Covid-19 - Dwy farwolaeth arall ac 20 achos newydd

  • Cyhoeddwyd
CoronavirusFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dau o bobl yn rhagor wedi marw o haint coronafeirws yng Nghymru yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae nifer y rhai sydd bellach wedi marw o Covid-19 yng Nghymru yn 1,592.

Yn ogystal mae 20 achos newydd o'r haint wedi'u cofnodi gan godi nifer y rhai sydd wedi cael prawf positif i 17,727.

Mae nifer y rhai sydd wedi cael prawf yng Nghymru yn 307,486 gyda 289,759 yn cael prawf negyddol.

Mae'r marwolaethau a gofnodwyd ddydd Sul yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac y mae 12 o'r 20 achos positif yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro - mae yna dri achos yng ngogledd Cymru a thri ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe.

Dyw ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru ddim yn cynnwys marwolaethau trigolion o Bowys mewn ysbytai yn Lloegr er bod y rhain wedi'u cynnwys yn nata y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.