Broken Ghost yn cipio gwobr Llyfr Saesneg y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Niall Griffiths

Y nofel Broken Ghost gan Niall Griffiths sydd wedi ennill gwobr Llyfr Saesneg y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2020.

Mae'r nofel wedi ei disgrifio fel un "sy'n rhoi llais i'r rheiny sydd ar gyrion cymdeithas; y rhai a gaiff eu hanghofio".

Mae Niall yn derbyn gwobr ariannol o £4,000 a thlws wedi ei ddylunio a'i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Yn wreiddiol o Lerpwl, erbyn hyn mae Niall yn byw yng Nghymru.

Mae wedi cyhoeddi chwe nofel yn flaenorol sef Sheepshagger, Kelly + Victor, Stump, Wreckage, Runt, ac A Great Big Shining Star.

Mae'n gyfrannydd cyson i The Guardian, y BBC, a chyfryngau eraill. Fe enillodd addasiad ffilm o'i drydedd nofel, Kelly + Victor, wobr Bafta.

Yn beirniadu'r llyfrau Saesneg eleni oedd yr awdur a'r darlunydd Ken Wilson-Max, yr awdur, athrawes a chyfieithydd Sampurna Chattarji, a'r academydd a Chymrawd Gŵyl y Gelli Tiffany Murray.

Mae categori Ffuglen Llyfr y Flwyddyn wedi ei noddi gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies am y tro cyntaf eleni.

Dywedodd yr Athro Dai Smith, cadeirydd yr ymddiriedolaeth: "Mae Ymddiriedolaeth Rhys Davies wrth eu bodd o gefnogi Gwobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn eleni, ac yn hynod falch o weld y wobr gyntaf hon yn cael ei gwobrwyo i Niall Griffiths am Broken Ghost - nofel sy'n rhoi llais i'r rheiny sydd ar gyrion cymdeithas; y rhai a gaiff eu hanghofio."

Footnotes to Water gan Zoë Skoulding sy'n cael y Wobr Farddoniaeth yn Saesneg, tra bod On the Red Hill gan Mike Parker yn dod i'r brig ymhlith y cyfrolau Ffeithiol Greadigol Saesneg.

Y nofel The Girl Who Speaks Bear gan Sophie Anderson ddaeth i'r brig yn y categori Plant a Phobl Ifanc.

Yn gynharach, cyhoeddwyd enillwyr categori llyfrau Plant a Phobl Ifanc a Ffuglen yn y Gymraeg fel ran o'r Ŵyl AmGen.

Bydd enillwyr y ddau gategori olaf yn cael eu cyhoeddi ar Radio Cymru rhwng 12:30-13:00 ddydd Sadwrn 1 Awst.