth yw'r peth sy'n fy nghael o'r gwely yn y bore, a gadewch i mi ddweud wrthych chi doedd ei ennill ddim yn hawdd. Rwy' wedi gorfod ymladd pob cam o'r ffordd i gyflawni hyn.

Dyma neges i Covid, neu Corona fel mae'n hoffi cael i adnabod. Rwyt ti wedi mynd i ryfel gyda'r peth dwi wedi gweithio mor galed i'w gyflawni. Fel dywedodd un Prydeiniwr gyda balchder o'r blaen "We shall never surrender!".

Diwrnod 7

Nawr ein bod yn ffrindiau, fe alla i ddweud fy mod wedi gwlychu fy hun heddiw! Dair gwaith!

Yn y sefyllfa yma rwy'n meddwl ei bod yn bwysig canolbwyntio ar y pethau sydd gennym i fod yn ddiolchgar amdanynt.

Mae gen i fy iechyd o hyd. Rwy'n credu bod angen gwarchod y pethau sydd fwyaf pwysig i ni. I mi, fy annibyniaeth yw hynny a diolch byth fod yr NHS yma'n gefn i mi ar gyfer hynny.

Dros y blynyddoedd mae fy anghenion cymorth anadlu wedi tyfu ac rwy wedi dod i adnabod y tîm sy'n fy helpu yn dda. Felly gan na alla i glapio, dyma gyfle i ddweud diolch wrthyn nhw!

Diwrnod 8

Rwy' wedi dysgu dwy wers heddiw. Yn gyntaf mae bron pawb yn yr un lle nawr; mae fel petai anabledd ddim yn bodoli ddim mwy ac mae hynny'n deimlad mor dda. Mae pawb bellach yn deall beth mae'n ei olygu i beidio gallu mynd allan. Mae peiriant anadlu yn beth cŵl!

Gwyliwch allan am wersi gen i ar sut i fod yn sex bomb gyda pheiriant anadlu!

Yr ail wers yw cofiowch ffonio eich mam-gu. Gall y ffôn gael gwared o unigrwydd felly defnyddiwch e!

Diwrnod 12

Mae gen i wddf fel yr hulk ar ôl teipio cymaint â hyn!

Wyddoch chi beth dwi'n ei golli? Brexit! Beth ddigwyddodd i hwnnw?!

Diwrnod 13

Ar y darllediad newyddion o 10 Downing Street ddoe, roedd yna ffyliaid yn gofyn a allen nhw fynd allan am bicnic... Os oes rhaid i mi aros mewn, mae'n rhaid i chi hefyd!

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Dwi eisiau ysgrifennu am thema cyson yn fy mywyd i a'r mwyafrif o bobl anabl, eu teuluoedd a'u gofalwyr: denial. Yn fy malchder, roeddwn yn meddwl fod hwn yn ungiryw i bobl anabl, ond mae'r argyfwng yma wedi gwneud i mi sylweddoli fod hyn yn effeithio arnon ni gyd.

I mi mae denial wedi effeithio ar bob rhan o fy mywyd, bob dydd. Allwch chi ddim crïo am y peth - wel, fe allwch ac rwy' wedi gwneud - ond yn hwyr neu hwyrach mae'n rhaid delio gydag e.

Mae wedi cymryd cryfder meddyliol enfawr i mi ymdopi gyda cael fy amddifadu o bethau. Nid y pethau mawr sydd fwyaf anodd a dweud y gwir, er mor galed yw'r rheiny. Y pethau bach sydd wir yn fy ngwylltio.

Dychmygwch eich bod yn deffro mor flinedig, fel nad ydych bron yn cofio eich enw. Mae'r pethau mae eich gofalwyr yn ei wneud yn digwydd heb i chi sylwi. Rydych fel zombie, yn ysu am baned o de i gael teimlo fel person eto. Dychmygwch y stêm yn codi ohono gydag arogl hyfryd, a'r stafell yn dawel braf ar ôl i'r gofalwyr adael.

Rydych yn edrych ar y baned o de, a'n mynd i roi'r gwelltyn yn eich ceg - rydych chi am fwynhau hyn.

Yna mae'r peth gwaethaf bosib yn digwydd. Rydych chi'n tisian. Mae'r cyfan yn digwydd mewn slow motion - y gwelltyn bach yn symud oddi wrthych ond rydych yn ei ddal gyda'ch gên.

"Os alla i droi fy mhen yn araf iawn fel hyn... efallai... bron i mi ei flasu!"

