'Cywilydd' rheolwr cartref gofal wrth ei thynnu o gofrestr
- Cyhoeddwyd
Mae nyrs a rheolwr cartref gofal yng Ngwynedd oedd yn destun ymchwiliad heddlu wedi cwynion ynghylch y gofal i breswylwyr wedi cael ei thynnu oddi ar y gofrestr gofal.
Roedd Jayne Jones - rheolwr cartref Plas y Bryn ym Montnewydd, ger Caernarfon rhwng 2010 a 2016 pan gaeodd - wedi gofyn am gael ei thynnu o'r gofrestr.
Mae wedi mynegi'r "cywilydd a'r gofid eithaf" ynghylch yr hyn yr oedd wedi gadael i ddigwydd, ac ymddiheuro i breswylwyr, eu teuluoedd a staff.
Cafodd ei gwahardd o'i swydd gan berchnogion y cartref yn 2015 yn sgil honiadau o reoli diffygiol ac fe gafodd y mater ei gyfeirio at y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) a rhagflaenydd Gofal Cymdeithasol Cymru.
Honiadau o esgeulustod
Roedd y cartref yn gofalu am hyd at 61 o breswylwyr, gan gynnwys nifer â dementia, ac roedd yn destun tri adroddiad beirniadol gan yr Arolygiaeth Gofal.
Dywedodd yr adroddiadau hynny fod yna fethiannau o ran:
penodi staff cymwys;
monitro ac adolygu gofal;
ateb gofynion preswylwyr;
sicrhau gofal meddygol;
atal defnyddwyr gwasanaeth rhag cael niwed neu gamdriniaeth.
Fe wnaeth teuluoedd tri o'r preswylwyr oedrannus gwyno'n swyddogol gan honni esgeulustod ac fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru ddechrau ymchwiliad Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed (POVA).
Cafodd ffeil ei ddanfon i Wasanaeth Erlyn Y Goron, a benderfynodd yn erbyn dwyn cyhuddiadau.
Cyfaddef diffyg arweiniad
Cafodd Ms Jones waharddiad dros dro gan yr NMC, a gafodd ei ymestyn hyd 2019 pan gafodd ei chyfeirio at Banel Addasrwydd I Ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru.
Dydy Ms Jones heb weithio o gwbl ers 2016 ac fe gyfaddefodd iddi gamweinyddu trwy fethu â rhoi arweiniad a rheolaeth ddigonol.
Fe dderbyniodd y panel lythyr gan Ms Jones at yr NMC ble ysgrifennodd: "Fy nymuniad erioed oedd bod staff Plas y Bryn yn rhoi'r safon uchaf posib o ofal.
"O edrych yn ôl ac erbyn meddwl llawer, mae'n rhaid i mi gyfaddef i fi fy hun, a rŵan i'r NMC, y gallwn / y dyliwn fod wedi gwneud mwy ac yn well fel Rheolwr Cofrestredig.
"Fe wnaeth fy arweinyddiaeth a gweithredoedd / esgeulustod o fewn blwyddyn olaf fy nghyflogaeth achosi methiannau a effeithiodd ar y gofal ym Mhlas y Bryn i'r preswylwyr a'r staff. Gallai hyn fod wedi effeithio preswylwyr, perthnasau a ffrindiau preswylwyr a staff yn niweidiol.
"Mae hyn er cywilydd a gofid eithaf i mi. Byddwn yn ymddiheuro i bob un a phawb pe gallwn wneud hynny."
Ychwanegodd ei bod yn derbyn y dylai fod wedi nodi problemau cyn iddyn nhw waethygu.
Er bod y cyhuddiadau yn ei herbyn yn gysylltiedig â'i gwaith fel nyrs, dywedodd Ms Jones eu bod yn berthnasol hefyd i'w rôl fel rheolwr y cartref.
Dyfarnodd y panel fod y methiannau'n cyrraedd meini prawf camweinyddu, gan amharu ar addasrwydd Ms Jones i ymarfer.
Bydd yn rhaid i Ms Jones aros am bum mlynedd cyn gallu ymgeisio i gael ei haildderbyn ar y gofrestr.
Cafodd Plas y Bryn ei werthu yn 2017 am £600,000.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2015