Galw am gael canlyniadau Safon Uwch wyneb yn wyneb

  • Cyhoeddwyd
Coleg Meirion Dwyfor

Mae myfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor ym Mhwllheli yn galw ar y coleg i roi canlyniadau Safon Uwch (Lefel A) i fyfyrwyr wyneb wrth wyneb yn hytrach na bod nhw'n eu derbyn nhw dros y we.

Yn ôl myfyrwyr mae Cymru Fyw wedi eu holi, dydi sefyllfa o'r fath ddim yn deg ac maen nhw'n galw ar benaethiaid y coleg, Grŵp Llandrillo Menai, i ailystyried.

Mae myfyrwyr Safon Uwch i fod i dderbyn eu canlyniadau ar 13 Awst, yn ôl Deio Owen, llywydd undeb myfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor tan yn ddiweddar.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Oherwydd y cyfnod clo mae'r system wedi mynd ar-lein efo'r coleg, ac rydan ni'n anhapus mewn ffordd bod ni ddim yn gallu mynd yna i dderbyn ein canlyniadau mewn person a chael sgwrs gall efo'n tiwtoriaid... nid yn unig i ffarwelio ond i drafod be de ni'n mynd i'w wneud yn y dyfodol a be sy'n mynd i ddigwydd.

"Does neb yn siŵr iawn o beth sy'n mynd i ddigwydd ym mis Medi."

Aeth yn ei flaen i ddweud: "Rydan ni'n derbyn bod hi'n sefyllfa anodd ond dwi'n gwybod bod 'na sefydliadau eraill yn caniatáu i fyfyrwyr fynd mewn i dderbyn eu canlyniadau a chael sgwrs efo'u tiwtoriaid felly dwi'm yn dallt pam na faswn nhw, yn arbennig ym Mhwllheli ar gampws mor fach, yn gallu mynd mewn a derbyn canlyniadau ar bapur a siarad efo tiwtoriaid sydd wedi bod efo ni ers dwy flynedd."

Fe ddaw Coleg Meirion Dwyfor dan fantell Grŵp Llandrillo Menai ac mewn datganiad dywedodd y prif weithredwr Dafydd Evans bod y penderfyniad wedi ei gymryd i beidio dod â myfyrwyr ar y safle ar gyfer canlyniadau lefel A yn dilyn canllawiau ailagor a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar sut i golegau ailagor yn nhymor haf 2020.

Fore Gwener fe gyhoeddwyd canllawiau newydd gan y llywodraeth ar gyfer ailagor ym mis Medi. Fe fydd y Grŵp yn ailedrych ar bob penderfyniad sydd wedi ei gymryd hyd yma yng nghyd-destun y canllawiau newydd.

Bydd Tîm Uwch y Grŵp yn cyfarfod bore Mawrth i wneud hyn.