Dim lwc. Mae'r gwelltyn yn syrthio ar y llawr. Does dim ail gynnig, a dim diod nawr tan 3 y prynhawn. Game over! Go to jail! Do not pass Go...!

Yn y blynyddoedd diwethaf mae MD wedi mynd â 90% o fy ngallu corfforol, a'm gadael i wneud popeth gyda fy mhen. Mae hyd yn oed wedi ceisio mynd a'r aer rwy'n ei anadlu.

Diwrnod 14

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

"Rwy'n edrych ar hyd yr A470 ac mae'n personoli unigedd, does dim cerbyd arno"

Rwy'n edrych ar hyd yr A470 ac mae'n personoli unigedd, does dim cerbyd arno. Rydyn ni'n sicr yn byw mewn cyfnod rhyfeddol. A nawr mae ein Prif Weinidog wedi cael ei roi mewn uned gofal dwys, a'n hatgoffa fod pawb yn fregus i'r afiechyd hwn.

Dyw fy ngorbryder i ddim yn cael y gorau ohona i yn aml; mae'n mynd a dod gan ddibynnu ar y sefyllfa. Mae fy ngorbryder yn deillio o atgofion anodd, ond rwy'n dda am wynebu'r rhain. Dwi'n atgoffa fy hun na all Covid 19 fod mor ddrwg a phethau eraill rwy' wedi eu profi.

Diwrnod 18

Rwy' wastad wedi dioddef gyda fy nhymer. Bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n fy adnabod yn dweud fy mod yn hyfryd, ond yn grumpy sod!

Rwy' wastad wedi gallu cael fy ngwylltio lân, ac er fy mod wedi cadw hyn dan reolaeth yn dda mae pethau wastad yn adeiladu yn araf. Fel arfer, dyddiau o gael fy siomi, problemau gofal ac hyd yn oed rhwystredigaethau rhywiol sy'n adeiladu a rwy'n ffrwydro. Gall hyn fod yn niweidiol iawn i berson gydag anabledd, neu unrhywun a dweud y gwir. Mae'n achosi drwg deimlad ac yn brifo pobl. Ac i ddweud y peth amlwg os wyt ti'n byw gydag anabledd corfforol ac yn ddibynnol ar bobl, galli di ddim fforddio gwneud hyn! Felly suck it up, buttercup!

Y cam cyntaf i ddelio gyda hyn yw cydnabod eich bod yn flin, 'dyw hynny ddim wastad yn beth gwael. Nawr ceisiwch ddeall pam eich bod yn flin.

Os ydych yn fy sefyllfa i does dim rhyfedd eich bod yn gwylltio. Allwch chi'n llythrennol ddim codi bys, rydych yn sownd yn eich catref ac yn methu ei adael heb help rhywun arall.

Diwrnod 21

Dwi'n ôl ac wedi cael cyfle i orffwys fy ngwddf.

Fe wnes i wylio'r newyddion diweddaraf am coronafeirws heddiw, a gweld bod ambell wleidydd wedi bod yn torri'r rheolau! Mae gan bawb yn yr NHS hawl i fod yn flin gyda nhw.

Mae Covid-19 yn un ffiasco, ond rwy eisiau trafod eliffant mawr arall sydd yn y stafell ac yr un mor beryglus a coronafeirws. Mae iselder yn byw oddi ar Covid-19, wrth i ni gael ein cloi yn ein tai.

Fe allai iselder fod yn bandemic arall.

Rwyf i'n rebel llwyr a wedi torri pob rheol dan haul, ond rwy' i hyd yn oed yn gwybod mai aros yn y tŷ yw'r peth iawn i wneud.

Ffynhonnell y llun, Rhys Bowler
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa o fflat Rhys, a ffordd yr A470 yn dawel

Diwrnod 23

Ydych chi dal gyda mi? Dwi'n cyfri'r dyddiau tan y byddaf yn cael cerdded i ryddid... wel, gyrru i ryddid!

Y tro yma rwy' am ysgrifennu am un o'r ergydau mwyaf gallwn ni ei wynebu, sef colli rhywun rydym yn ei garu. I bobl, marwolaeth yw un o'r pethau anoddaf mae'n rhaid ymdopi gydag ef. Mae gan bawb bobl yn eu bywydau y mae'n anodd dychmygu byw hebddynt.

