Cadarnhau dyddiad ar gyfer gorffen y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi cadarnhau'r dyddiadau ar gyfer ailddechrau gemau'r dynion a merched ar gyfer cystadleuaeth 2020.
Cafodd y ddwy gystadleuaeth eu hatal ym mis Mawrth oherwydd pandemig y coronafirws, gyda phedair gêm yng nghystadleuaeth y dynion i'w cwblhau a chwech o gemau'r merched.
Yn y gêm gyntaf, fe fydd Iwerddon yn wynebu'r Eidal yn Stadiwm Aviva ar 24 Hydref, tra bydd Cymru'n wynebu'r Alban mewn lleoliad sydd eto i'w gadarnhau.
Fe fydd yr Eidal yn croesawu Lloegr i Rufain a bydd Ffrainc yn chwarae Iwerddon yn y Stade de France ym Mharis.
Bydd rownd olaf y gystadleuaeth, sy'n cynnwys pob un o'r chwe thîm, yn cael ei chynnal ar 31 Hydref.
Bydd cystadleuaeth y merched yn ailddechrau gyda'r Alban yn wynebu Ffrainc, ac Iwerddon yn herio'r Eidal ar 24 Hydref.
Ar 31 Hydref, bydd Cymru'n chwarae'r Alban.
Fel mae pethau'n sefyll, Lloegr sydd ar frig grŵp y dynion a'r merched.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2020