'Covid wedi oedi trafodaethau llifogydd Llanrwst'
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryderon yn Llanrwst bod haint coronafeirws wedi arafu'r trafodaethau ar effaith y llifogydd a ddifrododd rhannau o'r dre yn Chwefror.
Cafodd degau o fusnesau a thai eu difrodi yn ystod Storm Ciara.
Ond oherwydd y pandemig mae rhai'n pryderu nad ydy'r llifogydd wedi cael digon o sylw gan yr awdurdodau.
Ar Heol yr Orsaf yn y dre mae yna rai busnesau wedi ailagor ond mae nifer yn parhau i fod ynghau ac eraill yn y broses o gael eu hatgyweirio.
'Y gwaethaf mewn cof'
Yn ôl Cyngor Sir Conwy mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £250,000 tuag at gynlluniau atal llifogydd mewn rhai rhannau o'r dre, ac mae swyddogion y cyngor wedi dechrau ar y gwaith cynllunio.
Dywed Rheolwr Gyfarwyddwr Blas ar Fwyd, Deiniol ap Dafydd, nad yw erioed wedi gweld llifogydd tebyg.
"O ran dyfnder y dŵr, dyma'r gwaethaf mewn cof," meddai, "roedd yr yswiriant yn hwyr iawn yn delio gyda phethau, mi gymerodd hi 17 wythnos i drio sortio allan y stoc yn un peth.
"Roedd hwnna ar ben y gwaith ychwanegol hefo Covid - mae wedi bod yn anodd ond 'dan ni wedi cael y maen i'r wal erbyn hyn gobeithio."
Er na chafodd siop y barbwr yn y dre ddifrod, dywed y rheolwraig Fiona Jones fod yna sgil effaith i'w busnes wedi'r llifogydd.
"Unwaith mae rhywun yn stopio dŵad yma, mae'n job cael nhw yn ôl wedyn. Mae wir angen gneud rhywbeth am y floods ond dwi'm yn gwybod be chwaith," meddai.
Mae'r Cynghorydd Aron Wynne o Gyngor Sir Conwy yn dweud bod haint coronafeirws wedi cael effaith ar y trafodaethau a bod pobl leol yn awyddus iawn i weld y gwaith o amddiffyn y dre rhag y llifogydd yn dechrau.
Dywedodd Mr Wynne: "Ar ôl y llifogydd mi roedd 'na fod cyfarfod cyhoeddus rhwng Cyngor Conwy a Cyfoeth Naturiol Cymru ac roedd hwnna yn gyfle i bobl gasglu gwybodaeth am y llifogydd a'r gobaith yn sgil y cyfarfod yma oedd llunio ryw fath o gynllun i weld pa fath o waith oedd angen ei wneud yn Llanrwst.
"Wrth gwrs dydy hi ddim mor hawdd cael cyfarfod cyhoeddus erbyn hyn oherwydd y coronafeirws ond mae modd cyfarfod yn rhithiol i weld pa waith sydd angen cael ei wneud, pwy sy'n gneud y gwaith ac erbyn pryd - mae pobl y dre yn awyddus iawn i weld y gwaith yn dechra'."
Mae disgwyl cyfarfodydd i drafod y llifogydd yn fuan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2020