'Hawliau plant yn cael eu hystyried yn rhy hwyr'

  • Cyhoeddwyd
Plant yn chwarae
Disgrifiad o’r llun,

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i fabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant (UNCRC) fel deddf gwlad

Mae hawliau plant yn cael eu hystyried yn rhy hwyr yn y broses o benderfynu ar bolisïau newydd neu sut i wario arian Llywodraeth Cymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.

Wrth gyfeirio at gyfnod y pandemig dywed adroddiad gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei bod yn fwy hanfodol nawr nag erioed "bod hawliau plant yn cael eu gwarchod."

Dywed y pwyllgor fod y mesurau yn y cyfnod clo wedi "cael effaith ar lawer o hawliau plant yn gyflym, gan gynnwys yr hawl i addysg, eu hawl i chwarae, a chyfyngiad ar gyswllt â ffrindiau a theulu i blant sydd wedi bod mewn gofal."

Daw'r feirniadaeth yn yr un wythnos ac mae BBC Cymru wedi bod yn edrych ar effaith Covid-19 ar bobl ifanc.

Mae'r pwyllgor wedi bod yn ystyried deddf gafodd ei phasio yn 2021 oedd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ystyried effaith eu polisïau ar blant a phobl ifanc.

Dywedodd Lynne Neagle AS: "Mae'n hymchwiliad ar hawliau plant wedi'n harwain i'r casgliad bod yna gynnydd i'w wneud o hyd.

"Mae yna ddiffyg cyfeiriad at hawliau plant mewn dogfennau strategol allweddol, a dim digon o dystiolaeth bod y dyletswyddau yn y Mesur yn cael eu hystyried a'u harfer ar draws Llywodraeth Cymru gyfan.

"Mae hyn yn dangos i ni nad yw hawliau plant yn sbarduno penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn unol â bwriad y ddeddfwriaeth."

Ffynhonnell y llun, BrianAJackson

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y pwyllgor fod y gyfraith wedi dylanwadu ar lu o bolisïau a phenderfyniadau, gan gynnwys trechu tlodi plant, y newid yn y gyfraith ar gosb gorfforol plant a'r cymorth sy'n cael ei roi i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Ond bu son hefyd am bolisïau a gwasanaethau lle na chafodd y gyfraith newydd hon effaith, gan gynnwys:

  • A yw plant a phobl ifanc yn cael y cymorth iechyd meddwl y mae arnynt ei angen

  • Argaeledd lleoliadau gofal: lleoliadau gofal maeth a rhai diogel

  • Pryderon bod gwybodaeth gyfyngedig am achosion hiliol mewn ysgolion

  • Diffyg gallu pobl ifanc i gael mynediad at wasanaethau ieuenctid oherwydd eu bod yn cael eu cau

Cafodd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru), dolen allanol ei basio bron i ddegawd yn ôl.

Roedd y gyfraith yn golygu fod yn rhaid ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) fel rhan o benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru - ynghylch iechyd plant, addysg, yr amgylchedd a phwerau eraill oedd wedi eu datganoli.