Yn 2017 fe gollais fy mrawd i gyflwr Muscular Dystrophy a dyma oedd ergyd fwyaf fy mywyd. Pan wnaeth y golau ddiffodd yn ei lygaid mawr glas fe wnaeth fy myd ddymchwel o fy amgylch. Fy mrawd oedd fy fersiwn i o wraig a phlant mae'n debyg. Fe wnaeth i mi gwestiynu pwrpas fy mywyd. Gall pob atgof fod yn boen enfawr, yn gwneud i chi fod eisiau gwneud twll a chuddio ynddo am weddill eich dyddiau.

Yr her fwyaf sy'n rhaid i mi a phawb arall ei wynebu, yw diwedd bywyd ein hunain. Does dim gwella o fy nghyflwr. Doeddwn i ddim wir yn meddwl am hynny, tan i mi wynebu marwolaeth fel yna. Yn y dyddiau cynnar pan oedd gweithwyr iechyd yn dweud fy mod am farw, roeddwn i'n desensitized i'r syniad.

"O ie Doc, dwi am farw ydw i?!"

Ond fe ddyweda i yn onest, roeddwn yn barod i farw erbyn y cyfnod bu marw fy mrawd. Roeddwn wedi bod yn barod ers oeddwn yn 25. Rwy'n gwybod fod hynny'n morbid, ond rhowch hi fel hyn: doeddwn i ddim yn drist nac eisiau lladd fy hun - roeddwn i'n bloody bored. Roedd dirywiad fy nghorff bron yn gyflawn a doeddwn i methu gwneud y pethau oeddwn i'n eu mwynhau.

Erbyn ro'n i'n 32 oed, ro'n i'n gwbl fodlon wynebu marwolaeth fy hun.

Ond roedd cymaint o gorff fy mrawd yn dal i weithio, roedd yn gallu gwneud cymaint yn fwy na fi. Doedd e ddim wedi gorffen byw, a doedd ddim eisiau marw.

Mae'n rhaid cyfaddef mai fy ymateb cyntaf oedd cenfigen. Roedd fy ngwobr ar ôl ymladd am 31 mlynedd wedi ei gymryd oddi arna i. Yna roeddwn yn teimlo'n flin. Roedd ofn ar fy mrawd, a roeddwn i fel brawd mawr wedi methu â'i warchod.

Ffynhonnell y llun, Rhys Bowler

Ond hyn yn oed mewn marwolaeth mae yna bethau positif. Mae Geraint wedi rhoi pwrpas i mi ail adeiladu fy mywyd. Wna i ddim stopio tan fy mod wedi rhannu dy stori a gadael rhywbeth ar ein hôl.

Fe wna' i eich gadael am y tro gyda'r datganiad yma. Os ydych yn ddigon breintiedig i gael beth rydych eisiau, gafaelwch ynddo gyda'ch dwy law a pheidio gadael fynd. Gwerthfawrogwch a gwnewch y mwyaf ohono. Oherwydd pan fyddwch yn ei golli, fydd bywyd ddim yr un peth. Os cymerwch chi un peth o fy nyddiadur, peidiwch â byw i ddifaru hynny. Dim ond un cynnig rydyn ni'n ei gael ar fywyd. Gwnewch y gorau ohono.

Diwrnod 32

Does dim llawer yn digwydd heddiw ond fe wnes i addo ceisio ysgrifennu pob dydd, felly byddwch yn garedig!

Pan des i'n ymwybodol o fy nghyflwr am y tro cyntaf roedd fel bod mewn stafell dywyll, gyda blindfold a heb olau na map. Ond roedd fy Mam fel daredevil yn arwain y ffordd gyda fi a fy mrawd yn dilyn! Roedd fy rhieni a Nain a Taid yn gefnogaeth gadarn, a fe wnaethon ni ddeall byddai angen llawer cwlwm teuluol cryf arnon ni wrth i ni wynebu amryw i ffeit ar hyd y ffordd.

Roedd fy nghyfnod yn yr ysgol yn gyffrous. Wnes i ddim cael fy nal nôl am fod gen i ffrindiau da. Roedd y rhai yn fy mlwyddyn i'n gwybod am fy anabledd, ond roeddwn i wir yn teimlo fel nad oedden nhw'n sylwi am na ches i fy nhrin yn wahanol.

