Covid: Cwarantîn a chyfnod clo yn bosib i fyfyrwyr

  • Cyhoeddwyd
prifysgol abertawe

Gallai Prifysgol Abertawe osod myfyrwyr mewn llety "cwarantîn" os ydyn nhw'n dod o ardaloedd o'r DU lle mae yna gyfyngiadau ychwanegol i ddelio â Covid-19.

Mae prifysgolion ledled Cymru yn paratoi i ailagor o'r mis nesaf ac mae disgwyl newidiadau sylweddol.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod aelodau o'u staff Gwarchod Iechyd nhw wedi bod mewn cysylltiad â staff prifysgolion i gynnig canllawiau a chymorth lle bo'r angen.

Dywedodd Prifysgol Abertawe, sydd â thua 4,000 o fyfyrwyr yn byw mewn neuaddau preswyl ar gampws Singleton a champws y Bae, y byddai myfyrwyr hefyd yn cael eu gwahardd rhag cael unrhyw ymwelwyr neu bartïon.

Yn lle hynny, bydd preswylwyr pob fflat myfyrwyr yn cael eu dosbarthu mewn "swigod teuluol" ac wedi'u heithrio rhag ymbellhau yn gymdeithasol gyda'i gilydd.

Disgrifiad o’r llun,

Asad Rahman yw Pennaeth Lles, Cyngor a Chefnogaeth Prifysgol Abertawe

Dywedodd Asad Rahman, Pennaeth Lles, Cyngor a Chefnogaeth yn y brifysgol, fod "llety cwarantîn" wedi eu paratoi ar gyfer y rhai sy'n cyrraedd o rai gwledydd tramor a mannau trafferthus "posib" yn y DU.

Bydd y mwyafrif o ddarlithoedd nawr ar-lein, gyda myfyrwyr yn cwrdd wyneb yn wyneb ar gyfer grwpiau astudio llai er mwyn cadw pellter cymdeithasol.

Os bydd unrhyw achos o coronafeirws ar y campws, gofynnir i fyfyrwyr ynysu yn eu "swigod teuluol", gyda staff yn bwriadu darparu bwyd a chynnig cefnogaeth emosiynol ac academaidd.

Disgrifiad o’r llun,

"Gall hwn fod yn well na beth oedd e cynt," yn ôl Ffion Davies

Dywed Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Ffion Davies ei bod yn teimlo dros fyfyrwyr newydd, ond yn benderfynol o sicrhau na fyddan nhw ar eu colled.

"Ges i brofiad amazing yn Abertawe... dyna pam dwi yma nawr. Ond rwy'n credu trwy hwn i gyd mae rhaid i ni edrych arno fe mewn ffordd bositif.

"Gall hwn fod yn well na beth oedd e cynt, felly mae rhaid i ni edrych ymlaen. Bydd profiadau yn wahanol ond dyw hynny ddim i ddweud y bydd e'n waeth nag oedd e cyn hynny.

"Mae 'da ni lot o gynlluniau ac mae'r Brifysgol yn gweithio'n galed gyda'r undeb myfyrwyr i wneud yn siŵr bod profiadau'r myfyrwyr yn well nag oedden nhw cyn eleni."

Disgrifiad o’r llun,

Mae arwyddion pwrpasol wedi eu gosod ymhob llety i fyfyrwyr

Yn ôl Elis Lloyd Jones, sydd ar fin dechrau ei drydedd flwyddyn yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, mae pawb yn ysu i symud nôl a dechrau astudio. Yn ôl Elis, mae wedi bod yn anodd dod o hyd i gymhelliant i weithio tra ei fod wedi bod adref.

"Dwi'n meddwl y peth mwyaf am beidio mynd mewn i'r Brifysgol yw'r lack of motivation, achos cyn oedd y lockdown wedi digwydd o'dd mis llawn streics. Ac wedyn oedd y lockdown ac ar y pryd roedd rhaid i fi ganolbwyntio ar draethodau ac arholiadau... ond o'n i jyst methu canolbwyntio achos roeddwn i wedi colli'r cymhelliant i gyd."