Teyrngedau i heddwas fu farw yn y môr ger Pwllheli

  • Cyhoeddwyd
TeyrngedFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Mae teulu'r heddwas a fu farw mewn digwyddiad tra roedd oddi ar ddyletswydd ddydd Sadwrn wedi talu teyrnged iddo.

Roedd Barry Davies yn 49 oed ac roedd yn byw yn ardal Pwllheli. Bu farw tra'n defnyddio peiriant beicio-dŵr yn y môr ger arfordir y dref.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Fel teulu mae hi'n hynod o anodd rhoi mewn geiriau'r hyn oedd Barry yn ei olygu i ni.

"Roedd yn ŵr bonheddig ac yn hynod o boblogaidd, ac roedd yn aros yn ddigynnwrf beth bynnag oedd y sefyllfa.

"Fe weithiodd yn galed iawn i fod yn Swyddog Heddlu, swydd a oedd yn ei hoffi'n fawr ac wedi ymrwymo iddi. Roedd hefyd yn cael pleser mawr o fod yn aelod o'r Bad Achub ynghyd â bod yn hyfforddwr karate. Roedd yn byw bywyd llawn drwy dreulio amser hefo'i gymar a'i ddwy ferch."

Ychwanegodd datganiad y teulu: "Roedd yn fab annwyl, partner cariadus, tad anwesol, brawd gofalgar ac yn ffrind a chydweithiwr hoffus i bawb a oedd yn ei adnabod.

"Fel teulu hoffem ddatgan ein diolch i bawb am eu negeseuon caredig ac am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd yma."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Marina tref Pwllheli

Dywed y Prif Gwnstabl Carl Foulkes: "Fel heddlu rydym yn hynod o drist o golli cydweithiwr ac rydym yn cydymdeimlo'n ddwys a'i deulu, ffrindiau a'i gydweithwyr yn ystod y cyfnod anodd iawn yma.

"Fe ymunodd Barry â Heddlu Gogledd Cymru yn 2013. Roedd yn swyddog heddlu parchus. Does dim amheuaeth y bydd ei golli'n cael ei deimlo ar draws yr heddlu gan y rhai a oedd yn gweithio gydag ef, y rhai a oedd yn ei adnabod ac wedi dod yn ffrind iddo.

"Mi fydd teulu Heddlu Gogledd Cymru yn gwneud popeth yn ein gallu er mwyn darparu cefnogaeth a chysur i anwyliaid Barry a'i gydweithwyr yn ystod y cyfnod anodd iawn yma.

"Mae negeseuon o gydymdeimlad wedi cael eu danfon atom ni gan heddluoedd ar draws y wlad a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cynnig eu cefnogaeth."

'Meddwl mawr ohono'

Dywed Mark Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru: "O siarad hefo cydweithwyr dros y dyddiau diwethaf, mae wedi bod yn amlwg iawn fod Barry yn cael ei barchu'n fawr gan ei gydweithwyr a'i ffrindiau. Roedd hefyd yn amlwg fod y gymuned â meddwl mawr ohono hefyd.

"Rydym wedi derbyn sawl neges o gydymdeimlad gan heddluoedd ar draws y DU ac mae hyn yn dangos fod colli Barry yn cael ei deimlo gan bawb oddi fewn y teulu plismona.

"Rydym yn cydymdeimlo'n ddwys â theulu Barry. Mi fydd colled enfawr ar ei ôl."

Mae'r ymchwiliad yn parhau er mwyn ceisio darganfod yr hyn ddigwyddodd oddi ar arfordir Pwllheli brynhawn dydd Sadwrn.