Nifer 'digynsail' ymwelwyr â threfi glan môr yn bryder

  • Cyhoeddwyd
Traeth y Bermo
Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn cerdded ger traeth Y Bermo ddechrau'r wythnos

Mae cynrychiolwyr gwleidyddol wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn galw arno i ystyried mesurau "fel mater o frys" wedi i "niferoedd digynsail" ymweld â threfi glan môr a thraethau Gwynedd y penwythnos diwethaf.

Yn ôl llofnodwyr y llythyr, mae angen ystyried peryglon lledaenu coronafeirws gan fod y fath niferoedd yn gwneud ymbellhau cymdeithasol yn amhosib ac mae llefydd fel Bermo, Aberdyfi ac Abersoch wedi cael problemau parcio difrifol.

Maen nhw'n rhybuddio bod y "niferoedd sy'n tyrru yma yn fwy nag y medrir ymdrin â hwy, sy'n arwain at sefyllfa tu hwnt i allu'r awdurdodau i gadw trefn".

Maen nhw hefyd yn gofyn "sut fedrwn... ganiatáu i dorfeydd lluosog ymgynnull heb gyfyngiad o gwbl" - pan fo angen canslo neu ohirio gwyliau torfol fel y Sioe Fawr a'r Eisteddfodau Genedlaethol i warchod iechyd y cyhoedd.

Cafodd y llythyr ei lofnodi gan sawl aelod Plaid Cymru blaenllaw lleol:

  • ASau Arfon a Dwyfor Meirionnydd, Hywel Williams a Liz Saville Roberts;

  • Aelodau Arfon a rhanbarth y Canolbarth a'r Gorllewin yn Senedd Cymru, Sian Gwenllian a Helen Mary Jones; ac

  • Arweinydd a dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn a Dafydd Meurig.

Maen nhw'n dweud wrth Mr Drakeford eu bod yn cydymdeimlo ag awydd ymwelwyr "sy'n ysu i ymweld â'n cefn gwlad a chael y rhyddid i fwynhau'r awyr agored" ers i'r cyfyngiadau teithio gael eu codi.

Ond mae'n nhw'n rhybuddio fod y sefyllfa bellach yn destun "pryder sylweddol i ni o ran iechyd cyhoeddus".

Dyweda'r llythyr: "Gan ddefnyddio Bermo fel esiampl yn unig, brynhawn Gwener nid oedd un safle parcio ar gael a channoedd o geir yn parhau i lifo mewn i'r dref.

"O ganlyniad, roedd parcio anghyfreithlon ar draws y dref a cheir yn methu symud un ffordd neu'r llall. Roedd sawl enghraifft debyg ar draws y sir, megis Aberdyfi, Morfa Bychan, Abersoch ac yn y blaen.

"Ond yr hyn sy'n achosi'r mwyaf o bryder yw bod cymaint o bobl yn cerdded yn y dref fel nad oedd modd cadw at y rheol pellter cymdeithasol. Yn ychwanegol, fel y gellir ddychmygu, roedd y ddarpariaeth toiledau preifat a chyhoeddus yn llwyr annigonol i ateb yr angen."

Disgrifiad o’r llun,

Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, yw un o lofnodwyr y llythyr

Dyweda'r llofnodwyr fod cynghorydd lleol wedi disgrifio'r golygfeydd fel "safle i ddigwyddiad torfol heb reolaeth ohono".

Ar raglen Newyddion, dywedodd Dyfrig Siencyn fod y gymhariaeth honno'n un deg.

"Dan ni wedi diddymu'r Steddfod, gwylia', y Sioe Fawr a dyma ni - ddigwyddiad, mewn effaith, o filoedd o bobol a hynny heb unrhyw reolaeth o gwbwl," meddai.

"Mae yna reswm dros ddiddymu'r digwyddiada' yma - rhesyma da iawn i amddiffyn iechyd cyhoeddus, ac mae yna gwestiwn felly - sut fedrwn ni ganiatáu i gymaint o bobol grynhoi mewn un man heb unrhyw reolaeth arnyn nhw."

Ychwanegodd fod y cyngor wedi gosod arwyddion a rhwystrau ar strydoedd Y Bermo fel bod cerddwyr yn gallu osgoi fod yn rhy agos at ei gilydd. Ond roedd gymaint o bobl yn y dref, meddai, nes bod "yr holl drefniadau yn werth ddim, a d'eud y gwir... doedd yna ddim modd cadw at y rheolau."

Mae'r llythyr yn gofyn i Mr Drakeford ddangos "arweiniad er lles iechyd ein pobl" ac ystyried pa fesurau y gallai eu cyflwyno gan fod posibilrwydd i'r un peth ddigwydd eto yn ystod gweddill penwythnosau mis Awst.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda phartneriaid mewn llywodraeth leol i sicrhau diogelwch pawb, a'u bod yn disgwyl i bawb gydymffurfio â'r rheolau.