Pennaeth ysgol yn rhoi teyrnged i 'ferch hoffus'
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi'u rhoi i ferch bymtheg oed "llawn hwyl, caredig a hael" a fu farw wedi digwyddiad mewn afon yng Nghaerdydd nos Wener.
Bu farw Nicola Williams yn Afon Rhymni yn ardal Llanrhymni wedi i'r gwasanaethau brys geisio achub ei bywyd.
Dywed Heddlu De Cymru nad ydynt yn trin y farwolaeth fel un amheus.
Roedd Nicola yn ddisgybl yn Ysgol Gatholig St Illtyd yn Rhymni ac mae ei phrifathro wedi ei disgrifio fel "disgybl cwrtais, parchus a oedd yn weithwraig ddiflino".
"Byddai unrhyw ysgol," meddai, "yn elwa o gael disgyblion fel Nicola a buom yn ffodus o'i chael fel rhan o'n cymuned ni," ychwanegodd David Thomas, pennaeth yr ysgol.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i ardal ger Bell Lane yn Llanrhymni am 17:20 nos Wener ynghyd â chriwiau tân, y gwasanaethau ambiwlans a hofrennydd yr heddlu.
Cafodd Nicola ei chanfod am 18:40 a bu farw er i'r gwasanaethau brys geisio ei hadfywio.
Ychwanegodd pennaeth yr ysgol: "Weithiau dyw geiriau ddim yn ddigon i wneud cyfiawnder â pherson ac mae hyn yn wir yn achos Nicola.
"Ry'n yn meddwl am ei theulu a'i ffrindiau a gweddill y gymuned ac fe wnawn yr hyn a allwn i'w cefnogi yn ystod ac wedi y cyfnod anodd hwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2020
- Cyhoeddwyd21 Awst 2020