Cynnal angladd y darlledwr Chris Needs

  • Cyhoeddwyd
Angladd
Disgrifiad o’r llun,

Torf yn dangos eu gwerthfawrogiad wrth i'r hers yurru heibio yng Nghwmafan

Fe ymgasglodd pobl ar hyd ochrau ffyrdd Cwmafan i dalu teyrnged a dangos eu gwerthfawrogiad o waith a bywyd y darlledwr Chris Needs ddydd Gwener, ar ddiwrnod ei angladd.

Bu farw Mr Needs, wnaeth gyflwyno rhaglen ar BBC Radio Wales am bron i 20 mlynedd, yn 66 oed ar 26 Gorffennaf.

Teithiodd yr hers oedd yn cludo ei gorff i Amlosgfa Margam o Gwmafan.

O achos cyfyngiadau coronafeirws, roedd yr angladd yn un preifat.

Yn ogystal a darlledu'n gyson ar BBC Radio Wales, bu Chris Needs hefyd yn cyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru ac S4C am gyfnodau.

Fe ddechreuodd ei yrfa radio gyda Touch AM cyn symud i'r BBC, ble cyflwynodd ei raglen nosweithiol, The Friendly Garden Programme, am 18 mlynedd.

Roedd Mr Needs, o Gwmafan, Castell-nedd Port Talbot, hefyd yn actor ac yn bianydd clasurol, ac fe dderbyniodd MBE yn 2005.

Ffynhonnell y llun, Chris Needs