Parodrwydd y cyhoedd wedi atal coronafeirws rhag lledu

  • Cyhoeddwyd
2 Sisters
Disgrifiad o’r llun,

Bu 217 o achosion o Covid-19 yn ffatri 2 Sisters

Chwe wythnos yn ôl, roedd 217 achos o coronafeirws mewn un ffatri yn Llangefni, a phryder y gallai'r haint ledaenu ar hyd a lled Ynys Môn.

Ond wnaeth hynny ddim digwydd, ac yn ystod y pythefnos diwethaf does 'na'r un achos o coronafeirws wedi ei gadarnhau ar yr ynys.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn credu fod hynny'n rhannol oherwydd effeithlonrwydd eu gwaith i olrhain holl gysylltiadau y bobl wnaeth brofi'n positif.

Yn ôl Emma Rogers, un o'r tîm fu'n gwneud y gwaith, roedd pobl yn barod iawn i roi gwybodaeth er mwyn atal lled y feirws.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd trigolion lleol yn barod iawn i chwarae rhan mewn rheoli'r feirws, medd Emma Rogers

"Mae pobl isho helpu achos maen nhw isho cadw teulu a ffrindiau yn saff," meddai.

"Roedden nhw'n fwy na hapus i ddeud hefo pwy oedden nhw wedi bod."

Un fantais fawr i'r cyngor oedd eu bod nhw wedi eu dewis, bythefnos cyn yr achosion yn ffatri 2 Sisters, i fod yn rhan o gynllun peilot i geisio olrhain achosion o'r feirws.

Er nad oedd gan yr un aelod o'r tîm brofiad o'r math yma o waith o'r blaen, roedd hynny'n golygu eu bod wedi cael peth amser i baratoi.

Disgrifiad o’r llun,

Owain Jones yw un o arweinwyr y tîm olrhain ym Môn

Mae Owain Jones, un o arweinwyr y tîm, yn credu eu bod wedi bod yn "llwyddiannus iawn".

Dywedodd: "Mi gaethon ni 217 o achosion yn 2 Sisters, a'r pryder ar un adeg oedd bod hwnnw'n mynd i'r cymunedau ar yr ynys, ond yn amlwg 'di hynna heb ddigwydd."

'Pwysig i ddysgu gwersi'

Yn ôl arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi Huws, dylai llwyddiant y gwaith sbarduno trafodaeth ynglŷn â rôl awdurdodau lleol Cymru ym maes iechyd cyhoeddus.

"Yn Lloegr mae'r gwaith gyda'r awdurdodau lleol, ond yng Nghymru mae gynnon ni gorff cenedlaethol," meddai.

"Mae'n gymamserol i mi ddeud be ydi ansawdd y gwasanaeth yna, ond be sy'n bwysig i unrhyw lywodraeth yw bod gwersi'n cael eu dysgu o unrhyw adolygiad a bo' nhw'n gwireddu'r rheini a ddim yn cau o mewn ffeil yn rhywle."

Er nad oes achosion o'r coronafeirws ar yr ynys wedi eu cadarnhau ar hyn o bryd, mae paratoadau wedi eu gwneud am unrhyw ail don dros y gaeaf, gyda thîm yn cael eu penodi ar hyn o bryd i wneud gwaith olrhain.

Ac os bydd eu hangen, mae'r cyngor yn credu y bydd profiad yr wythnosau diwethaf yn profi'n hynod o werthfawr.