Dyn wedi ei sathru gan wartheg yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Hofrennydd 187Ffynhonnell y llun, MCA/Penarth Coastguard

Mae dyn canol wedi ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei sathru gan wartheg yn ardal Tywyn, Gwynedd.

Cafodd ei gludo gan ambiwlans awyr gwylwyr y glannau i Ysbyty Brenhinol Stoke, lle mae'n cael triniaeth yn yr uned trawma difrifol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans iddynt gael eu galw i'r digwyddiad ychydig cyn 08:00 bore Mercher, a'u bod wedi cael cymorth Ambiwlans Awyr Cymru a Gwylwyr y Glannau wrth ymateb i'r digwyddiad.

Cafodd y dyn driniaeth ar y safle cyn gadael yn yr hofrennydd am 10:25.

Deellir fod anafiadau'r dyn yn rhai difrifol.