Cyhuddo dyn o Fôn o dwyll yn dilyn achos bwa croes
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 49 oed o Fôn wedi ymddangos yn y llys i wynebu cyhuddiadau o dwyll, yn dilyn ymchwiliad yr heddlu i lofruddiaeth dyn 74 oed gyda bwa croes ar yr ynys.
Mae Richard Wyn Lewis, o Fferam, Llanfair yn wynebu chwe chyhuddiad, ac fe honnir fod maint y twyll yn £250,000 gyda nifer o ddioddefwyr.
Dywed yr erlyniad ei fod rhwng Ionawr 2015 ag Ebrill 2019 wedi gwneud sawl datganiad ffug yn ymwneud â gwerthiant eiddo o'r enw Gof Du, gwerthu ceffylau, gwerthu cerbyd Citroen a phryniant yr Hen Ysgoldy a thir yn Llanddona i Gerald Corrigan a Marie Bailey, gyda'r bwriad o elwa'n ariannol ei hun.
Ym mis Awst 2016 fe honnir ei fod yn Fferam, Ynys Môn wedi cyflawni twyll drwy ddweud y byddai'n gallu talu am geffyl, ac yn 2017 fe gyflawnodd dwyll honedig mewn galwad ffôn i arwerthwyr ceffylau.
Yn 2018 fe honnir fod twyll arall wedi ei gyflawni yn ymwneud â gwaith adeiladu, a rhwng Ionawr 2016 a Medi 2017 fe honnir ei fod wedi gwneud datganiad ffug i ddyn wrth iddo gymryd arno ei fod am werthu ceffyl a chynnig cymorth gyda chais cynllunio.
Mae'r honiad olaf yn ymwneud â datganiad ffug rhwng Hydref 2018 a Mai 219 yng Nghaergybi i Ali a Fatema Ahmed, sef fod angen arian ar gyfer cais cynllunio, ffioedd i gwmni aml-gyfryngol, ac er mwyn trefnu cartrefu unigolyn o'r enw Farhana Begum.
Cafodd Siwan Maclean, 51, o'r un cyfeiriad a Mr Lewis, ei chyhuddo o lanhau arian gwerth £50,000 ar 6 Rhagfyr y llynedd.
Dywedodd Julia Galston yn y gwrandawiad ddydd Iau: "Yn ystod ymholiadau'r heddlu i farwolaeth Mr Corrigan, fe siaradodd yr heddlu mewn manylder gyda'i bartner tymor hir, Marie Bailey. Daeth honiadau o dwyll i'r wyneb."
Fe gafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth yn Llys Ynadon Caernarfon brynhawn dydd Iau, ac fe fydd y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron y dref ar 14 Medi. Ni wnaeth y ddau gynnig ple yn y gwrandawiad cychwynnol.
Ym mis Chwefror fe gafodd therapydd chwaraeon ddedfryd o garchar am oes am lofruddio'r pensiynwr Gerald Corrigan tu allan i'w gartref ar gyrion Caergybi trwy ei saethu gyda bwa croes yn Ebrill 2019.
Bydd yn rhaid i Terence Whall, 39 oed o Fryngwran, dreulio o leiaf 31 mlynedd dan glo am ei ran yn y llofruddiaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020