Mark Williams yn colli i'r 'chwaraewr gorau erioed'

  • Cyhoeddwyd
Mark Williams (ar y dde) a Ronnie O'SullivanFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Mark Williams (ar y dde) a Ronnie O'Sullivan

Mae Mark Williams yn dweud ei fod wedi cael ei guro gan y chwaraewr gorau erioed i chwarae snwcer, ar ôl i'w daith ym Mhencampwriaeth y Byd ddod i ben nos Fawrth.

Ronnie O'Sullivan a enillodd yr ornest yn rownd yr wyth olaf o 13 ffrâm i 10.

Williams oedd pencampwr y byd yn 2018.

Y Cymro oedd ar y blaen ar ôl y sesiwn agoriadol, a hynny o chwe ffrâm i ddwy, gan ymestyn ei fantais ar ddechrau'r ail sesiwn.

Serch hynny enillodd O'Sullivan bedair ffrâm ola'r sesiwn ganol yn Theatr y Crucible yn Sheffield, ac roedd hi'n gyfartal wyth yr un pan ddechreuodd sesiwn y nos.

Fe wnaeth y ddau rannu'r fframiau yn gynnar yn y nos, cyn i O'Sullivan ennill y tair ffrâm olaf yn olynol a sicrhau ei le yn y rownd gynderfynol.

Mae Williams, sydd bellach wedi colli i O'Sullivan ar bum achlysur yn y Crucible, yn credu iddo gael ei guro gan y chwaraewr gorau i fod wedi cydio yn y gêm.

"Mae yna reswm nad ydw i wedi ei guro yma, mae hyn oherwydd mai ef yw'r chwaraewr gorau erioed i'w chwarae.

"Mae'n debyg ei fod wedi costio un, os nad dau deitl byd i mi dros y blynyddoedd ac rydw i wedi boddi wrth ymyl y lan unwaith eto."

Bydd Ronnie O'Sullivan yn wynebu Mark Selby nesaf yn y rownd gynderfynol.