Ailedrych ar raddau cymhwyster BTEC ar y funud olaf

  • Cyhoeddwyd
Llythyrau canlyniadauFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai myfyrwyr wedi derbyn eu graddau yn barod

Mae bron i hanner miliwn o fyfyrwyr ar draws Prydain yn wynebu sefyllfa ansicr ar ôl i'r bwrdd arholi, Pearson, benderfynu ar y funud olaf i adolygu graddau cymwysterau galwedigaethol BTEC.

Dywedodd Pearson y byddan nhw'n ailedrych ar y graddau i wneud yn siŵr eu bod yn cyfateb â rhai Safon Uwch a TGAU, sydd nawr yn cael eu penderfynu ar sail asesiadau athrawon.

Mae'n golygu bod 450,000 o fyfyrwyr yn cael eu heffeithio gyda 250,000 ohonyn nhw wedi derbyn eu graddau wythnos ddiwethaf ac roedd disgwyl i'r gweddill gael eu cyhoeddi ddydd Iau.

Yn ôl penaethiaid mae'n amhosib deall bod newidiadau wedi eu gwneud mor hwyr.

Mae Pearson wedi ymddiheuro ac yn cydnabod bod y penderfyniad yn achosi ansicrwydd ychwanegol.

Cymhwyster ymarferol yw BTEC, ac mae modd ei astudio yn lle, neu ar y cyd, gyda Safon Uwch.

Bydd y cyhoeddiad gan y bwrdd arholi yn amharu hyd yn oed yn fwy ar fyfyrwyr sydd yn ceisio am lefydd mewn addysg bellach ac uwch.

'Angen esboniad'

Mae prifysgolion yn barod yn ei chanfod hi'n anodd ymdopi gydag effaith y newid graddau ar eu prosesau derbyn myfyrwyr eleni.

Dywedodd Geoff Barton, ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau, nad oedd yn gallu deall pam ei bod hi wedi cymryd cyhyd i Pearson sylweddoli effaith newid graddau ar gymwysterau BTEC.

"Mae angen iddyn nhw roi esboniad pam bod hyn wedi digwydd. Rydyn ni yn teimlo dros y myfyrwyr sydd wedi eu heffeithio flwyddyn yma pan maent yn barod wedi wynebu llawer gormod o darfu."

'Straen diangen'

Roedd Elle Kidd o'r Fflint wedi disgwyl cael ei chanlyniadau BTEC ddydd Iau.

Dywedodd ar raglen Breakfast BBC Radio Wales bod y penderfyniad i ail edrych ar y graddau wedi achosi "straen nad oedd angen" a dyw hi ddim yn gallu cadarnhau ei lle mewn coleg y flwyddyn nesaf i astudio Lefel 3.

Roedd hi'n disgwyl i gael canlyniadau Lefel 2 Trafnidiaeth a Thwristiaeth yng Ngholeg Cambria.

"Mae cyhoeddi hyn y noson cynt yn ymddangos ychydig yn ddiangen ac wedi gwneud i fi a lot o bobl i fod mewn panig," meddai.

"Mae lot ohonom ni wedi dod i wybod am y peth ar y cyfryngau cymdeithasol neu'r newyddion. O'n i mewn trallod achos doeddwn i ddim yn siŵr beth oedd mynd i ddigwydd, yn enwedig ynglŷn â chadarnhau llefydd flwyddyn nesaf."

Mae'n teimlo bod myfyrwyr BTEC wedi eu "anghofio" ond mae'n dweud bod y penderfyniad cywir wedi ei wneud i ailedrych ar y graddau i wneud yn siŵr eu bod yn cyfateb gyda rhai TGAU a Safon Uwch.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Pearson wedi dweud mewn datganiad bod canlyniadau BTEC yn "gyffredinol wedi bod yn gyson gyda disgwyliadau'r athro a'r dysgwr, ond rydyn ni wedi dechrau pryderu am yr annhegwch mewn cysylltiad â chanlyniadau sydd yn sylweddol uwch ar gyfer TGAU a Lefelau A".

Dywed y corff y byddan nhw'n adolygu'r graddau er mwyn gwneud yn siŵr bod yna "gysondeb" ar draws asesiadau gafodd eu marcio gan athrawon a'r graddau arholiadau nad oedd y myfyrwyr yn gallu eistedd eleni.

Eisiau 'sicrhau tegwch'

"Rydyn ni eisiau tawelu meddyliau myfyrwyr na fydd unrhyw raddau yn cwympo fel rhan o'r adolygiad.

"Ein blaenoriaeth yw sicrhau tegwch i fyfyrwyr BTEC mewn cysylltiad â Safon Uwch a TGAU ac nad oes yna unrhyw fyfyriwr BTEC o dan anfantais.

"Rydyn ni felly yn gofyn i ysgolion a cholegau i beidio â rhoi canlyniadau BTEC L1 a L2 ar 20 Awst gan y bydd y rhain yn cael eu hadolygu a pan fo yn addas yn cael graddau eraill."