Absenoldeb ymhlith gweithwyr y GIG ar ei waethaf erioed

  • Cyhoeddwyd
Gweithiwr iechyd dan straenFfynhonnell y llun, GETTY/skaman306

Roedd salwch ymhlith gweithwyr y GIG yng Nghymru yn uwch nag erioed yn nyddiau cynnar y pandemig coronafeirws.

Yn y tri mis hyd at fis Mawrth roedd 6% o staff y gwasanaeth i ffwrdd o'r gwaith gyda salwch - cynnydd o 0.4% ar yr un cyfnod yn 2019, a'r ffigwr uchaf ers dechrau cadw cofnodion yn 2008.

Mae'r ffigyrau'n ymwneud â'r cyfnod ychydig cyn i'r feirws gyrraedd ei uchafbwynt ym mis Ebrill, ac nid ydynt yn cynnwys gweithwyr iechyd oedd yn hunanynysu.

Mis Mawrth oedd yr uchaf o ran y ffigyrau absenoldeb misol hefyd, a dywed adroddiad y GIG fod hyn "fwy na thebyg oherwydd Covid-19, o ystyried yr amseriad".

Mae lefelau absenoldeb yn cael eu cyfrif trwy gymryd nifer yr absenoldebau a'u rhannu gyda'r cyfanswm o ddyddiau gwaith oedd ar gael ym mhob adran o'r GIG.

Salwch heb fod yn is na 5% erioed

Er ei bod yn un o ddwy adran lle'r oedd lefelau salwch wedi gostwng, y gwasanaeth ambiwlans oedd â'r raddfa uchaf, gyda 7.1% o'i gymharu â'r cyfartaledd Cymreig o 6%.

Cynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cefnogol oedd â'r lefelau uchaf o ran grwpiau o weithwyr, gyda 8%, gyda gweithwyr ambiwlans ar 7.5%, a nyrsys a bydwragedd ar 7.2%.

Dros y degawd diwethaf nid yw graddfeydd salwch ar gyfer y chwarter cyntaf erioed wedi gostwng yn is na 5% , ac mae wedi codi o 5.1% yn 2016 i 5.6% yn 2019.

Ffynhonnell y llun, Coleg Nyrsio Brenhinol
Disgrifiad o’r llun,

Nicky Hughes o'r Coleg Nyrsio Brenhinol

Dywedodd Nicky Hughes o'r Coleg Nyrsio Brenhinol ei bod yn disgwyl gweld y raddfa'n codi eto pan fydd ffigyrau'r chwarter nesaf yn cael eu rhyddhau - sy'n cynnwys y cyfnod pan oedd y coronafeirws ar ei anterth.

"Dwi'n dychmygu y byddwn yn gweld cynnydd yn yr wythnosau hynny cyn dechrau cynnal profion a phan yr oedd gennym gylchrediad anferth [o'r feirws] yn y gymuned," meddai.

Dywed Ms Hughes y byddai wedi gwneud gwahaniaeth i lefelau absenoldeb pe bai staff wedi cael eu profi'n gynt am y feirws.

'Galw am brofion yn gynt'

Cyhoeddodd gweinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething, y byddai gweithwyr rheng flaen y GIG yn cael eu profi o 10 Mawrth.

"Fe wnaethom alw am brofion yn gynt, roedd gennym staff efo symptomau - gallai fod yn coronafeirws, neu gallai fod yn annwyd cyffredin," meddai Ms Hughes.

"Roedd aelodau'n dweud 'Pe bawn i'n cael prawf gallwn fynd yn ôl i fy ngweithle.'

"Pe bawn ni wedi cael profion yn gynt, mae'n bosib y gallwn fod wedi cael pobl yn ôl i'w gwaith yn gynt."

Mewn ymateb i lefelau absenoldeb yn y gwasanaeth ambiwlans, dywedodd Helen Watkins, un o gyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth, fod natur y gwaith yn golygu fod staff yn cael eu gwthio i'r eithaf "yn gorfforol ac yn emosiynol".

"Nid yw ein ffigurau absenoldeb ar y lefel yr hoffwn iddynt fod, ond rydym yn un o ddwy adran ar draws y GIG yng Nghymru sydd wedi gwella o gymharu â'r un cyfnod y llynedd, ac rydym yn galonogol ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir."

Dywedodd undeb Unsain y byddai'r gwasanaethau iechyd yn cael "llawer gwell darlun o effaith Covid" yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Effaith hir-dymor ar staff

Meddai ysgrifennydd rhanbarthol yr undeb, Tanya Palmer: "Mae edrych ar ôl pobl sâl iawn yn ystod yr argyfwng wedi gosod straen feddyliol a chorfforol sy'n anodd ei ddychmygu ar weithwyr gofal iechyd a'u cydweithwyr yn y maes gofal cymdeithasol.

"Cafodd rhai eu taro'n wael, a thalodd eraill gyda'u bywydau am helpu eraill.

"Roedd hi'n her na welwyd erioed mo'i thebyg yn eu gyrfaoedd o'r blaen.

"Mae delio gyda marwolaeth ar y raddfa yma, pan nad oedd teuluoedd y cleifion yn gallu bod yn bresennol, yn debygol o gael effaith hir-dymor, ac rydym yn gwybod y bydd nifer yn dioddef o PTSD (Post Traumatic Stress Disorder).

"Mae'n ddyletswydd ar eu cyflogwr a'r llywodraeth i roi pob cymorth y mae'r bobl hyn ei angen."