Ceidwadwyr ifanc yn galw am wella proses gwynion y blaid
- Cyhoeddwyd
Mae Ceidwadwyr ifanc yn galw ar y blaid yng Nghymru ac yn San Steffan i wella'r ffordd maen nhw'n delio â chwynion, gan ddweud nad yw'r system bresennol yn ddigon eglur na thryloyw.
Mae nifer o aelodau wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod wedi codi'r pryderon hyn wrth ymateb i adolygiad mewnol y blaid yng Nghymru, sy'n edrych ar y ffordd maen nhw'n gweithredu.
Daw'r sylwadau wedi i nifer o aelodau ifanc y blaid fynegi rhwystredigaeth ar-lein ynglŷn â'r ffordd mae'r blaid wedi delio â honiadau o ymddygiad amhriodol yn erbyn AS Ceidwadol Delyn, Rob Roberts.
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol eu bod yn ystyried "pob cwyn yn ddifrifol".
'Ddim yn dryloyw'
Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd un cynghorydd Ceidwadol Cymreig fod angen i'r blaid benodi "person HR proffesiynol er mwyn delio â'r system gwynion yng Nghymru".
"Mae'r broses o gwyno yn arbennig o aneglur i aelodau sy'n gwneud gwaith gwirfoddol i'r blaid," meddai.
Dywedodd aelod arall, sydd wedi gwneud gwaith ymgyrchu gwirfoddol dros y blaid, "na fyddwn i'n gwybod sut i gofrestru cwyn na chodi'r mater".
"Dyw'r system ddim yn dryloyw," meddai.
'Y blaid yn gwneud dim'
Mae Aden Hallem, sy'n 24 oed, wedi bod yn aelod o'r Ceidwadwyr ers dwy flynedd ac wedi gwirfoddoli mewn etholiadau lleol a chenedlaethol.
Ym mis Mehefin eleni fe ddechreuodd ymgyrch ar-lein i geisio diwygio'r ffordd mae'r blaid yn delio gyda chwynion yn erbyn aelodau etholedig.
Llynedd, fe wnaeth gwyn swyddogol i'r blaid gyda chyhuddiad o aflonyddu rhywiol yn erbyn cynghorydd Ceidwadol o Loegr.
Mae'n dweud iddo dderbyn cadarnhad bod ei gwyn wedi cyrraedd, ond na glywodd unrhyw beth arall er bod dros flwyddyn wedi mynd heibio bellach.
"Ers hynny dwi ddim wedi derbyn yr un e-bost, galwad na llythyr gan y blaid mewn perthynas â'r gwyn yma," meddai.
Mae Mr Hallem hefyd yn dweud iddo ddysgu bod y cynghorydd wedi mynd ymlaen i gael "llwyddiannau pellach o fewn y blaid" ar ôl ei gwyn.
"Roedd e'n achos tipyn o siom i fi - fy mod i wedi gwneud cwyn o'r natur yma oedd yn ddifrifol iawn ac yn peri loes i fi - i weld y blaid wedyn, mae'n ymddangos, yn gwneud dim am y peth," meddai.
"Mae'n teimlo fel nad o'n nhw'n credu'r hyn ddigwyddodd ond hefyd nad ydyn nhw'n poeni."
Dywedodd ei fod yn poeni y "gallai'r unigolyn wneud hyn eto".
'Angen cyfaddef bod problem'
Wedi i BBC Cymru gysylltu â'r Blaid Geidwadol fe ddywedon nhw y bydden nhw yn cysylltu â Mr Hallem.
Ond mae Mr Hallem eisiau gweld y blaid yn gwella'u prosesau cwyno i bawb.
"Y cyfan dwi eisiau gan y blaid yw cael system gwyno lle mae pobl yn teimlo eu bod nhw'n cael cyfiawnder, lle mae pobl yn teimlo'n hyderus, os y'n nhw wedi cael eu bwlio, eu haflonyddu, neu ddioddef ymddygiad amhriodol, y bydd y blaid yn sicrhau bod nhw'n delio ag e'n briodol," meddai.
"Ond dwi'n teimlo bod angen i'r blaid gyfaddef yn gynta' bod 'na broblem."
Ymddygiad 'amhriodol' gan AS
Fe benderfynodd Mr Hallem rannu ei gwyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn sgil yr honiadau o ymddygiad amhriodol yn erbyn yr Aelod Seneddol Cymreig, Rob Roberts.
Ym mis Gorffennaf, fe wnaeth BBC Cymru ddatgelu cyfres o negeseuon gan yr AS Ceidwadol 40 oed at ddynes 21 oed oedd yn gweithio yn San Steffan.
Mae Mr Roberts hefyd wedi cyfaddef iddo ofyn i ddyn ifanc, oedd yn gweithio yn Nhŷ'r Cyffredin, i ddod allan am swper gydag e - rhywbeth wnaeth arwain at y dyn ifanc i newid ei swydd.
Dywedodd Mr Roberts wrth BBC Cymru ar y pryd ei fod yn cydnabod bod gwahodd yr aelod o staff am swper yn "amhriodol".
"Mae'r misoedd diwethaf a'r broses o 'ddod allan' wedi bod yn arbennig o heriol ac yn achos llawer iawn o straen i fi," meddai.
Ers hynny mae'r Blaid Geidwadol wedi dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad i ymddygiad y gwleidydd a bod yr ymchwiliad hwnnw yn dal i fynd yn ei flaen.
Ond mae'r blaid yn San Steffan hefyd yn wynebu cwestiynau ynglŷn â'r ffordd maen nhw'n delio â chwynion wedi i'r Prif Weinidog, Boris Johnson amddiffyn y penderfyniad i beidio atal AS Ceidwadol a chyn-weinidog sydd wedi ei arestio ar amheuaeth o dreisio.
Mae aelodau Ceidwadol eraill yng Nghymru, sydd wedi gofyn i gael aros yn anhysbys, wedi codi pryderon am y system gwynion yn fan hyn hefyd.
Yn ôl un aelod, sy'n gadeirydd ar Gymdeithas Ceidwadol Lleol, mae angen "strwythur clir o ran pwy sy'n cymryd cyfrifoldeb dros gwynion".
"Ydych chi'n delio â chadeirydd y Gymdeithas Leol, y Cadeirydd Rhanbarthol, y Bwrdd yng Nghymru, neu'r Swyddfa Ganolog?" gofynnodd.
Roedd yr aelod hefyd yn feirniadol o ffordd y blaid o ddelio â honiadau yn erbyn Rob Roberts, gan ddweud y dylai fod wedi "colli'r chwip" a chael ei atal o grŵp y blaid yn San Steffan.
'Cynghori i gysylltu â'r heddlu'
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol eu bod nhw'n "ystyried bob cwyn yn ddifrifol".
"Mae gennym ni god ymddygiad lle y gall pobl wneud cwyn yn gyfrinachol," meddai.
"Os oes honiadau'n ymwneud â gweithredoedd troseddol yn cael eu codi, fe fyddem yn cynghori'r unigolyn i gysylltu â'r heddlu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2020
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2020