Jazz Langdon yw enillydd cystadleuaeth Dysgwr yr Ŵyl AmGen

  • Cyhoeddwyd
Jazz Langdon

Jazz Langdon o Sir Benfro yw enillydd Dysgwr yr Ŵyl AmGen, cystadleuaeth ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol, BBC Radio Cymru a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Aeth yr athrawes 27 oed, sy'n byw yn Arberth, ati i ddysgu'r Gymraeg dros ddwy flynedd yn ôl.

Erbyn hyn mae'n gydlynydd y Gymraeg yn ei swydd newydd fel athrawes yn Ysgol Tavernspite.

"Mae'r Gymraeg wedi agor llawer o ddrysau yn fy ngyrfa," meddai Jazz.

"Yn fy swydd dwi'n datblygu'r pwnc ac yn helpu athrawon eraill.

"Dwi'n ceisio defnyddio'r iaith drwy'r amser."

Fe ddechreuodd ddysgu'r iaith ar gwrs sabothol Cymraeg Mewn Blwyddyn gyda Rhagoriaith.

Nod y gystadleuaeth yw dathlu llwyddiannau dysgwyr sy'n gwneud eu gorau glas i ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau pob dydd.

Roedd pedwar arall ar y rhestr fer ar gyfer y wobr, sef Mathias Maurer, Siân Sexton, Elisabeth Haljas a Barry Lord.

Cafodd y pump eu cyfweld gan Shân Cothi ar BBC Radio Cymru fel rhan o'r gystadleuaeth.

Roedd y panel beirniadu yn cynnwys Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Aran Jones, cyd-sylfaenydd SaySomethingInWelsh a Dona Lewis, dirprwy brif weithredwr a chyfarwyddwr cynllunio a datblygu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Dywedodd Dona Lewis: "Roedd yn gystadleuaeth agos, ond fe ddaeth Jazz i'r brig oherwydd ei bod wedi llwyddo i gynnal cyfweliad hollol naturiol, gydag iaith o safon uchel tu hwnt.

"Mae hefyd yn ysbrydoliaeth i bob dysgwr gan ei bod wedi llwyddo i feistroli'r iaith mewn cyfnod mor fyr. Llongyfarchiadau mawr iawn iddi."