Fel dywedodd Monty Python "Always look on the bright side of life". Rwy' wedi chwerthin, crio, colli fy nhymer a rhoi headbutt i fy ngofalwr pan yn flin. Dweud y gwir, fe wnaeth fy mrifo i'n fwy nag o! Ond roedd yn deall. Fe ddaethon ni yn ffrindiau gorau, gyda bond arbennig Batman a Robin, y ddau Ronnie, Mr Burns a Smithers... dwi'n gwybod mai fi oedd Batman!

Fe wnaeth fy helpu i ddod i delerau gyda fy nghyflwr, a rhoi tân yn fy mol i lwyddo. Hyd heddiw rwy'n gwybod byddai'n cerdded i ddyfnder uffern gyda mi petawn i'n gofyn.

Diwrnod 33

Dros yr wythnosau diwethaf rwy' wedi ysgrifennu hanes fy mywyd, ond rhywsut wedi anghofio'r prif reswm y gwnes i gychwyn ysgrifennu.

Un o fy uchelgeisiau yw i fod yn motivational speaker a rwy'n gweithio'n galed i gyflawni hynny.

Ond heddiw rwy'n cael diwrnod gwael, ac er fy mod yn dal yn gweithio at fy nod gallwch weld fod y poen yn cael y gorau ohona i ar brydiau.

Ffynhonnell y llun, Rhys Bowler
Disgrifiad o’r llun,

Rhys yn rhannu ei stori cyn y cyfnod o hunan-ynysu

Rwy'n siwr mai nid fi yw'r unig un sy'n dioddef ar hyn o bryd. Mae'n drist y bydd pobl eraill yn dioddef yn y cyfnod tywyll hwn, a phrofi poen sydd gyda rhai ohonom yn gyson. Ond os oes unrhyw bositifrwydd yn hyn, rwy' wedi dysgu fy mod yn cyflawni uchelgais pob tro wedi i boen yn fy nharo yn ddi-rybudd. Rwy'n hyderus fod unrhyw un yn gallu troi unrhyw boen yn lwyddiant.

Diwrnod 39

Mae'n ganol wythnos chwech, a dwi ddim yn meddwl fod neb ohonom wedi disgwyl i hyn bara mor hir. Mae'r Llywodraeth hyd yn oed am adael i B&Q agor. Fe alla i ddweud wrthych chi nawr nad ydw i am fod yn adeiladu sied neu beinto'r to!

Mae fy ngwddf yn barod wedi dechrau brifo, a dim ond nawr rwy'n cychwyn teipio. Heddiw rwy' am drafod un o rannau mwyaf fy nirywiad corfforol, sef dirywiad fy ysgyfaint. Rwy'n teimlo fod hyn yn berthnasol iawn oherwydd ymgais Covid-19 i ddwyn yr aer o'n hysgyfaint ni gyd.

Rwy'n ddyn dewr, ond roedd hwn yn un o rannau mwyaf dychrynllyd fy nirywiad.

Pan nad wy'n gwisgo fy mheiriant anadlu, mae'n teimlo fel bod pwysau enfawr ar fy ysgyfaint.

Mae bron yn teimlo fel petai glud yn cau'r diaffram a bod angen eich holl egni i'w agor eto. Os allwch chi ddelio gyda hynny, nesaf mae pwysau enfawr tu ôl i'r llygaid. Mae popeth yn mynd yn niwlog, a rydych yn colli'r gallu i weld yn araf.

Ond y darn mwyaf dychrynllyd yw nad ydych yn gallu clywed. Mae fel petai rhywun wedi diffod sain y teledu. Yn olaf rydych yn teimlo'ch calon yn curo yn drwm iawn. Diolch byth dwi erioed wedi profi dim heibio hynny gan fod gen i fy mheiriant anadlu. Rwy'n cyfaddef fod y dirywiad yma'n codi ofn arna i.

Diwrnod 47

Rwy' nôl, fe ddywedais na fyddwn i'n rhoi'r gorau iddi! Rhaid i mi ddweud fod y lockdown wedi bod yn eitha anodd yn ddiweddar. Mae diflastod yn gallu eich gwneud yn wallgof, a'r meddwl yn gallu crwydro i lefydd tywyll.

Mae ysgrifennu eich teimladau i lawr yn ffordd dda o wella. Dyna oedd bwriad y blog yma, ac mae wedi bod yn eitha cathartic.

Ond nawr fod fy meddwl yn fwy clir rwy'n ceisio cael cysur o'r eiliad bresennol, a chanolbwyntio ar y pethau sydd wir yn bwysig i mi. Rwy'n credu mai illusion yw poen, a gallaf benderfynu faint mae'n effeithio ar fy mywyd.